Gwasanaethau a phartïon pellach i ddathlu'r Coroni
- Cyhoeddwyd
Mae gwasanaeth arbennig o ddiolchgarwch wedi ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi i ddathlu Coroni y Brenin Charles III a'r Frenhines Camilla.
Roedd yna weddïau arbennig i'r Brenin a'r Frenhines yn ystod y gwasanaeth, a fynychwyd gan wleidyddion a ffigyrau cyhoeddus o'r hen Ddyfed ynghyd ag aelodau'r cyhoedd.
Ar draws Cymru cafodd digwyddiadau eraill eu cynnal hefyd, gan gynnwys rhagor o bartïon stryd i ddathlu'r achlysur.
Roedd hynny'n cynnwys picnic yng Nghastell Caerdydd - a hynny wedi i gannoedd o bobl brotestio yn y brifddinas ddydd Sadwrn yn erbyn y frenhiniaeth.
'Teimladau cymysg'
Yn bresennol yn y gwasanaeth yn Nhyddewi oedd Arglwydd Raglaw Dyfed, Sara Edwards, oedd wedi teithio yn ôl o'r Coroni yn arbennig ar ei gyfer.
"Roedd e'n fraint anhygoel i fod yna, ac ro'n i'n teimlo mod i yna ar ran pobl eraill gorllewin Cymru hefyd.
"Fe wnaeth e hefyd fy nharo i cymaint o Gymru oedd yn y seremoni - roedd e'n hanesyddol."
"Roedd rhaid i fi ddod 'nôl i Gymru - mae Tyddewi yn le mor arbennig i ni gyd, ac mae cysylltiadau brenhinol cryf yma hefyd."
Y Bont-faen ym Mro Morgannwg oedd un o'r trefi yng Nghymru fu'n cynnal rhagor o ddigwyddiadau Coroni ddydd Sul, a hynny mewn tywydd gwell nag y cafwyd ar y diwrnod ei hun.
"Ni'n canu pedair cân yn y sioe heddi," meddai Jen Denham o Gymdeithas Corawl Y Bont-faen.
"Mae'n ddiwrnod i ddod â'r gymuned at ei gilydd, ond cyfle hefyd i ddathlu bod Brenin newydd gyda ni."
Ond dywedodd Terry Williams, cyn-faer y dref, ei fod yn cydnabod nad oedd pawb "o reidrwydd yn dathlu'r coroni".
"Ry'n ni ond yn defnyddio penwythnos y coroni i ddod â'r gymuned ynghyd," meddai.
"Mae 'na deimladau cymysg am y coroni wrth gwrs, y gost, oes angen brenin ac ati, ond parti yw hwn ar gyfer y dref."
Yng Nghastell Caerdydd ddydd Sadwrn cafodd gynnau eu tanio i nodi'r foment pan gafodd Charless III ei goroni'n swyddogol fel brenin.
Roedd y lle wedi ei drawsnewid erbyn ddydd Sul ar gyfer picnic cymunedol, gyda'r glaw wedi cadw i ffwrdd.
"Roedd ddoe yn hollol wych, ond doedd y tywydd ddim yn dda iawn felly roedden ni'n meddwl y byddai heddiw'n gwneud lan am y peth," meddai Jacqueline Roberts, un o'r rheiny oedd yno.
"Roeddwn i'n 12 pan ddigwyddodd y coroni diwethaf felly roedd e ar sgrin fechan iawn. Y tro yma roedd e'n ysblennydd."
Mae ffigyrau cychwynnol wedi awgrymu bod cyfartaledd dros 18 miliwn o bobl ar draws y DU wedi gwylio seremoni'r Coroni ddydd Sadwrn, oedd i'w gwylio ar sianeli'r BBC, ITV a Sky.
Roedd hynny'n llai na'r 26.5 miliwn a wyliodd angladd y Frenhines Elizabeth II ym mis Medi'r llynedd, ond yn uwch na'r 13.1 miliwn a wyliodd gyngerdd Jiwbili Platinwm Y Frenhines yn 2022.
Cafodd Coroni Charles III hefyd ei wylio gan lai o bobl na chyhoeddiad y cyfnod clo Covid cyntaf (28.2m), seremonïau agoriadol a chloi Gemau Olympaidd Llundain 2012 (24.2m a 24.5m) a ffeinal Euro 2021 (22.5m).
A doedd cyffro'r Coroni yn amlwg ddim yn cael ei rannu gan bawb yng Nghymru chwaith, gan gynnwys yng nghanol Wrecsam brynhawn Sul.
"Does gen i ddim diddordeb ynddo fo o gwbl i fod yn onest, dwi ddim yn deall beth ydy'r ffys," meddai Tammy Marley.
"Does neb wir yn poeni, neb wedi 'neud unrhyw beth mawr. Roedden ni'n fwy cyffrous am y parêd pêl-droed y diwrnod o'r blaen, hwnna sydd wedi cymryd drosodd."
Ychwanegodd Liam Jones, 27, ei fod wedi "cario 'mlaen efo bywyd normal".
"Nes i wylio tua 10 munud ar y BBC ond dyna ni, 'sgen i jyst ddim diddordeb mawr, a'r rhan fwyaf o bobl dwi'n 'nabod hefyd," meddai.
"Mae lot o'r bobl dwi'n 'nabod yn meddwl bod ddim angen nhw arna ni."
Ychwanegodd: "Mae'n siŵr bod y bobl hŷn yn y teulu wedi gwylio tipyn ohono fo, ond y mwya' ifanc 'dach chi'n mynd, lleia' mae pobl yn poeni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2023
- Cyhoeddwyd6 Mai 2023
- Cyhoeddwyd5 Mai 2023