Faint ydych chi'n ei wybod am dîm cenedlaethol Twrci?

  • Cyhoeddwyd
twrciFfynhonnell y llun, Getty Images

Wedi i Gymru cael eu trechu gan Armenia nos Wener mae carfan Robert Page yn teithio i ddinas Samsun yng ngogledd Twrci yn yr ymgyrch i gyrraedd Pencampwriaethau Euro 2024.

Ond faint ydych chi'n ei wybod am dîm cenedlaethol Twrci? Dyma ambell i ffaith ddifyr.

Detholion y byd

Ar hyn o bryd mae Twrci yn y 43 safle yn netholion FIFA, gyda Cameroon un uwch eu pennau a Norwy un tu ôl. Mae Cymru yn 26ain y detholion, rhwng Serbia a De Corea.

Prif glybiau Twrci

Y tri chlwb pêl-droed mwyaf llwyddiannus yn y wlad yw Fenerbahçe (28 pencampwriaeth genedlaethol), Galatasaray (24) a Beşiktaş (21) - mae'r 'Tri Mawr' fel maen nhw'n cael eu galw wedi ei lleoli yn Istanbwl.

Ers 1924 mae 15 o glybiau wedi ennill pencampwriaeth Twrci. Mae tîm o Istanbwl wedi ennill y bencampwriaeth ar 77 achlysur, gyda'r holl dimau tu allan i Istanbwl yn ennill cyfanswm o 17 teitl.

Ffynhonnell y llun, Anadolu Agency
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr Fenerbahçe yn ystod gêm yn erbyn eu gelynion pennaf, Galatasaray

Mae timau o Dwrci wedi cystadlu yng Nghwpan Ewrop ers blynyddoedd lawer, ond mae'n siŵr mai'r uchafbwynt oedd pan enillodd Galatasaray Gwpan UEFA yn 2000 gan guro Arsenal yn y rownd derfynol.

Saunders a Toshack

Yn 1995 fe adawodd ymosodwr Cymru, Dean Saunders, Aston Villa gan ymuno â Galatasaray am £2.35 miliwn. Ei gyn-reolwr yn Lerpwl, Graeme Souness oedd wrth y llyw yn Galatasaray, a chwaraeodd Saunders ran allweddol wrth i'r clwb gipio'r cwpan cenedlaethol yn 1996.

Rhwng 1997 a 1999 roedd John Toshack yn rheolwr ar Beşiktaş, ac enillodd y cwpan cenedlaethol yn ei dymor cyntaf yno. Ond byddwch yn ofalus wrth sôn am 'Toshack' efo pobl o Dwrci... mae'n golygu gair anweddus yn eu hiaith nhw!

Ffynhonnell y llun, Empics
Disgrifiad o’r llun,

Dean Saunders yn chwarae dros Galatasaray. Cafodd Saunders 75 cap dros Gymru rhwng 1986 a 2001 gan sgorio 22 gôl

Chwaraewyr adnabyddus o Dwrci

Mae'n debyg mai Hakan Sükür yw'r enw mwyaf yn hanes pêl-droed Twrci. Gyda chlwb Galatasaray roedd yn chwarae am y rhan fwyaf o'i yrfa, ac fe sgoriodd 51 o goliau mewn 112 ymddangosiad dros ei wlad. Sgoriodd bedair gôl mewn gêm yn erbyn Cymru yn Istanbwl yn 1997, wrth i Dwrci ennill 6-4.

Yn 2011 fe fentrodd Hakan Sükür i'r byd gwleidyddol ac fe gafodd ei ethol yn Aelod Seneddol i Gynulliad Cenedlaethol Mawr Twrci. Yn 2016 fe wnaeth sarhau Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdoğan, yn gyhoeddus ar Twitter, ac fe roedd hyn yn stori enfawr yn y wlad. Hwyrach yn 2016 cafodd un o'r mudiadau gwleidyddol yr oedd Sükür yn perthyn iddo ei labelu'n 'grŵp terfysgol' gan Lywodraeth Twrci, ac felly fe roedd rhaid iddo adael y wlad.

Ffynhonnell y llun, PATRICK HERTZOG
Disgrifiad o’r llun,

Hakan Sükür yn cynrychioli Twrci yn gêm gyn-derfynol Cwpan y Byd 2002 yn erbyn Brasil

Mae Sükür bellach yn byw'n alltud yn yr Unol Daleithiau, ac mae adroddiadau ei fod yn gweithio fel gyrrwr Uber a gwerthwr llyfrau yn ardal San Fransisco gan fod gwladwriaeth Twrci wedi hawlio ei dai, eiddo a'i arian yn Nhwrci.

Y golwr Rüştü Reçber sydd â'r nifer fwyaf o gapiau dros Dwrci - cafodd 120 ohonynt rhwng 1994 a 2012. Chwaraeodd ei yrfa gyfan dros glybiau yn Nhwrci, heblaw am gyfnod gyda Barcelona 2003-06, ond llond llaw o gemau gafodd o yng Nghatalonia ac roedd yng nghysgod Víctor Valdés.

Gyda'i wallt hir, paent dan ei lygaid a'i natur eitha' gwyllt o chwarae roedd Rüştü'n dipyn o ffefryn gyda'r gynulleidfa ryngwladol yng Nghwpan y Byd 2002 yng Nghorea a Japan ble orffennodd Twrci'n drydydd.

