Amy Dowden o Strictly yn cyhoeddi diagnosis canser y fron

  • Cyhoeddwyd
JJ Chalmers ac Amy Dowden yn dawnsio ar gyfres 18 o Strictly Come Dancing
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd JJ Chalmers, sydd wedi bod yn gyd-ddawnsiwr i Amy, ei fod eisiau rhannu'r newyddion i helpu eraill

Mae'r ddawnswraig o raglen Stricly Come Dancing, Amy Dowden, wedi cyhoeddi bod ganddi ganser y fron gradd tri.

Cafodd ei diagnosis yr wythnos ddiwethaf, ar ôl cael profion amlach wedi iddi gwblhau taith gerdded elusennol yn ymwneud â'r afiechyd.

Mae Amy, 32, eisoes yn ymgyrchu dros ymwybyddiaeth yr afiechyd Crohn's, ac mae'n gobeithio y bydd rhannu'r newyddion yn helpu hi ei hun ac eraill wrth wella.

"Os ydw i'n gallu troi'r peth negatif mewn i rywbeth positif, mae'n mynd i helpu fi ddod trwy hyn," meddai.

Daeth Amy, sy'n dod o Gaerffili yn wreiddiol, yn ddawnswraig ar Strictly Come Dancing yn 2017. Rhannodd ei stori gyda chylchgrawn Hello! ac ar ei phroffil Instagram, dolen allanol.

Dywedodd: "Helo bawb, Mae gen i newyddion sydd ddim yn hawdd rhannu.

"Yn ddiweddar, cefais ddiagnosis o gancr y fron ond rwy'n benderfynol o fod 'nôl ar y llwyfan dawnsio cyn hir. Cariad mawr Cymreig, Amy."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Amy wedi bod ar Strictly ers 2017 ac wedi siarad yn gyhoeddus am fyw gyda'r afiechyd Crohn's

Mae Amy yn ymgyrchwraig actif dros afiechyd Crohn's ac yn llysgennad i Crohn's & Colitis UK, ers iddi gael y cyflwr yn blentyn.

"Rwyf wedi bod drwy lot yn fy mywyd a mae hwn yn rhwystr arall," meddai Amy.

"Ond os ydw i'n cadw'n gryf a phositif, mae siawns dda gyda fi fod 'nôl ar y llwyfan dawnsio cyn gynted â phosib.

"Dwi eisiau gwneud yr un peth gyda hwn a beth wnes i gyda'r Crohn's. Dydych chi byth yn meddwl bod e am ddigwydd i chi.

"Doeddwn i ddim yn meddwl bod e'n bosib cael canser y fron oedran fi. Mae Mam gyda chanser y fron, cafodd hi e yn hŷn, yn ei 50au."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Amy am gadw'n bositif wrth aros i glywed pa fath o driniaeth bydd ei angen

Ffeindiodd Amy lwmp ar ei bron ym mis Ebrill, ddiwrnod cyn hedfan i fynd ar ei mis mêl i'r Maldives gyda'i gŵr Ben.

"Roeddwn i yn y gawod a theimlais lwmp caled ar fy mron dde," meddai Amy.

"Roeddwn i mewn sioc. Edrychais i eto. A meddwl: 'Reit, falle ei fod yn gysylltiedig gyda'n mislif, neu rywbeth arall'. Penderfynais i gadw golwg arno fe am gwpl o wythnosau."

Tra ar ei gwyliau wrth roi eli ar ei chorff bob dydd, roedd hi'n gallu ei deimlo'n fwy amlwg.

Wrth boeni byddai'r straen yn cynhyrfu'r Crohn's, aeth hi'n syth i ymweld â doctor ar ôl dod 'nôl o'r gwyliau.

Ar ôl cael ei chyfeirio ar frys gan ei meddyg, dywedodd fod popeth wedi digwydd "mor gyflym".

Un o'r pethau cyntaf feddyliodd hi oedd pa mor hir fyddai'n cymryd iddi fod 'nôl ar y llwyfan ddawnsio.

Mae Amy yn dal yn aros i glywed mwy cyn iddi hi dderbyn ei chynllun triniaeth llawn, ond mae'n gwybod y bydd yn cynnwys llawdriniaeth.

Dywedodd Amy ei bod am ddefnyddio'r un cryfder meddyliol i ddelio gyda'r diagnosis canser a phan ffeindiodd hi allan am ei hafiechyd Crohn's.

"Dwi am fod mor bositif ag allai fod, a dwi eisiau i bawb sydd o'm hamgylch i fod yn bositif hefyd - mae hynny yn bwysig iawn," meddai.

"Dwi eisiau dweud pa mor bwysig yw gofalu am eich brest - os ydych yn ddyn neu'n fenyw."

Pynciau cysylltiedig