Cwt glan y môr yn Abersoch ar werth am £250,000

  • Cyhoeddwyd
Cwt glan môrFfynhonnell y llun, Beresford Adams
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwt dwbl yn Abersoch ar werth am £250,000

Mae cwt glan môr yn Abersoch wedi cael ei roi ar werth am £250,000 - sy'n uwch na phris tŷ ar gyfartaledd yng Nghymru.

Yn ôl y gwerthwyr, cwmni Beresford Adams, cafodd y safle ar draeth Porth Mawr ei brynu gan y perchennog rai blynyddoedd yn ôl.

Dyweodd y datblygwyr fod y cwt gwreiddiol wedi ei ddymchwel, gydag uned ddwbl 8m x 3m bellach wedi ei chodi yn ei le.

Nid dyma'r tro cyntaf i gwt traeth fynd ar y farchnad am bris uchel, ond dyma fyddai'r prisiau uchaf erioed am adeilad o'r fath yn y pentref glan môr poblogaidd ger Pwllheli.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer mis Mawrth 2023, pris cyfartalog tŷ yng Nghymru oedd £214,000.

'Yn erbyn pobl gyffredin'

Dywedodd Aelod y Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor, ei bod yn "sefyllfa gywilyddus pan fod rhywun yn medru gwerthu sied am chwarter miliwn o bunnoedd".

"Mae'n enghraifft perffaith o sut mae'r farchnad eiddo yn gadael Cymru i lawr os ydi sied yn mynd am y fath bris," meddai.

"Does gan bobl ifanc ddim gobaith o gwbl cael tai yn eu cymunedau eu hunain.

"Mae'n sefyllfa sy'n dangos yn glir pam fod angen i'r llywodraeth ymyrryd yn y farchnad trwy Ddeddf Eiddo, er mwyn cael rheolaeth ar y farchnad dai a dod â'r drefn yma i ben.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl cwt ar draeth Abersoch ym Mhen Llŷn, sy'n lleoliad poblogaidd i ymwelwyr, wedi gwerthu am bris uchel yn y blynyddoedd diwethaf

"Yr hyn sy'n amlwg yw bod y farchnad dai wedi ei rigio yn erbyn pobl gyffredin ac o blaid y rhai mwyaf ariannog.

"Mae'n rhaid dod â chyfartaledd yn ôl, a'r unig ffordd o wneud hynny yw ymyrraeth uniongyrchol gan y llywodraeth."

Mae disgwyl i'r cwt gael ei werthu drwy dendr anffurfiol gyda chynigion i fod i mewn erbyn dydd Gwener, 30 Mehefin.

Mae treth cyngor o £722 y flwyddyn ar yr eiddo, o'i gymharu â'r treth cyfartalog o £1,411 ar gyfer tai yng Ngwynedd, yn ôl y Principality.

Pynciau cysylltiedig