Gwefan podlediwr hiliol a garcharwyd yn dal ar-lein

  • Cyhoeddwyd
James AllchurchFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd James Allchurch ei ddedfrydu i ddwy flynedd a hanner o garchar ddydd Llun

Rhybudd: Fe allai cynnwys yr erthygl beri gofid i rai.

Mae gwefan dyn a garcharwyd yr wythnos hon am rannu cynnwys "hiliol a gwrth-Semitaidd" yn dal ar-lein.

Cafodd James Allchurch, 51 o Sir Benfro, ei ddedfrydu i ddwy flynedd a hanner dan glo ddydd Llun.

Roedd y troseddau'n ymwneud â rhai podlediadau ar ei wefan, ond nid yw'r safle wedi'i dynnu o'r we, ac mae deunydd newydd wedi cael ei bostio arno hyd yn oed wedi iddo gael ei garcharu.

Dywedodd heddlu gwrth-derfygaeth bod dim ond modd tynnu deunydd sy'n croesi'r trothwy i fod yn droseddol.

'Potensial i ysgogi casineb hiliol'

Ar y safle, mae Allchurch yn defnyddio'r enw Sven Longshanks.

Yn ystod yr achos llys yn gynharach eleni, fe glywodd y rheithgor 15 rhifyn o'r podlediad oedd yn cynnwys trafodaeth am grogi pobl ddu ac Iddewig.

Fe gafodd cân ei chwarae oedd yn hyrwyddo arwahanu hiliol hefyd.

Mae'r deunydd yna oedd yn croesi'r trothwy i fod yn drosedd wedi cael ei dynnu oddi ar y wefan, ond mae llawer o ddeunydd arall yn parhau arno.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y barnwr fod iaith James Allchurch yn "staen ar ddynoliaeth"

Dywedodd Matthew Collins o fudiad Hope Not Hate: "Er ei fod yn y carchar, mae hiliaeth erchyll James Allchurch yn dal ar gael ar-lein i unrhyw un ei weld, ac mae'n debyg ei fod yn gwneud arian hefyd am fod y wefan yn gofyn am roddion.

"Mae cynnwys Allchurch yn beryglus ac mae ganddo'r potensial i ysgogi casineb hiliol."

'Edrych ar bob opsiwn'

Cafodd Allchurch ei ddal yn dilyn ymchwiliad gan heddlu gwrthderfysgaeth.

Dywedodd llefarydd o'r heddlu fod y cynnwys a arweiniodd at gyhuddo Allchurch wedi cael ei dynnu o'r wefan.

"Tra bod llawer o'r deunydd sy'n dal ar y wefan yn sarhaus dros ben, does dim ond modd tynnu cynnwys sy'n pasio'r trothwy troseddol," meddai.

"Er hyn, ry'n ni'n parhau i weithio'n agos gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron ac Uned Cyfeirio Ar-lein yr adran gwrthderfysgaeth i edrych ar bob opsiwn sydd ar gael i ni."

Cwmni Epik Holdings o'r Unol Daleithiau - sydd wedi cael ei gysylltu â gwefannau eithafol asgell dde - sy'n cynnal y wefan i Allchurch

Mae'r cwmni wedi cael cais am sylw.

Pynciau cysylltiedig