Casnewydd: Dyn 25 oed yn gwadu llofruddio mam-gu 'hoffus'
- Cyhoeddwyd

Mewn teyrnged dywedodd teulu Kelly Pitt ei bod yn "enaid prydferth, ac yn berson hyfryd"
Mae dyn wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth mam-gu "hoffus" o Gasnewydd.
Fe ymddangosodd Lewis Bush, 25, yn Llys y Goron Casnewydd ar gyhuddiad o lofruddio Kelly Pitt fis diwethaf.
Cafodd Ms Pitt, 44, ei chanfod yn anymwybodol ar ôl i'r heddlu cael eu galw i'w thŷ yn Sandalwood Court, Casnewydd am tua 11:30, 12 Mai.
Mae disgwyl i Mr Bush wynebu achos yn para tair wythnos, gan ddechrau ar 30 Hydref.
Mewn gwrandawiad, ymddangosodd Mr Bush drwy alwad fideo o'r carchar i gadarnhau ei enw a'i fod yn pledio'n ddieuog.
Dywedodd Caroline Rees KC, ar ran yr amddiffyniad, y bydd Mr Bush yn cael archwiliad gan seiciatrydd, a bod ail archwiliad post-mortem wedi'i awdurdodi.
Dywedodd y Barnwr Daniel Williams: "Ar ran y llys, rydym yn cydymdeimlo gyda'r rhai gafodd eu heffeithio gan farwolaeth erchyll Kelly Pitt."

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Sandalwood Court am 11:30 ar ddydd Gwener
Mae teulu Ms Pitt eisoes wedi rhyddhau teyrnged iddi, gan ei disgrifio fel "enaid prydferth".
"Roedd Kelly yn wyres, merch, chwaer, mam a nain annwyl iawn," meddai'r teulu.
"Roedd hi'n garedig, meddylgar, doniol a byddai'n helpu unrhyw un.
"Cafodd Kelly ei chymryd yn llawer rhy fuan, ac rydym wedi'n dinistrio gan yr hyn ddigwyddodd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2023
- Cyhoeddwyd13 Mai 2023