Heddwas yn cyfaddef cyffwrdd â dynes yn rhywiol

  • Cyhoeddwyd
Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y gwrandawiad fod PC Williams, a oedd yn arfer gweithio yng Ngheredigion, wedi ymddeol o'r heddlu fis Mawrth

Byddai cyn-swyddog, wnaeth ymddwyn yn "warthus" drwy gyffwrdd yn rhywiol â dynes mewn tafarn, wedi cael ei ddiswyddo pe na bai eisoes wedi ymddeol.

Dyna oedd casgliad gwrandawiad camymddwyn wedi i Simon Williams, cyn swyddog gyda Heddlu Dyfed-Powys, gyfaddef cyffwrdd â'r ddynes heb ei chaniatâd fis Tachwedd diwethaf.

Clywodd y gwrandawiad fod PC Williams, oedd yn arfer gweithio yng Ngheredigion, wedi ymddeol o'r heddlu fis Mawrth tra'r oedd yn destun i'r ymchwiliad.

Fe dderbyniodd rybudd amodol.

Roedd y digwyddiad, a ddigwyddodd pan nad oedd ar ddyletswydd, yn ymwneud ag ymddygiad rhywiol amhriodol, gan gynnwys cyffwrdd â'r ddioddefwraig yn rhywiol ac heb ei chaniatâd.

Wedi cyfaddef y drosedd mewn cyfweliad, roedd wedi anfon llythyr o ymddiheuriad at y ddioddefwraig, dywedwyd wrth y panel.

Ond penderfynodd y Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis, oedd yn cadeirio'r gwrandawiad, fod ymddygiad y cyn-swyddog gyfystyr â chamymddwyn difrifol.

Dywedodd pe bai Mr Williams yn dal i wasanaethu, y byddai wedi cael ei ddiswyddo, ac y dylid ei ychwanegu at restr gwahardd y Coleg Plismona.

Yn ei gasgliad, dywedodd Dr Lewis fod "ymddygiad Mr Williams ar y noson yn warthus ac y byddai wedi bod yn fater difrifol waeth beth fo'i statws o fewn cymdeithas".

"Mae'r ffaith ei fod yn heddwas yn gwasanaethu ar adeg y digwyddiad yn gwneud hwn yn achos arbennig o ddifrifol," ychwanegodd.

"Mae Heddlu Dyfed-Powys yn disgwyl y safonau uchaf gan ein swyddogion, staff a gwirfoddolwyr ac mae ymddygiad Mr Williams, yn yr achos yma, yn warthus.

"Mae ein meddyliau gyda'r dioddefwr."

Pynciau cysylltiedig