Ffos-y-fran i roi'r gorau i gloddio ddiwedd Gorffennaf
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith glo brig mwyaf yn y Deyrnas Unedig ger Merthyr Tudful wedi cael gwybod bod yn rhaid rhoi'r gorau i gloddio yno erbyn diwedd Gorffennaf.
Cafodd gorchymyn gorfodaeth ar safle Ffos-y-fran ei gyhoeddi ym mis Mai, yn dweud bod yn rhaid i'r gwaith ddod i ben.
Yn ôl Cyngor Merthyr Tudful bydd y gorchymyn yn dod i rym ar 27 Mehefin ac yna mae gan y cwmni 28 diwrnod i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.
Mae yna drafodaethau hefyd yn cael eu cynnal ynglŷn â strategaeth o ran adferiad y dirwedd.
Yn Ebrill, penderfynodd pwyllgor cynllunio'r sir i wrthod cais i ymestyn oes y safle tan Mawrth 2024.
Dywedodd y cwmni cloddio, Merthyr (South Wales) Cyf, fod angen y glo ar gyfer y diwydiant dur.
Dadl swyddogion cynllunio'r sir oedd nad oedd y cwmni wedi rhoi tystiolaeth ddigonol i gefnogi eu hachos.
Roedd y cwmni hefyd am oedi'r cynllun i adfer tirwedd y safle tan fis Mehefin 2026.
Fe wnaeth cynllun adfer Ffos-y-fran lwyddo i sicrhau hawl cynllunio yn 2005, gyda'r gwaith cloddio am 11 miliwn tunnell o lo yn dechrau dwy flynedd yn ddiweddarach.
Nod arall y cynllun oedd adfer gwyrddni'r safle er budd y gymuned wrth i'r gwaith cloddio fynd yn ei flaen.
Ond mae Merthyr (South Wales) Cyf wedi cyfaddef nad oes digon o arian wedi ei neilltuo ar gyfer cwblhau'r gwaith adfer, a bod angen mwy o amser i gytuno ac ymgynghori ar gynllun adfer newydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2023