'Cynnig cyfleoedd' wrth ffurfio aelwyd Urdd mewn carchar

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Baner Aelwyd Y Parc
Disgrifiad o’r llun,

Baner yr aelwyd newydd - Aelwyd Y Parc - a'u harwyddair unigryw

Mae aelwyd newydd o'r Urdd wedi cael ei sefydlu yng Ngharchar Y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr - ac mae rhai o'r carcharorion eisoes wedi ennill gwobrau yn yr eisteddfod yr wythnos hon.

Fe wnaeth y mudiad ieuenctid sefydlu partneriaeth gyda'r carchar er mwyn "cynnig cyfleoedd diwylliannol Cymreig i droseddwyr".

Y bwriad yw eu helpu i baratoi ar gyfer cael eu rhyddhau, a mynd ymlaen i sicrhau cyflogaeth a hyfforddiant.

Yn cystadlu dan ffugenwau, mae gwaith dau garcharor o Aelwyd y Parc yn cael ei arddangos ochr yn ochr â holl enillwyr eraill y Pafiliwn Celf, Dylunio a Thechnoleg ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri.

Disgrifiad o’r llun,

Syniad Bethan Chamberlain, cynghorydd iaith Carchar Y Parc, oedd sefydlu eisteddfod yno

Dechreuodd y bartneriaeth ym mis Mawrth gyda gwahoddiad i'r Urdd fynychu eisteddfod Gŵyl Ddewi yn y carchar, lle'r oedd troseddwyr yn cystadlu mewn cystadlaethau llwyfan, ysgrifennu, barddoniaeth a chelf a chrefft.

Syniad Bethan Chamberlain, cynghorydd yr iaith Gymraeg i Garchar y Parc, oedd sefydlu'r eisteddfod a gofyn a gai'r carcharorion ymuno â'r Urdd.

"Roedd ymddygiad yr hogia' yn yr eisteddfod [yn y carchar] yn wych - cymaint o barch at yr eisteddfod, at yr iaith, a dyna beth 'dan ni angen," meddai.

"Ond be' sy'n bwysig ydi'r ffaith bod ni wedi cael cynnig i gystadlu yn y celf a chrefft [yn Eisteddfod yr Urdd] blwyddyn yma, a 'dan ni wedi dod yn gyntaf ac yn ail, ac mae'r hogiau mor hapus.

"Dydyn nhw ddim wedi arfer efo canmoliaeth, a 'dach chi'n gallu deud bod nhw'n perthyn i rwbath.

"Ac hefyd y sgiliau - mae'r sgiliau yn paratoi'r hogia' erbyn yr amser maen nhw'n mynd allan i'r gymuned - sgiliau maen nhw angen erbyn hyfforddiant tu allan."

Disgrifiad o’r llun,

Dyfarnwyd y wobr gyntaf yn yr eisteddfod i'r gwaith celf hwn gan un o'r carcharorion

Dywedodd Sian Lewis, prif weithredwr yr Urdd fod yr eisteddfod yn y carchar yn "ddigwyddiad hyfryd ac arbennig iawn".

"Roedd cael cymaint o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn gwahanol gystadlaethau yn wirioneddol ysbrydoledig a hoffwn longyfarch pawb a fu'n cystadlu yn eu hymdrechion," meddai.

"Roedd rhai o'r cystadleuwyr yn rhugl yn y Gymraeg tra bod eraill ar fannau gwahanol o'u taith o ddysgu'r iaith - ond roedd pob un yn rhannu angerdd a chariad at yr iaith a'r diwylliant.

"Mae'r Urdd heddiw yn Urdd sy'n ymgysylltu â phob person ifanc, beth bynnag fo'u cefndir, boed siaradwyr rhugl neu'n ddysgwyr o bob cwr o Gymru, ac sy'n wirioneddol adlewyrchu'r Gymru gyfoes yr ydym yn byw ynddi.

"Edrychwn ymlaen at ddatblygu ein partneriaeth gyda Charchar y Parc, i barhau i gynnig cyfleoedd celfyddydol a hefyd ymgysylltu mewn ffyrdd newydd gyda phobl ifanc y carchar trwy wasanaethau eraill yr Urdd."

Disgrifiad o’r llun,

Model o gell carchar gan un o garcharorion y Parc yn arddangosfa gelf a chrefft Eisteddfod yr Urdd

Dywedodd Janet Wallsgrove, Cyfarwyddwr Carchar y Parc, ei bod hi wrth ei bodd o weld llwyddiant y bobl ifanc yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

"Hoffwn ddiolch yn bersonol i Bethan Chamberlain, Cynghorydd yr Iaith Gymraeg i'r Carchar, am helpu i ddatblygu'r berthynas hon sydd wedi rhoi hwb i aelodau ein cymuned Gymraeg i arddangos eu dawn a'u gallu," meddai.

"Rwy'n falch iawn mai ni yw'r carchar cyntaf i gystadlu mewn digwyddiad mor fawreddog, ac mae'n wych gweld canlyniadau eu gwaith caled yn ennill cydnabyddiaeth gyhoeddus."

Stori cystadleuydd

Dyma rywfaint o gefndir un o'r rhai gafodd wobr ym Eisteddfod yr Urdd.

"Dwi'n 18 mlwydd oed ac yn wreiddiol o Gaerdydd. Ges i fy magu gyda Mam ond doeddwn i ddim yn adnabod fy nhad. Es i i ysgol gynradd Gymraeg a mwynheais yn fawr yno.

"Dechreuais golli fy ffordd ar ôl mynd i ysgol uwchradd Gymraeg. Dwi'n cofio cael aelod o staff wrth fy ochr ar bob adeg ac roeddwn yn dioddef o ADHD and dyslecsia.

"Y peth gorau am fod mewn Ysgol Gyfun Gymraeg oedd bod yn aelod o'r Urdd a chael y cyfle i fynd i Langrannog.

"Roedd yn lle anhygoel, yn enwedig gan ei fod yn adeg oedd yn anodd iawn i mi yn fy mywyd personol. Roedd yn braf dianc oddi wrth y cyfan a theimlo fel fy mod yn perthyn.

"Ym Mlwyddyn 9 symudais i ysgol ar gyfer plant trwblus. Dyma le daeth fy siwrne Cymraeg i ben ac roeddwn i wir yn gweld eisiau bod mewn ysgol lle'r oedd pawb yn siarad yr iaith.

"Yn 17 oed cefais fy rhoi yn y carchar a dyma lle wnes i ailgysylltu â'r Gymraeg drwy ymuno â'r gymuned Gymraeg. Mae'n anodd credu fy mod wedi gallu ymuno â'r Urdd yn y carchar a chystadlu yn yr Eisteddfod eleni.

"Dwi nôl yn fy lle hapus. Am y tro cyntaf dwi wedi creu rhywbeth anhygoel gyda fy nwylo fy hun, sgil na wyddwn i oedd gennyf, ac rwy'n teimlo cymaint yn fwy hyderus yn fy ngallu. Diolch i bawb am eu ffydd ynddof."