Fred Dyer: Y bariton a bocsiwr
- Cyhoeddwyd
Mae rhai pobl sy'n ddigon ffodus i fod yn aml-dalentog, gan ragori mewn sawl maes. Ar droad yr ugeinfed ganrif roedd hyn yn wir am un dyn o Gaerdydd a oedd yn focsiwr, nofiwr ac yn ganwr o fri - Fred Dyer.
Ganwyd â'r enw Frederick William O'Dwyer yng Nghaerdydd ar 29 Ebrill, 1888 - roedd ei fam yn Gymraes a'i dad yn Wyddel. Roedd amodau ei blentyndod yn dlawd, ac o ganlyniad fe drodd at y bythau bocsio (cylchoedd bocsio bychain ble roedd pobl yn ymladd, yn aml mewn ffeiriau).
Mewn ffordd, roedd tynged Dyer i fod yn focsiwr a oedd yn canu'n eitha' sicr o'r dechrau - roedd ei dad yn focsiwr dyrnau noeth, ac roedd ei fam yn gantores gyda'r Royal Welsh Glee.
Oherwydd tlodi ei deulu fe ddechreuodd Dyer baffio i gael ychydig o arian. Roedd yn ymladd yn y bythau sioeau deithiol, ond pan wnaeth y Gymdeithas Focsio Amatur ffeindio allan am hyn fe gollodd Dyer ei statws amatur. Oherwydd hyn daeth ei obeithion o gystadlu yng Ngemau Olympaidd 1908 mewn cystadlaethau bocsio a nofio i ben.
Dechreuodd Dyer ei yrfa broffesiynol yn 1909 ac fe enillodd ei 16 gornest gyntaf, gan gynnwys buddugoliaeth yn erbyn ei gyd-Gymro a aeth 'mlaen i fod yn bencampwr Prydain ac Ewrop, Johnny Basham.
Ond tua'r un pryd ag oedd yn dechrau ar ei siwrne i focsio'n broffesiynol roedd yn cael hyfforddiant canu gan Madame Clara Novello Davies, mam Ivor Novello.
Ar ddechrau 1910 fe wynebodd Dyer Johnny Basham, a aeth yn ei flaen i fod yn bencampwr pwysau welter Prydain ac Ewrop. Enillodd Dyer yr ornest, ond dywedir bod y ffeit, a gynhaliwyd yng Nghasnewydd ar Ddydd Calan 1910, wedi'i ddal yn ôl yn rhy hwyr yn y nos i ganiatáu i Dyer i ymddangos mewn sioe matinee a sioe nos ble roedd yn canu yn y Stoll's Panopticon yn Heol Eglwys Fair yng Nghaerdydd.
Roedd Dyer yn ddewis poblogaidd gyda hyrwyddwyr bocsio gan y byddai'n canu'r gân boblogaidd o'r cyfnod, Thora, ar ôl pob gornest, ac roedd y pobl yn y dorf wrth eu boddau.
Ar glawr cylchgrawn Boxing News yn 1913 roedd llun o Fred Dyer wedi gwisgo fel cymeriad o opera Rigoletto gyda het fawr â phluen ar ei ben, a'r pennawd 'A man of many parts'.
Awstralia 1914-1915
Yn 1914 fe deithiodd Dyer i Awstralia, ble roedd yn bocsio ac yn perfformio mewn cyngherddau mawr ledled y wlad.
Ar y ffordd i Awstrlia fe stopiodd yn Ne Affrica ble roedd yn canu mewn cyngherddau, gan hefyd gwneud ymarferion bocsio ar y llwyfan a chynnig i unrhyw aelod or gynulleidfa ddod fyny i'w herio.
Yn 1915 roedd gornest yn erbyn Les Darcy, sydd yn cael ei gydnabod gan lawer fel bocsiwr gorau Awstralia erioed. Roedd y ddau yn cystadlu am bencampwriaeth pwysau canol y byd yn Stadiwm Sydney o flaen torf enfawr. Ond fe brofodd Darcy i fod yn rhy dda i Dyer ar y noson ac fe gollodd y Cymro yn y chweched rownd.
Ond yn ôl y sôn roedd Darcy'n dipyn mwy na'r Cymro ar noson yr ornest, gan bwyso 11 stôn 1 pwys, tra roedd Dyer yn 10 stôn 2 bwys.
Yr Unol Daleithiau 1916-1919
Penderfynodd Dyer roi cynnig ar ei lwc yn yr Unol Daleithiau, ac yn ystod ei amser yno hawliodd fuddugoliaeth gofiadwy dros Panama Joe Gans, a aeth 'mlaen i fod yn bencampwr byd. Roedd cynlluniau i Dyer herio pencampwr pwysau welter y byd, Ted 'Kid' Lewis, ond fe gafodd Lewis anaf i'w fys ac roedd rhaid canslo'r ornest.
Ond pan oedd yn yr Unol Daleithiau ar daith roedd ei gyngherddau canu a'r perfformiadau vaudeville yn denu torfeydd mwy na'r gornestau bocsio, ac roedd yn cael mwy o arian am ganu.
Cafodd anaf cas i'w ben-glin yn 1911 a olygai bod rhaid iddo ddefnyddio strap rownd ei ben-glin am gweddill ei yrfa. O ganlyniad i'r anaf yma mae'n debygol na wnaeth gyrfa Dyer gyrraedd yr uchelfannau y gallai fod wedi.
Hefyd, oherwydd yr anaf i'w ben-glin cafodd Dyer ei wrthod i'r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac dyma pam roedd yn paffio ac yn hyfforddi yn Awstralia ac yr Unol Daleithiau.
Pan ddaeth Dyer yn ôl i Ewrop fe deithiodd i Ffrainc gan ganu yn y theatrau ym Mharis.
Hyfforddi bocsio
Doedd heb focsio am naw mlynedd rhwng 1922 ac 1931 (roedd bellach yn canolbwyntio ar hyfforddi ac hywryddo), ond fe ddaeth nôl am bum gornest, gan ennill pedair a cholli un (ei ornest olaf).
Daeth ei ornest olaf yn Ebrill 1933, y mis pan drodd yn 45 - diwedd gyrfa ryfeddol dros 24 mlynedd. Mae gwahanol adroddiadau am ei record focsio, ond yn ôl y wefan bocsio BoxRec enillodd 45 gornest, collodd 15, gyda chwe gornest gyfartal.
Ar ddiwedd ei yrfa bocsio a tra roedd yn hyfforddi, roedd Dyer yn rhoi pwyslais mawr ar gymryd gofal o'r corff, ac yn hyfforddi yn benodol i hyn rydyn ni bellach yn ei 'nabod fel strength and conditioning. Roedd diet yn hollbwysig iddo hefyd, ac roedd yn gwneud diodydd o ffrwythau a llysiau, ac roedd yn grediniol bod hyn yn bwysig i ymladd yn erbyn pob math o salwch a chyflyrau.
Aeth ymlaen i gael gyrfa lwyddiannus fel rheolwr ac hyfforddwr bocsio- gyda'r bocsiwr pwysau plu Bert Kirby yn un o'i ddisgyblion. Ond fe ddiflannodd Dyer o lygaid y cyhoedd ar ddechrau'r 1940au ac mae diwedd ei fywyd yn ddirgelwch.
Dydi hi ddim yn glir pryd, sut a ble fu farw Fred Dyer. Ond roedd yn nofiwr o safon uchel, yn focsiwr a ymladdodd am bencampwriaeth y byd, yn hyfforddwr, rheolwr, ac yn ganwr clasurol nodedig - dyn amryddawn tu hwnt.
Hefyd o ddiddordeb: