Mwy o bobl dan 20 oed yn boddi'n ddamweiniol
- Cyhoeddwyd

Mae sioe lwyfan newydd yn adrodd stori meddyg sy'n galaru wedi trasiedi 'tombstoning' sef neidio neu ddeifio o uchder i ddŵr
Er bod achosion o foddi'n ddamweiniol ar draws Cymru wedi gostwng am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, mae cynnydd wedi bod ymhlith pobl o dan 20.
Llynedd bu 48 o farwolaethau yn gysylltiedig â dŵr yng Nghymru - roedd 22 yn achosion o foddi damweiniol.
Er bod nifer y marwolaethau yn is na'r 26 a gofnodwyd y flwyddyn flaenorol, roedd pedair o'r 22 marwolaeth yn bobl dan 20 oed - y nifer uchaf ar gofnod.
Dywed y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wrth Newyddion S4C bod y ffigyrau yn rhai sy'n "peri pryder mawr" iddi.
Gyda 46% o farwolaethau o ganlyniad i foddi yn digwydd ym misoedd Mehefin, Gorffennaf ac Awst, mae 'na alw ar blant a phobl ifanc i gael addysg am beryglon dŵr.
Mae sioe lwyfan newydd, sy'n adrodd stori meddyg sy'n galaru wedi trasiedi 'tombstoning', sef neidio neu ddeifio o uchder i ddŵr, yn annog pobl ifanc i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.

Y nod yw cyflwyno'r neges am beryglon dŵr i blant pan maen nhw'n ifanc, meddai'r cyfarwyddwr Tom Blumberg
"Mae lot o beryglon 'di pobl ifanc ddim yn ymwybodol ohonyn nhw," eglurodd Tom Blumberg, cyfarwyddwr sioe Y Naid gan gwmni Theatr na nÓg.
"Falle fod sioe fel hyn i blant blynyddoedd 5 a 6 yn teimlo yn eithaf ifanc ac yn ddwys, ond y bwriad yw ein bod ni'n cyrraedd y plant yma cyn eu bod nhw'n dechrau neidio mewn i'r dŵr."
Ers y sioe gyntaf bum mlynedd yn ôl mae'r sioe wedi teithio i nifer o ysgolion yng Nghymru, ac addaswyd y sgript i ffilm fer yn ystod y pandemig yn 2021.

Mae'n bwysig bod yna drafodaeth am beryglon dŵr, medd Bethan Owens-Jones
Dywedodd Bethan Owens-Jones, o Awdurdod Harbwr Caerdydd sy'n un o gomisiynwyr y ddrama, eu bod nhw'n "cymryd hyn yn ddifrifol iawn".
"Mae'n bwysig fod pobl yn siarad am y peryglon ac mae'r cynhyrchiad yn ffordd o gyrraedd pobl ifanc yn benodol," meddai.
'Addysgu yn hollbwysig'
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: "Er bod gostyngiad wedi bod yn nifer yr achosion o foddi damweiniol yng Nghymru, mae'r cynnydd mewn marwolaethau boddi damweiniol ymhlith pobl ifanc yn peri pryder mawr.

Yr arfer o tombstoning, neu neidio i'r dŵr o uchder, sydd dan sylw yn y ddrama i ddisgyblion ysgol
"Rwy'n cydymdeimlo'n ddwys ag unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan ddigwyddiad mor drasig.
"Mae addysgu pobl ar sut i fod yn ddiogel ger dŵr yn hollbwysig a hoffwn ddiolch a llongyfarch pawb sy'n rhan o Theatr na nÓg am eu gwaith ar y cynhyrchiad addysgiadol."
Ar drothwy misoedd yr haf mae pwyslais ar bobl o bob oed i fod yn wyliadwrus o beryglon dŵr - boed hynny mewn dŵr agored, afonydd neu foroedd.

"Rhaid bod yn ymwybodol o beryglon," medd Tirion Dowsett o'r RNLI
Yn ôl Tirion Dowsett o Wasanaeth Bad Achub yr RNLI, bod yn ymwybodol o'r peryglon yw'r flaenoriaeth.
"Ni eisiau i bobl gael hwyl ar y traeth," meddai. "Ond gall pethau ddigwydd yn y môr, yn enwedig ar draethau sydd heb achubwyr bywyd.
"Os mae rywbeth yn digwydd y peth pwysicaf yw galw 999 a gofyn am wylwyr y glannau.
"Ond os ydych chi yn y môr eich hunan, beth mae'r RNLI yn gofyn i chi wneud yw arnofio ar eich cefn ac arnofio i fyw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd28 Mai 2021
- Cyhoeddwyd13 Awst 2017