Help Llaw Mawr: 'Mae'n bwysig gofalu am ein cymunedau'
- Cyhoeddwyd
Mae pobl ledled Cymru yn cael eu hannog i ddefnyddio'r Gŵyl Banc ychwanegol i wirfoddoli.
Fel rhan o'r ymgyrch mae'r chwaraewyr rygbi Leigh Halfpenny a Jamie Roberts wedi bod yn codi sbwriel.
Bydd Archesgob Cymru hefyd yn codi ymwybyddiaeth o effaith llygredd plastig drwy lanhau traeth.
Mae'r Help Llaw Mawr (The Big Help Out) yn cael ei gynnal ledled y DU i nodi Coroni'r Brenin Charles.
Y nod ydy hyrwyddo cyfleoedd i wirfoddoli ac i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o wirfoddolwyr.
'Yr amgylchedd yn bwysig i'r brenin'
"Dw i'n meddwl bod y Coroni yn ddigwyddiad mawr i'r cyhoedd ym Mhrydain, ac mae'n amser i ddod at ein gilydd," meddai Jamie Roberts.
"Mae rhywbeth fel hyn yn ffordd o wneud hynny."
Ychwanegodd Leigh Halfpenny ei fod yn ymwybodol fod gofalu am yr amgylchedd "yn bwysig i'r Brenin".
"Mae'n bwysig ein bod ni'n gofalu am ein cymunedau a dyna hanfod y Big Help Out," meddai.
Arglwydd Raglaw Gwent, Robert Aitken, drefnodd gyfres o ddigwyddiadau i godi sbwriel ar draws sir seremonïol Gwent.
Dywedodd mai'r anrheg orau y gallai ei roi i Frenin sydd "gyda phopeth" oedd llythyr yn amlinellu sawl tunnell o sbwriel oedd wedi'i gasglu.
"Roedden ni eisiau dod o hyd i ffordd o ddathlu'r Coroni yn ardal Gwent ac roedden ni eisiau rhoi rhywbeth i'r Brenin fyddai wir yn golygu rhywbeth iddo," meddai.
"Roeddwn i'n meddwl y byddai glanhau'r ardal yn rhywbeth y byddai'n ei werthfawrogi yn fawr."
'Ffordd berffaith i nodi'r Coroni'
Bydd Archesgob Cymru, Andrew John, yn gwirfoddoli drwy lanhau traeth Dinas Dinlle, ger Caernarfon.
"Mae gan wirfoddolwyr gyfrinach nad yw llawer o bobl yn gwybod amdani sef: pan roddwch yn rhydd, rydych bob amser yn cael mwy yn ôl," meddai'r Archesgob.
"Dyna pam fod gwirfoddoli yn rhodd mor wych i'w ddathlu, pam fod rhoi yn rhan mor bwysig o'n ffydd Gristnogol, a pham mai'r ŵyl Help Llaw Mawr yw'r ffordd berffaith i nodi Coroni ein Brenin."
Yng Nghaergybi bu aelodau Girlguiding Cymru yn ennill bathodyn arbennig drwy glirio rhywogaethau ymledol ym Mharc Arfordirol Penrhos.
Yn ymuno â nhw yn y parc bu aelodau o'r Rangers, gyda'r Rainbows yn glanhau'r traeth, a'r Brownies a fu yn casglu sbwriel.
"Bydd dros 120 o aelodau yn dod ac mae 'na lawer o rieni a gwirfoddolwyr yn rhoi help llaw hefyd," meddai Louise Marsden, arweinydd y Girguilding a'r Rangers yng Nghaergybi.
"Rydym eisiau defnyddio'r diwrnod i ddangos ein bod ni'n wirfoddolwyr ac yn helpu yn y gymuned.
"Rydym hefyd eisiau hyrwyddo Girlguiding a chael mwy o bobl i wirfoddoli a hefyd gwirfoddoli ein hunain ddydd Llun fel rhan o'r Coroni," meddai.
'At ein gilydd fel cymuned'
Daeth dros 20 o bobl i wirfoddoli yng nghwt y sgowtiaid yn Llanandras ym Mhowys - roedd llawer o waith i'w wneud - ymhlith y pethau ar y 'rhestr dasgau' oedd strimio, chwynnu, sandio a phaentio'r cwt.
Roedd Peter Hood, 87 oed o bentref Pilalau, yn un o'r gwirfoddolwyr - bu'n glanhau polion y baneri.
Dywedodd Peter: "Dyma sut y dylen ni fod yn y wlad yma, pawb yn helpu ei gilydd. Byddai'r wlad yn dod i stop oni bai am wirfoddolwyr ac elusennau - dyw pobl ddim yn sylweddoli faint o arian, faint o amser sy'n cael ei roi gan elusennau a gwirfoddolwyr."
Hefyd yn helpu heddi bu Amelia, sy'n 9 oed a'i mam Mel.
Mae Amelia, aelod o'r grŵp Cubs lleol, wedi bod yn chwynnu ac roedd yn edrych ymlaen at beintio cwt y Sgowtiaid yn ddiweddarach.
Dywedodd Amelia: "Rwy'n meddwl bod hyn yn dda oherwydd ei fod yn helpu'r gymuned."
Cafodd Cwt y Sgowtiaid ei fandaleiddio ym mis Medi'r llynedd ac fe gafodd peth o'r offer ei ddifrodi.
Dywedodd Ann Dodd, Arweinydd y Grŵp Sgowtiaid: "Mae gennym ni 23 o bobl yma heddi ac maen nhw i gyd yn brysur iawn. Y syniad yw ailwampio cwt y Sgowtiaid. Mae natur wedi meddiannu pethau braidd, mae angen i ni gael rheolaeth yn ôl er mwyn y bobl ifanc.
"Yn anffodus, ym mis Medi fe dorrodd rhywun i mewn i'r cwt, fe wnaethon nhw lusgo popeth allan i'r cae gerllaw, tynnu llawer o'n hoffer crefftio i lawr, difrodi hwnnw, rhoi paent ar y llawr a mynd i mewn i'n storfa - roedd yn drist iawn."
Dywedodd Cadeirydd Grŵp y Sgowtiaid, Fiona Preece, "Rwy'n teimlo'n anhygoel gweld y gymuned yn dod at ei gilydd. Mae'n adeilad pwysig iawn i'r gymuned, a bydd y gwaith hwn yn helpu i gadw'r adeilad am flynyddoedd lawer i ddod. Mae'n anhygoel."
Mae mwy o fanylion ynghylch sut y mae'n bosib i wneud gwahaniaethyma.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2023
- Cyhoeddwyd7 Mai 2023
- Cyhoeddwyd5 Mai 2023