Môn: Adeilad hen ysgol bentref yn ôl yn nwylo'r gymuned

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gymuned Bodorgan
Disgrifiad o’r llun,

Fe gaeodd Ysgol Gymuned Bodorgan ei drysau yn 2018

Bum mlynedd ers cau ysgol gynradd ym Môn, mae'r adeilad oedd yn gartref iddi bellach yn nwylo grŵp cymunedol lleol.

Roedd 'na siom ac anghydfod ym Modorgan pan gaeodd yr ysgol gynradd ei drysau yn 2018.

Wrth i'r 11 disgybl symud i ysgol newydd sbon yn Niwbwrch, roedd pryderon byddai'r adeilad hefyd yn cael ei golli.

Ond diolch i ymdrechion grŵp cymunedol lleol, maen nhw bellach wedi sicrhau'r brydles ar yr adeilad.

Y bwriad, mewn amser, ydy ei uwchraddio a'i brynu gan y cyngor sir, gyda'r gobaith o'i agor allan i lu o weithgareddau cymunedol.

'Fe gollon ni ganolfan i'r gymuned'

Mae cymuned Bodorgan yn cynnwys casgliad o bentrefi gan gynnwys Malltraeth, Hermon, Llangadwaladr a Bethel.

Roedd marc cwestiwn dros ddyfodol yr ysgol am sawl blwyddyn cyn ei chau.

Ond roedd pryder hefyd y byddai colli'r adeilad yn gadael cornel o dde Môn heb yr un canolfan cymunedol o gwbl.

Disgrifiad o’r llun,

Ray Robertshaw a Jude Williams o grŵp Malltraeth Ymlaen

Mae'r grŵp cymunedol Malltraeth Ymlaen, yn dilyn trafodaethau gyda'r cyngor sir, bellach wedi sicrhau prydles ar yr adeilad ar ôl cyflwyno cynllun busnes.

Cafodd cais cynllunio i drosi'r adeilad yn swyddogol o ddefnydd ysgol i ganolfan gymunedol ei gymeradwyo yn gynharach yn y mis.

O ganlyniad mae ganddynt nawr dair blynedd i brynu'r adeilad yn ei gyfanrwydd, wedi cael cynnig telerau ffafriol gan Gyngor Môn.

Y bwriad erbyn hyn ydy chwilio am arian o ffynonellau allanol i wella'r adeilad a chasglu'r £90,000 sydd ei angen i'w brynu.

Dywedodd Ray Robertshaw, Cadeirydd Malltraeth Ymlaen Cyf, wrth Cymru Fyw: "Pan gaeodd yr ysgol fe gollon ni ganolfan i'r holl gymuned.

"Mi benderfynon ni fod rhaid gwneud rhywbeth ac mi aethon ati i siarad gyda'r cyngor sir.

"Mi oedd 'na sôn am ddymchwel yr ysgol, mi fasa hyn wedi bod yn rhywbeth hollol ddiarth i'r gymuned gan fod lot o bobl leol wedi mynychu'r ysgol ac mi oedd 'na gysylltiadau emosiynol yna.

"Does 'na ddim canolfan fel hyn yn y gymuned, ond rydan ni'n gobeithio ei agor allan yn ehangach na chymuned Malltraeth hefyd."

Ychwanegodd Mr Robertshaw eu bod hefyd mewn trafodaethau gyda Grŵp Llandrillo Menai ynglŷn â gwneud y gorau o'i gyn ddefnydd addysgiadol a chynnig dosbarthiadau yno.

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r murluniau sy'n addurno waliau'r hen ysgol

Gyda chae dwy acer yn rhan o'r stad, mae bwriad i gynnal diwrnod agored yno fis Mehefin.

Dywedodd Jude Williams, cyd-aelod o Malltraeth Ymlaen a chyn-ddisgybl o Ysgol Bodorgan: "Mae 'na lot o bethau wedi bod yn mynd ymlaen ond da ni wedi cael support da.

"Fel cyn-ddisgybl mae'n neis gweld y lle yn ei ôl ac yn cael ei ddefnyddio eto, fyswn i'm yn licio gweld o fel dim arall heblaw am ganolfan.

Disgrifiad o’r llun,

Neuadd Ysgol Gymuned Bodorgan

"Fydd y diwrnod agored yn gyfle i bawb gael gweld ein cynlluniau.

"Mae 'na lot o waith yn mynd ymlaen."

'Dlawd iawn'

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn fod prydles yn ei le dros gyfnod o dair mlynedd o 30 Mawrth 2023, yn amodol fod y safle yn cael ei ddefnyddio fel canolfan cymdeithasol.

O ganlyniad mae Malltraeth Ymlaen gyda chytundeb detholusrwydd [exclusivity agreement] i brynu'r eiddo o fewn cyfnod y brydles.

Disgrifiad o’r llun,

Y cynghorwyr sir dros Bro Aberffraw, Arfon Wyn a John Ifan Jones

Yn ôl y cynghorwyr lleol mae'n beth da fod dyfodol yr adeilad yn edrych yn fwy sefydlog.

"Mae o wedi bod yn sefyll ers dipyn rŵan ac mae'n bechod ei weld o felly, mae o'n adeilad da," meddai Arfon Wyn, un o'r cynghorwyr sir dros ward Bro Aberffraw.

"Mae'n chwith gan rywun weld ysgol dda fel hyn yn mynd yn wast ac mae'r criw yma yn benderfynol o wneud rhywbeth ohoni.

"Maen nhw wedi gafael ynddi a trio gwneud rhywbeth o ddifri er mwyn y gymuned leol.

"'Da ni wedi cael job i gael rhywle i gynnal syrjyris, does 'na nunlle ym Methel ac mae'n dlawd iawn ym Malltraeth hefyd."

Ychwanegodd y Cynghorydd John Ifan Jones: "Mae'n rhaid i ni ddiolch i Dylan Edwards yn adran eiddo'r cyngor am weithio mor galed hefo ni.

"Mae o wedi gwneud job ardderchog hefo'r cynllun yma o gysylltu hefo pawb ac fod hyn yn gallu digwydd."

Pynciau cysylltiedig