Trelái: Arestio cyfanswm o 20 person ar ôl anhrefn

  • Cyhoeddwyd
TrelaiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd nifer o geir eu llosgi yn yr anhrefn ar strydoedd Trelái ar 22 Mai

Mae cyfanswm o 20 o bobl wedi eu harestio bellach fel rhan o ymchwiliad yr heddlu i'r anhrefn yn Nhrelái, Caerdydd fis diwethaf.

Fe welwyd golygfeydd treisgar yn yr ardal yn dilyn marwolaethau dau fachgen lleol ar 22 Mai.

Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, yn dilyn gwrthdrawiad ar Ffordd Snowden toc wedi 18:00 y noson honno.

Clywodd cwest yr wythnos hon mae anafiadau i'r pen oedd achos eu marwolaethau.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod disgwyl i ragor o bobl gael eu harestio wrth i'w hymchwiliad barhau.

Wrth rannu diweddariad ar yr ymchwiliad ddydd Gwener, dywedodd yr heddlu fod 17 dyn a thair menyw - rhwng 14 a 36 oed - wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Yn ystod y terfysg, fe gafodd sawl car eu rhoi ar dân ac fe gafodd swyddogion yr heddlu eu hanafu.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd teyrngedau eu gadael i'r ddau ffrind, Harvey Evans a Kyrees Sullivan, wedi'r digwyddiad

"Fel rhan o'r ymchwiliad hyd yn hyn, mae dros 290 o fideos o gamerâu corff heddweision wedi'u casglu," dywedodd yr Uwch Swyddog Arolygu, Ceri Hughes.

"Mae hynny'n ogystal â sawl awr o fideos wedi'u postio ar gyfryngau cymdeithasol, drôn, hofrennydd, a lluniau teledu cylch cyfyng.

"Mae disgwyl i ni arestio rhagor wrth i ni barhau i adnabod y rheiny oedd yn rhan [o'r anhrefn]."

Ychwanegodd eu bod yn dal i apelio am lygad dystion, gwybodaeth a deunydd fideo.

Pynciau cysylltiedig