Gwynedd: Pum safle cartrefi modur newydd - ond galw am fwy

  • Cyhoeddwyd
cerbyd gwersyllaFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Cyngor Gwynedd wedi creu pum safle swyddogol ar gyfer cartrefi modur o fewn y sir - ond mae 'na alw am fwy.

Caernarfon, Llanberis, Pwllheli a Chricieth yw'r lleoliadau ar gyfer yr arosfannau arbennig, gyda phumed i ddod yn ardal Meirionnydd.

Bydd hawl gan gartrefi modur aros yn y safleoedd yma am hyd at 48 awr, gan elwa o gyfleusterau fel dŵr glân a biniau ailgylchu.

Ond mae pobl yn ardal Porthmadog a Phortmeirion yn galw am fwy o safleoedd.

Mae cartrefi modur yn achosi trafferthion i bobl leol, medd rhai, wrth i dwristiaid heidio i Wynedd dros yr haf yn eu cerbydau mawr.

Dywedodd un gŵr o Borthmadog bod perchnogion cartrefi modur yn dangos "diffyg parch" tuag at yr ardal.

Yn ôl un arall maen nhw'n "aml yn parcio mewn mannau na ddylan nhw".

Disgrifiad o’r llun,

Mae pentref Eidalaidd Portmeirion ger Porthmadog yn denu tua 250,000 o ymwelwyr bob blwyddyn

Mae yna rwystredigaeth ymysg rhai pobl yn nhref Porthmadog na fydd arosfannau yn cael eu hadeiladu yno.

"Os oes 'na le penodol i'r cerbydau yma fynd, 'sa hynny'n dda," meddai Tomos Jones, perchennog siop goffi ym Mhorthmadog.

"Dwi'n deall y trafferthion maen nhw'n gallu achosi yn lleol, ond 'da ni methu cael gwared arnyn nhw achos 'da ni angen eu pres nhw.

"Does 'na'm busnes ym Mhorthmadog heb dwristiaeth."

'Ddim yn fwy nwylo i'

Y Cynghorydd Nia Jeffreys, sy'n cynrychioli ward Dwyrain Porthmadog, ydy dirprwy arweinydd y cyngor sir a'r aelod cabinet dros ddatblygu'r economi hefyd.

"Mae'r lleoliadau ar gyfer yr arosfannau wedi eu lleoli o fewn pellter cerdded i drefi a chyrchfannau allweddol yma yng Ngwynedd," meddai.

"Y bwriad ydy annog defnydd o gysylltiadau trafnidiaeth ac isadeiledd lleol yn ogystal â sicrhau nad yw busnesau lleol yn colli allan wrth i bobl ddod i fwynhau'r profiad twristiaeth unigryw sydd gan Wynedd i'w gynnig."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys fod y penderfyniad "allan o'i dwylo"

Pan ofynnwyd iddi pam na fydd Porthmadog yn un o'r ardaloedd a fyddai'n buddio o'r cynllun, fe ddywedodd hi "nad fi sy'n dewis y lleoliada'".

"Mae 'na reolau cynllunio 'da ni'n gorfod mynd trwy. Fy newis cynta' i bob amsar ydy Porthmadog ond doedd o ddim yn fy nwylo i mae arna i ofn."

Ond pwysleisiodd y cynghorydd bod y cynllun arosfannau yn mynd "llaw yn llaw gyda sicrhau bod mwy o swyddogion ar gael i fonitro cerbydau gwersylla ar draws y sir".

Mae pentref bach Portmeirion, lawr y ffordd o Borthmadog, wedi gwneud cais i'r cyngor yn gofyn am drwydded i ddarparu mwy o safleoedd ar gyfer cerbydau gwersylla.

Dywedodd Robin Llywelyn, rheolwr gyfarwyddwr Portmeirion, ei fod yn awyddus hefyd i ymestyn hyd y cyfnod mae hawl defnyddio safle o'r fath.

"Mae'r galw yn gynyddol am lefydd safonol i barcio cerbydau gwersylla efo'r adnoddau megis cawodydd a thoiledau.

"Maen nhw yn cyfrannu'n dda yn yr ystyr bod nhw yma am noson neu ddwy neu dair, yn defnyddio'r adnoddau, hwyrach yn mynd am bryd o fwyd i un o'r bwytai ac yn crwydro'r pentref."