Dyn o flaen ynadon wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio

  • Cyhoeddwyd
Plismones ger y tŷ yng Nghlawdd Poncen
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad ym mhentref Clawdd Poncen yn gynnar ddydd Gwener

Mae dyn 27 oed wedi ymddangos o flaen llys wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio dynes a phlant mewn pentref ger Corwen.

Cafodd Ryan Wyn Jones, o Glawdd Poncen, ei gadw yn y ddalfa gan ynadon yn Yr Wyddgrug ar ôl cael ei arestio yn yr oriau mân ddydd Gwener.

Mae dynes 33 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol, ond sefydlog, yn yr ysbyty.

Mae plentyn hefyd wedi cael anafiadau difrifol ac yn parhau i gael triniaeth.

Fe gafodd dau blentyn arall eu cludo i'r ysbyty ond maen nhw wedi cael gadael.

Mae Mr Jones yn wynebu tri chyhuddiad o geisio llofruddio a chyhuddiad o fod â chyllell yn ei feddiant.

Siaradodd ond i gadarnhau ei enw a'i fanylion personol mewn gwrandawiad byr.

Doedd dim cais am fechnïaeth a bydd Mr Jones nawr yn mynd o flaen Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 9 Mehefin.

Pynciau cysylltiedig