Ffynhonnell y llun, Andreas Rentz
Disgrifiad o’r llun,

Rüştü Reçber - eicon pêl-droed Twrci a phêl-droed rhyngwladol yn y 90au a 00au

Un arall oedd yn dipyn o cult hero oedd y chwaraewr canol cae Tugay Kerimoğlu. Chwaraeodd dros dri chlwb yn ei yrfa; Galatasaray, Glasgow Rangers a Blackburn Rovers, ac fe enillodd 94 o gapiau rhwng 1990 a 2007.

Roedd Tugay'n chwaraewr dawnus tu hwnt, ac mae'n drueni iddo beidio symud i Uwchgynghrair Lloegr nes iddo fod yn ei 30au. Pan ofynnwyd i Mark Hughes, rheolwr Blackburn o 2004 i 2008, os hoffai pe byddai Tugay 10 mlynedd yn iau, dywedodd "na, achos fe fyddai Tugay 10 mlynedd yn iau yn chwarae yng nghrys Barcelona."

Ffynhonnell y llun, Gary M. Prior
Disgrifiad o’r llun,

Tugay yn dathlu tra'n chwarae dros Blackburn Rovers, Mawrth 2005

Un oedd yn chwarae dros Barcelona oedd Arda Turan, ac roedd hefyd gyda Galatasaray ac Atlético Madrid. Cafodd 100 o gapiau dros Dwrci rhwng 2006 a 2017. Heddiw, mae Turan yn rheolwr ar Eyüpspor - clwb o Istanbwl yn ail adran Twrci.

Mae Turan yn ffrind ac yn gefnogwr brwd o Arlywydd Twrci, Erdoğan, a oedd yn dyst yn ei briodas yn 2018.

Ffynhonnell y llun, AFP Contributor
Disgrifiad o’r llun,

Arda Turan yn cynrychioli Barcelona yn brwydro am y bêl gyda Gareth Bale

Roedd Bülent Korkmaz yn chwarae yn amddiffyn Galatasaray o 1990 i 2005, ac mae'n cael ei alw yn 'Büyük Kaptan' - 'Y Capten Mawr'. Roedd yn rhan o'r tîm Galatasaray eiconig a enillodd Cwpan UEFA yn 2000, gyda Hakan Sükür, Rüştü a Tugay.

Ben-ben â Chymru

Mae gan Gymru record eitha' da yn erbyn Twrci; chwarae saith, ennill pedair gwaith, colli ddwywaith ac un gêm gyfartal.

Roedd y gêm gyntaf rhwng y ddwy wlad yn 1978, gyda'r gêm diweddaraf yn ystod Euro 2020.

Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Cymru 2-0 yn erbyn Twrci pan fu'r ddau dîm gyfarfod yn Euro 2020

Mae'r gemau i gyd wedi bod yn rhai agos, heblaw am fuddugoliaeth 4-0 i Gymru ar Barc Ninian yn 1980, a buddugoliaeth 6-4 i Dwrci yn 1997.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd 10 gôl yn y gêm ddiwethaf rhwng Twrci a Chymru, 20 Awst, 1997

Carfan Twrci

Mae gan Dwrci chwaraewyr sydd yn chwarae â rhai o glybiau mwyaf Ewrop, fel Salih Özcan gyda Borussia Dortmund, Zeki Çelik gyda Roma a'r capten Hakan Çalhanoğlu sydd efo Inter Milan.

Yn arwain yr ymosod mae Cengiz Ünder o Marseille sydd â 15 gôl rhyngwladol dros 47 cap.

Yng nghanol cae mae chwaraewr ifanc y mae llawer yn disgwyl i gael dyfodol disglair - Orkun Kökçü, sy'n 22 oed ac yn chwarae dros Benfica.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hakan Çalhanoğlu yn chwarae yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn Manchester City, 10 Mehefin, 2023

Y rheolwr

Rheolwr presennol Twrci ydi cyn-ymosodwr Yr Amlaen, Stefan Kuntz.

Roedd Kuntz yn un o ser FC Kaiserslautern ar ddechrau'r 90au ac fe enillodd Pencampwriaeth Euro '96 efo'r tîm cenedlaethol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Stefan Kuntz; rheolwr Twrci ers Medi 2021

Ers cymryd yr awenau gyda Thwrci mae wedi ennill 10 gêm, colli pedair, a chael dwy gêm gyfarfal.

Canlyniadau diweddar

Yn nwy gêm gyntaf yr ymgyrch mae Twrci wedi ennill un a cholli un. Buddugoliaeth 2-1 yn erbyn Armenia yn Yerevan oedd canlyniad y gêm gyntaf, ac yna colled 2-0 yn erbyn Croatia yn Bursa i ddilyn.

Y llynedd roedd buddugoliaethau mewn gemau cyfeillgar yn erbyn Yr Alban a'r Weriniaeth Tsiec. Ond daeth colled hanesyddol i'r Ynysoedd Faroe ym mis Medi y llynedd wrth i'r ynyswyr ennill 2-1 yn Tórshavn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kerem Akturkoglua Hakan Calhanoglu yn dathlu gol yn y fuddugoliaeth yn erbyn Armenia, 25 Mawrth, 2023

Hefyd o ddiddordeb: