Coroni'r Brenin Charles - dathlu ynteu osgoi?

  • Cyhoeddwyd
Menyw mewn het yn dathlu'r frenhiniaethFfynhonnell y llun, Chris Jackson/Getty Images

I nifer mae Coroni'r Brenin Charles ddydd Sadwrn yn achos dathlu, ond i eraill mae'n achlysur i'w osgoi.

Beth yw'r farn yng Nghymru ar drothwy digwyddiad brenhinol mawr y flwyddyn?

"Mae'r polau [piniwn] sydd wedi cael eu gwneud yng Nghymru, mae'r sample sizes yn weddol fach, felly maen nhw'n rhoi canlyniadau gwahanol," meddai'r Athro Martin Johnes o Brifysgol Abertawe.

"Mae rhai ohonyn nhw'n dweud bod pobl yng Nghymru yn fwy yn erbyn y teulu brenhinol na phobl yn Lloegr, ac mae rhai ohonyn nhw'n dweud bod pobl yng Nghymru yn cefnogi nhw'n fwy na phobl yn Lloegr.

"Dwi'n credu pan ti'n edrych arnyn nhw i gyd, y patrwm yw bod dim lot o wahaniaeth - bod y rhan fwyaf o bobl Cymru yn cefnogi'r syniad o gael brenin, ond yn enwedig pan ti'n edrych ar bobl ifanc mae mwyafrif yn erbyn."

Mae'n dweud bod daearyddiaeth yn ffactor hefyd, gydag awgrym bod y gefnogaeth i'r teulu brenhinol yn uwch yn y cymoedd na rhannau eraill o Gymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae patrymau agweddau at y frenhiniaeth yn ymddangos yn ddigon tebyg naill ochr Clawdd Offa, medd Yr Athro Martin Johnes

Yn ôl arolwg gan YouGov ar gyfer rhaglen Panorama'r BBC ym mis Ebrill, dywedodd 58% o bobl ledled y DU eu bod o blaid cadw'r frenhiniaeth, tra bod 26% eisiau gweriniaeth.

O'r 220 o bobl a gafodd eu holi yng Nghymru, roedd y canlyniadau'n eithaf tebyg - 58% o blaid a 29% yn erbyn.

Ymhlith pobl ifanc 18 i 24 oed, mae'r ganran o blaid cael gwared ar y teulu brenhinol yn uwch na'r rhai sydd eisiau iddo barhau.

I rai o ddisgyblion chweched dosbarth Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, does 'na fawr o ddiddordeb mewn materion brenhinol.

"Fi'n gwybod bod lot o bobl yn dadlau bod e'n rhan o draddodiadau'r Deyrnas Unedig, ac mae'n rhywbeth sy'n gwneud ni'n unigryw," meddai Bethan o Benarth.

"Ond yn bersonol, galle'r arian mae'r llywodraeth yn ei roi tuag ato fod yn mynd at bethau pwysicach."

Disgrifiad o’r llun,

Dyw Bethan a Tyrell ddim yn or-frwdfrydig ynghylch y coroni

Ychwanegodd Tyrell o'r Barri: "Dwi'n meddwl mae'r peth yn hollol hen ffasiwn i ni.

"Dwi'n meddwl does gan lot o bobl ifanc ddim diddordeb mawr fel oedd 'na flynyddoedd yn ôl."

Yn ôl Lleucu o'r Barri, "teulu brenhinol Lloegr ydyn nhw".

"Sa i'n teimlo'r angen i gefnogi'r teulu brenhinol achos dydyn nhw ddim yn perthyn i fy ngwlad i."

Disgrifiad o’r llun,

Kit, Lleucu a Ciara o chweched dosbarth Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg

Dywedodd Ciara o'r Barri: "Pan oedd y brenin yn Dywysog Charles, roedd e wedi gwneud llawer o waith elusennol fel y Prince's Trust.

"Ond mae'n gwlad ni mewn argyfwng economaidd ar y foment, ac mae llawer o arian yn cael ei wastraffu ar y coroni."

Yn ôl Kit o Benarth: "So fi'n teimlo unrhyw fath o gysylltiad, a bod yn onest, a dwi'n credu mai dyna yw'r farn gyda lot o ieuenctid Cymru."

'Hanesyddol'

Dangosodd arolwg gan YouGov ar 13 Ebrill bod dwy ran o dair o bobl y DU yn teimlo nad oedd ganddyn nhw fawr o ddiddordeb yn y coroni, gyda'r ganran yn codi i 75% ymhlith pobl iau.

Un sy'n sicr yn edrych ymlaen yw Katie Williams o Lanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin. Bydd hi'n teithio i Lundain ar gyfer y seremoni.

"Es i angladd y Frenhines a fi wastad wedi hoffi'r teulu brenhinol, felly fi'n credu bod e'n hanesyddol i gael y cyfle i fynd lan felly dyna pam fi'n mynd."

Disgrifiad o’r llun,

Dydy Katie Williams ddim isio colli'r cyfle i fod yn Llundain ar achlysur mor hanesyddol

Ond mae Tegwen Haf Parry, o Benrhyndeudraeth yng Ngwynedd, yn un o'r rhai fydd yn cadw draw ddydd Sadwrn.

"Fydda i ddim yn gwylio o gwbl," meddai.

"Mae ffrind i fi wedi gofyn i fi fynd draw i gartref Ellis Wynne ger Talsarnau - y Lasynys - am y diwrnod i jyst ymlacio, achos does 'na ddim Wi-Fi yna a does 'na ddim signal ffôn ac felly fydd o jyst yn ddiwrnod neis a chadw oddi wrth yr holl beth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Tegwen Haf Parry yn bwriadu osgoi gwylio'r coroni wrth ymweld â Lasynys

Dyw'r Athro Martin Johnes ddim yn credu y bydd seremoni'r coroni yn newid barn llawer o bobl.

"Dwi'n credu bydd y bobl sy'n cefnogi'r teulu brenhinol yn meddwl bod hwn yn rhywbeth pwysig iawn i ni fel cymdeithas, fel gwlad," meddai.

"Bydd rhai pobl fel fi yn jyst gwylio achos mae e ar y teledu - mae fe'n rhywbeth hanesyddol ac mae diddordeb 'da ni, ddim achos ni'n cefnogi fe ond jyst achos mae fe'n rhywbeth hanesyddol.

"Ond bydd lot o bobl - falle'r rhan fwyaf o bobl - ddim yn gwylio a mynd ymlaen gyda'u bywydau nhw.

"Mae'r dyddiau ble mae'r seremonïau fel hyn yn gallu tynnu pobl at ei gilydd wedi mynd."

Pynciau cysylltiedig