Gwrthwynebiad i gynllun i gartrefu 400 ceisiwr lloches
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion pentref yn Sir y Fflint yn dweud y byddan nhw'n gwrthwynebu cynllun i gartrefu 400 o geiswyr lloches mewn cyn-westy.
Dyw perchnogion gwesty Northop Hall Country House ger Yr Wyddgrug hyd yma ddim wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio.
Ond maen nhw'n annog pobl leol i roi eu sylwadau erbyn 17 Mai.
Dywed y grŵp lleol sydd wedi ei ffurfio i wrthwynebu'r cynlluniau fod "y cynllun yn anghywir" a'i fod yn y "lle anghywir".
Mae'r Swyddfa Gartref yn dweud "y byddan nhw'n gweithio'n agos gyda chynghorau a phartneriaid i reoli yr effaith" yn lleol.
Wedi i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben mae cwmni Paymán Holdings 3 Ltd yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio ffurfiol i Gyngor Sir y Fflint.
'Cynyddu poblogaeth y pentref 25%'
Mae gwefan sy'n rhoi manylion am y cynllun yn dweud y byddai 250 o ddynion yn cael llety dros dro mewn unedau ym maes parcio'r gwesty, tra byddai 150 yn aros yn yr adeilad sydd â 37 ystafell wely.
Mae'n nodi y bydd y safle yn dychwelyd i fod yn westy wedi saith mlynedd.
Dywed Cyngor Ffoaduriaid Cymru bod ceiswyr lloches yn "dianc rhag rhyfel ac erledigaeth a bod yn rhaid eu trin gydag urddas a pharch wrth i'w ceisiadau am loches gael eu prosesu".
Cwmni Clearsprings Ready Homes (CRH) fyddai'n gyfrifol am weithredu'r cynllun - sef y cwmni y mae'r Swyddfa Gartref wedi ei benodi i wneud y gwaith yng Nghymru.
Dywedodd cadeirydd y cyngor cymuned lleol, John Gollege, sydd hefyd yn byw'n agos i'r safle, ei fod "wedi cael sioc" pan glywodd am y cynlluniau.
Mae'n pryderu am yr effeithiau posib ar y pentref sydd â phoblogaeth o tua 1,500 ar hyn o bryd.
"Byddai cael 400 dyn sengl yn cynyddu cyfanswm poblogaeth y pentref 25%," meddai.
"Byddai'n rhoi baich ychwanegol ar gyfleusterau cymunedol sydd yn barod o dan bwysau."
Ychwanegodd bod y gwasanaeth bws yn y pentref ond yn rhedeg oddeutu tair gwaith y diwrnod ac na fyddai gan y bobl a fyddai'n dod yno "unman i fynd".
'Syniad brawychus iawn'
Yn ogystal â'r gwesty mae tri thŷ preifat a chartref i gathod ar y safle.
Mae Kate Banjo yn byw gyda'i rhieni a'i merch ifanc yn un o'r tai sy'n ffinio â'r gwesty.
"Fy mhryder yw y byddai yna bobl... 400 dyn... nad ydym yn eu hadnabod.
"Gallen nhw fod o'r dre leol, neu o'r Wyddgrug, does dim ots."
Ychwanegodd ei bod yn pryderu am effaith y cynllun ar iechyd meddwl cannoedd o ddynion wrth iddyn nhw fyw'n agos - fyddan nhw methu cael gwaith a byddan nhw'n byw mewn ardal lle nad oes "dim i'w wneud".
Un arall sydd wedi lleisio'i phryderon yw Gill Davies, sy'n rhedeg y cartref cathod ac sy'n byw yn un o'r tai ger y gwesty.
"Byddai bywyd yn newid yn llwyr," dywedodd.
"Mi fydden i'n eithaf ofnus wrth gerdded o gwmpas. Mae cael 400 dyn o gwmpas yn lot."
Digon o staff a diogelwch
Fe gaeodd Northop Country House yn ystod y cyfnod clo cyntaf a llynedd cafodd ei werthu i gyfarwyddwr cwmni Paymán Holdings 3 Ltd, Na'ím Anís Paymán.Yn wreiddiol credwyd y byddai'r safle'n parhau i gael ei redeg fel gwesty, ond nid yw wedi ailagor.
Doedd Mr Paymán ddim am wneud sylw ar y cynlluniau.
Mae'r datganiadau cynllunio a dylunio sy'n rhan o'r ymgynghoriad yn dweud y byddai lefel uchel o staff a diogelwch ar y safle, a bod y cynllun yn "cydymffurfio ag amcanion cenedlaethol a lleol".
Ond mae'r AS lleol Rob Roberts wedi ysgrifennu at y Gweinidog Mewnfudo, Robert Jenrick, yn gofyn i'r safle gael ei ddiystyru fel hostel lloches ac mae wedi codi'r mater yn Nhŷ'r Cyffredin.
Ychwanegodd Cyngor Ffoaduriaid Cymru bod "gwasgu pobl i lety gwael yn benderfyniad esgeulus sy'n achosi iechyd gwael", fel a ddigwyddodd ym Mhenalun.
"Ry'n yn poeni am leoliad y safle, ymhell o unrhyw wasanaethau a ffyrdd o deithio - rhwystr arall i bobl sy'n ailadeiladu eu bywydau yng Nghymru.
"Mae ceiswyr lloches yn haeddu'r hawl i gael llety addas a digonol."
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Mae'r safleoedd llety yma yn cartrefu ceiswyr lloches mewn lle diogel tra eu bod yn aros am benderfyniad ynglŷn â'u ceisiadau.
"Rydym yn deall pryder cymunedau lleol ac mi fyddwn yn gweithio'n agos gyda chynghorau a phartneriaid allweddol er mwyn rheoli'r effaith o ddefnyddio'r safleoedd yma, gan gynnwys cysylltu gyda'r heddlu lleol i sicrhau fod trefniadau priodol wedi'u gwneud."
Dywedodd Cyngor Sir y Fflint fod yr ymgynghoriad cychwynnol yn rhywbeth sy'n cael ei weithredu gan y sawl sy'n gwneud y cais ac nad yw'r cyngor, hyd yma, wedi derbyn cais cynllunio ffurfiol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2022