Oes gormod o'r eisteddfod yn cael ei ddangos ar y teledu?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cor yn Eisteddfod yr UrddFfynhonnell y llun, Eisteddfod yr Urdd

Mae sylfaenydd Ysgol Glanaethwy, Cefin Roberts, wedi awgrymu bod gormod o'n prif eisteddfodau bellach i'w gweld ar y teledu - a bod hynny'n effeithio ar y nifer sy'n eu gwylio ar y maes.

Tra'n cyfrannu at slot Munud i Feddwl ar raglen Bore Cothi ar Radio Cymru ddydd Mawrth, awgrymodd Mr Roberts fod gormod o ddylanwad gan y cyfryngau ar y gwyliau cenedlaethol.

Ychwanegodd y gallai dangos gormod o gystadlaethau ar y teledu, fel yn Eisteddfod yr Urdd yr wythnos diwethaf, fod yn "hoelen olaf yn arch ein heisteddfodau cenedlaethol".

Mewn ymateb dywedodd S4C eu bod yn "falch o fod wedi cydweithio yn agos iawn gyda'r Urdd", a bod ffigyrau gwylio eu rhaglen uchafbwyntiau wedi dyblu ers y llynedd.

'Ble mae'r feirniadaeth?'

Wrth adlewyrchu ar yr hyn a welodd yn ystod Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri'r wythnos diwethaf, awgrymodd Mr Roberts fod llai bellach yn gwylio cystadlaethau ar y maes gan ei bod hi'n haws bellach eu dilyn o gartref.

"Gallwn rŵan aros adra a phicio o'r pafiliwn coch i'r gwyrdd i weld yr holl gystadlu heb symud modfedd," meddai.

"Ai dyna pam yr oedd y pafiliynau eu hunain ond yn chwarter llawn i nifer o'r cystadlaethau? Pwy sy'n rheoli ein heisteddfodau ni erbyn hyn?

"Y rhai a dalodd am eu tocynnau ydi'r gynulleidfa bwysicaf mewn 'steddfod, nid y rhai a dalodd am eu leisans teledu.

Dywed yr Urdd fod 170 o wahanol gystadlaethau llwyfan i blant a phobl ifanc yn yr eisteddfod yn Llanymddyfri yr wythnos diwethaf, a'u bod "yn falch o gynnig Llwyfan i Bawb i bob cystadleuydd sydd yn cyrraedd y genedlaethol".

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cystadleuwyr yn cael clywed eu canlyniadau ar Lwyfan y Cyfryw Eisteddfod yr Urdd - ond mae'r feirniadaeth yn cael ei rhoi ar wahân

Cyfeiriodd Cefin Roberts hefyd at y drefn o draddodi beirniadaethau o'r llwyfan yn eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol.

Roedd beirniadaeth o'r llwyfan yn yr Eisteddfod Genedlaethol "wedi'i chrebachu'n o arw, a beirniadaethau llwyfan yr Urdd wedi diflannu'n llwyr," meddai.

"Bellach mae'r canlyniad wedi mynd yn debycach i ganlyniadau sioe dalent - ffanffer a sgrechian a sbloets a drum roll a dim math o eglurhad sut y daethpwyd i'r canlyniad," meddai.

Gofynnodd ai plygu "i ofynion y cyfryngau ydi peth fel hyn?".

Disgrifiad o’r llun,

Cefin Roberts

Roedd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn dal i roi lle blaenllaw i feirniadaeth o'r llwyfan, meddai Mr Roberts, "gan barchu'r ffaith fod y gynulleidfa yn ogystal â'r cantorion a'r dawnswyr yn haeddu clywed pam y dyfarnwyd y wobr i'r naill grŵp neu'r llall".

Dywedodd llefarydd ar ran yr Urdd fod yr eisteddfod yn cynnig 170 o wahanol gystadlaethau llwyfan i blant a phobl ifanc, "ac yn falch o gynnig Llwyfan i Bawb i bob cystadleuydd sydd yn cyrraedd y genedlaethol".

"Mae Llwyfan i Bawb yn cynnig cyfle i hyd at 22 o unigolion, parti, grŵp neu gôr i berfformio ym mhob cystadleuaeth," meddai.

"Golygir hyn bod cyfle i filoedd o blant a phobl ifanc Cymru ennill profiad o gystadlu ar lwyfannau'r Eisteddfod dros gyfnod yr ŵyl.

"Darperir beirniadaeth lawn i bob cystadleuydd sydd yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd er mwyn rhoi adborth i'w helpu i barhau i ddatblygu o fewn eu maes."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Gyda modd gwylio cymaint o'r cystadlu ar y teledu, oedd llai'n mynd i'r pafiliwn ei hun i wylio oherwydd hynny?

Mewn ymateb i sylwadau Mr Roberts am nifer yr oriau darlledu, dywedodd llefarydd ar ran S4C eu bod "yn falch o fod wedi cydweithio yn agos iawn gyda'r Urdd er mwyn gwireddu eu gweledigaeth ddarlledu ar gyfer yr ŵyl".

"Eleni, roedd S4C yn cynnig mwy o ffyrdd nag erioed o wylio gyda'r holl gystadlu o'r Pafiliwn Coch, y Pafiliwn Gwyn a'r Pafiliwn Gwyrdd yn cael eu ffrydio'n fyw ar S4C Clic o 8:00 y bore hyd at ddiwedd y cystadlu," meddai.

"Dros yr wythnos roedd yna 77,000 o sesiynau gwylio'r ffrydio byw o'r pafiliynau hyn.

"Fe wnaeth y gynulleidfa oedd yn gwylio rhaglenni uchafbwyntiau nosweithiol S4C ddyblu o gymharu â llynedd, ac roedd cynnydd hefyd o 17% yn y niferoedd gwylio yn ystod y prynhawn o gymharu â 2022."

Ond roedd angen edrych yn fwy manwl ar yr ystadegau, yn ôl Cefin Roberts.

"Dydw i ddim yn beirniadu neb ond mae isio sbïo ar yr ystadegau'n fwy manwl na jest deud pa mor ffantastig oedd y niferoedd ar y teledu," meddai.

"Doedd o ddim cystal yn y pafiliwn."