Penygroes: Gwrthwynebiad i droi hen gae chwarae yn rhandir
- Cyhoeddwyd
Mae yna wrthwynebiad cryf gan rai o drigolion pentref yng Ngwynedd i gynllun i droi cae chwarae yn rhandiroedd.
Gobaith menter leol Siop Griffiths ydy troi hen gae chwarae 'Cwtin' ym Mhenygroes ger Caernarfon yn 15 rhandir (allotment), gan logi'r cae gan y cyngor cymuned.
Ond mae Newyddion S4C wedi clywed fod y cynlluniau wedi gwylltio rhai o drigolion y pentref, gyda grŵp o'r enw 'Ffrindiau Cwtin' wedi'i lansio i frwydro yn eu herbyn.
Yn ôl menter Siop Griffiths mae canlyniadau ymgynghoriad lleol o'r llynedd yn dangos bod yna awydd am gynllun o'r fath.
'Cae chwarae cyhoeddus olaf y pentref'
O'r gair Saesneg 'cutting' y daw'r enw Cwtin. Roedd y tir dan sylw yn arfer bod yn rhan o'r hen reilffordd.
Ond ym 1948 prynodd y cyngor cymuned y tir am £50 i ddarparu cae chwarae cyhoeddus i'r pentref.
Nid yw wedi cael unrhyw ddefnydd swyddogol ers rhai blynyddoedd, ond mae rhai trigolion yn erbyn y cynllun i'w droi'n rhandiroedd, gan alw am gae chwarae ar dir cwtin unwaith eto.
Un o'r rheiny ydy Gavin Parry, sy'n byw gyferbyn â'r cae.
"Fues i yma'n aml iawn pan o'n i'n fach. O'n i'n dod yma efo ffrindiau i chwarae yn y cae," meddai.
"Pan ddaeth y newyddion allan bo' nhw'n meddwl 'neud be oedden nhw'n meddwl 'neud, o'n i'n meddwl bod o'n warthus i fod yn onest.
"Dyma gae chwarae cyhoeddus olaf y pentref o be' dwi'n deall, felly byddai ei golli yn gadael ni heb unrhyw le i blant chwarae chwaraeon am ddim.
"Mae angen cae chwarae ar bob pentref."
Mae un o gymdogion Mr Parry, Alan Roberts yn cytuno ac yn teimlo nad oes digon o gyfathrebu gyda'r gymuned wedi bod am y cynllun.
Dywedodd fod "cyfathrebu a sicrhau bod trigolion lleol yn cael gwybod a mynegi barn" yn allweddol.
"Chawsom ni ddim hynny, a dyna pam fod pobl wedi bod yn gandryll am yr holl beth."
'Cynllun o fudd i'r gymuned'
Mae menter Siop Griffiths yn arwain ar sawl prosiect ym Mhenygroes yn barod, gan gynnwys rhedeg caffi'r orsaf.
Maen nhw'n dweud bod ymgynghoriad lleol y llynedd yn dangos bod 'na awydd am gynllun o'r fath, a'u bod wedi cynnal cyfarfodydd gyda phobl leol dros y misoedd diwethaf i drafod unrhyw bryderon.
"Mae canlyniadau'r ymgynghoriad yn dangos fod yna alw am fwy o fannau gwyrdd cymunedol yn Nyffryn Nantlle," meddai Gwenllian Spink o'r fenter.
"Gwnaeth 97% ddweud eu bod nhw'n gweld budd i erddi a mannau gwyrdd cymunedol, yn enwedig oherwydd yr argyfwng hinsawdd.
"O'dd 96% wedi nodi eu bod nhw isio dysgu mwy o sgiliau tyfu bwyd, ac roedd 38 unigolyn wedi nodi diddordeb cael rhandir.
"Felly 'dan ni'n gobeithio bydd y cynllun yma, os yn digwydd, o fydd i'r gymuned yma ym Mhenygroes."
Mae cais llawn Siop Griffiths yn cynnwys 15 llain i dyfu ffrwythau a llysiau, ardal ar gyfer planhigion gwyllt, sied gymunedol a thanciau dŵr, gyda grant ar gael trwy'r cyngor cymuned i gwblhau'r gwaith.
Mae Ffion Higgs yn byw'n lleol ac yn cefnogi'r cynllun, gan ddweud ei fod yn "syniad hyfryd i ddarn o dir sydd ddim yn cael ei ddefnyddio".
"Dwi'n siŵr fydd o'n lyfli i ni blannu pethau. Jyst 'neud o'n weithgaredd teuluol. Felly bydden i siŵr yn defnyddio fo."
Dywedodd cynghorydd sir yr ardal, Craig ap Iago: "Mae'r cais nawr yn nwylo'r cyngor cymuned ac mae disgwyl ateb ganddyn nhw fis Medi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2019