Bydwragedd Cymru'n derbyn cynnig tâl diweddaraf
- Cyhoeddwyd
Mae'r undeb sy'n cynrychioli bydwragedd wedi derbyn cynnig tâl newydd gan Lywodraeth Cymru.
Yn dilyn cyfres o streiciau, fe wnaeth mwy na dau draean aelodau Coleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM) sy'n gweithio i'r GIG yng Nghymru bleidleisio o blaid derbyn y cynnig.
Mae'n cynnwys codiad cyflog o 5% ar gyfer eleni a thaliad untro o 3% wedi ei ôl-ddyddio i'r llynedd.
Fe ddaw hynny rai dyddiau wedi i aelodau'r undeb sy'n cynrychioli nyrsys yng Nghymru wrthod cynnig tâl diweddaraf y llywodraeth.
'Carreg filltir ar hyd ffordd hir'
Dywedodd Cyfarwyddwr RCM i Gymru, Julie Richards: "Mae ein haelodau wedi sefyll, codi eu llais, a bod yn barod i weithredu dros yr hyn maen nhw'n ei gredu ynddo a'i haeddu.
"Eu nerth ac argyhoeddiad, a rhai aelodau undebau eraill, ddaeth â'r llywodraeth i'r bwrdd ac a olygodd y cytundeb hwn."
Ynghyd â'r codiad cyflog, dywedodd Ms Richards y bydd y cynnig yn "mynd i'r afael â nifer o'r materion eraill sy'n pryderu'n haelodau", oherwydd "nid oedd hyn ond am y tâl".
"Roedd hyn hefyd yn ymwneud â gwella amodau i fydwragedd a'u cydweithwyr, ac yn bwysicach na dim, yn ymwneud â gwella gofal i fenywod," meddai.
"Nid dyma ddiwedd y broses; mae'n garreg filltir ar ffordd hir, ac mae'n rhoi sylfaen gadarn i ni edrych i'r dyfodol."
Dywedodd yr RCM y byddan nhw'n cwrdd â chynrychiolwyr undebau iechyd eraill yn ddiweddarach fis Mai i drafod canlyniadau pob ymgynghoriad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2023
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2021