Dim pryderon am sychder fel haf 2022 yng Nghymru eleni

  • Cyhoeddwyd
Cronfa Llwyn-onnFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y sychder yn amlwg ledled Cymru yn haf 2022, fel yma yng Nghronfa Llwyn-onn ym Mannau Brycheiniog

Does dim bwriad gwahardd pibellau dŵr na chyhoeddi rhybuddion am sychder yng Nghymru eleni, yn ôl penaethiaid cwmnïau dŵr.

Mae lefelau cronfeydd dŵr ac afonydd wedi gwella, yn dilyn y gwanwyn a'r haf sychaf ers dros 150 o flynyddoedd yn 2022.

Ond, ochr yn ochr ag awdurdodau amgylcheddol a Llywodraeth Cymru, maent yn annog y cyhoedd i barhau i feddwl yn fwy gofalus am eu defnydd o ddŵr.

Dywedodd Dŵr Cymru nad oes amheuaeth fod newid hinsawdd yn effeithio ar gyflenwadau.

Eglurodd y prif swyddog gweithredol Peter Perry fod sychder y llynedd wedi bod yn "heriol iawn" i'r cwmni, gyda "stociau cronfeydd dŵr dan bwysau difrifol" a galw "digynsail" gan gwsmeriaid.

Ffynhonnell y llun, Dŵr Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae cronfa ddŵr newydd yn cael ei ddatblygu ym Mhengarnddu, Merthyr Tudful, ar hyn o bryd

Cafodd gwaharddiad ar bibelli dŵr ei osod yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin, gan effeithio ar tua 60,000 o dai.

Wrth i wythnosau o dywydd sych droi'n fisoedd heb law sylweddol, cyhoeddwyd yn y pendraw fod Cymru gyfan mewn sychder swyddogol.

Byddai'n Ionawr 2023 cyn i'r sefyllfa gael ei hystyried yn ôl i "normal" gan gorff gwarchod yr amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ond ar hyn o bryd mae lefelau cronfeydd dŵr "mewn lle da iawn", esboniodd Mr Perry.

'Dŵr yn adnodd gwerthfawr'

Rhwng Ionawr ac Ebrill 2023 derbyniodd Cymru 108% o'i glawiad disgwyliedig, gyda mis Mawrth yn un o'r gwlypaf a gofnodwyd erioed.

"Ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn rhagweld unrhyw gyfyngiadau eleni. Rydyn ni'n barod am haf anodd ac mewn sefyllfa dda i ddelio â hynny," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Peter Perry y bydd Cymru'n "wynebu amgylchiadau gwahanol iawn, iawn" o ran hinsawdd yn y dyfodol

Dywedodd Mr Perry fod y cwmni'n gorfod cynllunio "mwy nawr nag y buon ni erioed yn y gorffennol" ar gyfer cyfnodau hir o dywydd sych, o ganlyniad i newid hinsawdd.

Roedd rhan o hyn yn cynnwys buddsoddi £200m dros y pum mlynedd nesaf ar waith cadernid, gan gynnwys cysylltu'r gwahanol barthau cyflenwi dŵr yng Nghymru'n well, fel y gall ardaloedd â mwy o gyflenwadau helpu i ychwanegu at y rheiny sydd mewn trafferthion ar adegau o sychder.

"Rydyn ni'n wynebu amgylchiadau gwahanol iawn, iawn, gyda llai o law a thymheredd uwch," meddai Mr Perry.

"Yr hyn rydyn ni'n ei weld gyda newid hinsawdd yw'r ffaith bod dŵr yn adnodd gwerthfawr."

Wrth gydnabod fod gan y cwmni fwy i'w wneud i drwsio gollyngiadau, dywedodd y byddai hefyd yn annog y cyhoedd i "fod yn feddylgar yn eu defnydd o ddŵr".

'Newidiadau bach, gwahaniaeth mawr'

Mae'n neges sydd wedi ei adleisio gan y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James a ddywedodd fod "natur anwadal y tywydd ac effeithiau newid hinsawdd yn golygu y gall amodau newid yn gyflym".

"Ystyriwch sut rydych chi'n defnyddio dŵr ar hyn o bryd, ac am unrhyw ffyrdd y gallwch helpu i arbed dŵr," meddai mewn datganiad i nodi Wythnos Arbed Dŵr.

"Gall gwneud newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr.

"Mae treulio munud yn llai yn y gawod, diffodd y tap wrth olchi dannedd a pheidio â gadael i'r tap redeg wrth olchi llestri yn fan cychwyn gwych.

"Os byddwn yn defnyddio llai, byddwn yn gostwng faint o ynni a ddefnyddir ar gyfer cyflenwi dŵr a thrin dŵr gwastraff, a fydd o gymorth i leihau ein ôl troed carbon a'n gwneud yn fwy gwydn o ran newid hinsawdd."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r hinsawdd yn newid ac ni allwn ddibynnu ar y tymhorau i fod yr un peth," medd Hannah Garcia

Mae Green Squirrel, menter gymdeithasol gweithredu hinsawdd yng Nghaerdydd, wedi bod yn cynnal gweithdai yn dysgu pobl sut y gallant wneud eu gerddi yn fwy gwydn i sychder.

"Mae 'na lot fawr o ddiddordeb ar ôl tywydd poeth yr haf diwethaf," esboniodd rheolwr y prosiect, Hannah Garcia.

"Mae'n bendant yn rhywbeth y mae angen i bob garddwr ei ystyried nawr, oherwydd mae'r hinsawdd yn newid ac ni allwn ddibynnu ar y tymhorau i fod yr un peth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae prosiect Gerddi'r Rheilffordd wedi troi darn o dir diffaith yn ganolbwynt i'r gymuned yn ardal Sblot

Mae Ms Garcia yn rhedeg y sesiynau ar-lein ac o brosiect Gerddi'r Rheilffordd y fenter yn ardal Sblot - sydd wedi troi darn o dir diffaith rhwng traciau trên a thai lleol yn ganolbwynt i'r gymuned leol.

Mae pob adeilad yn yr ardd gyda system i gasglu a storio'r dŵr glaw sy'n syrthio ar eu toeau, ac mae'r gwelyau'n llawn o blanhigion i helpu cadw'r pridd wedi'i orchuddio a'i gysgodi fel ei fod yn cadw lleithder.

"Mae llawer o ymchwil wedi dangos mai ardaloedd trefol ac yn enwedig rhai incwm isel sy'n dioddef fwyaf yn ystod tywydd eithriadol o boeth - mae llai o goed a llai o gyfleoedd i bobl guddio o'r gwres," medd Ms Garcia.

"Felly bydd unrhyw beth y gallwn ei wneud i gynnig lle yma i bobl fod o gwmpas gwyrddni - ond hefyd eu cefnogi i wneud eu cartrefi eu hunain yn oerach ac yn fwy cysgodol - o fudd."

Pynciau cysylltiedig