Cymru, Armenia a Paul Mullin

  • Cyhoeddwyd
iwanFfynhonnell y llun, Getty Images

Nos Wener, 16 Mehefin, mae Cymru'n wynebu Armenia yng Nghaerdydd mewn gêm ragbrofol ar gyfer Euro 2024.

Dim ond dwywaith mae Cymru erioed wedi wynebu Armenia, gyda'r ddwy gêm yn 2001 dan reolaeth Mark Hughes.

Gêm gyfartal oedd canlyniad y ddwy gêm; 2-2 yn y gêm yn Yerevan ar 24 Mawrth, a 0-0 yng Nghaerdydd ar 1 Medi.

Rhywun a wisgodd grys coch Cymru yn y ddwy gêm oedd yr ymosodwr Iwan Roberts.

"'Nes i 'rioed sgorio dros Gymru mewn pymtheg cap, a'r cyfle gorau ges i erioed oedd yn erbyn Armenia yn Stadiwm y Mileniwm.

"Doth hi o gic gornel o'r chwith gan Ryan Giggs, 'nes i rediad i'r postyn ffrynt, a cwbl oedd rhaid imi neud oedd cael contact ar y bêl â fy nhalcen ac mi fyswn i 'di sgorio - dyna oedd fy mara menyn i!"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Iwan Roberts 15 cap dros Gymru rhwng 1989 ac 2001

"Ond mi ddoth hi oddi ar ochr fy mhen i a rhywsut aeth hi heibio'r postyn cefn, sydd bron yn amhosib i'w wneud - ma'n rhaid bod hi'n beniad uffernol i hynny ddigwydd.

"99 gwaith allan o 100 ma rheiny'n mynd i gefn y rhwyd, a'r tro 'ma mi fysa hi wedi golygu bod ni 'di ennill y gêm 1-0 efo fi'n sgorio."

Roedd Cymru ar ei hôl hi ar un pwynt yn yn y gêm yn Yerevan, cyn i John Hartson sgorio dwy gôl i unioni, ac yn rhoi'r faintais, i Gymru. Sgoriodd Armenia gyda 25 munud ar ôl i hawlio gêm gyfartal.

'Corfforol a threfnus'

"Roeddan nhw'n dîm reit gorfforol ac yn ofnadwy o drefnus, ac fel mae'r sgôr yn awgrymu roeddan ni'n ei chael hi'n anodd i'w hagor nhw allan", meddai Iwan am y gêm ddi-sgôr yng Nghaerdydd.

"Mi roeddan nhw'n ofnadwy o ddisgybledig, ac doedd 'na ddim llawer o fwriad mynd ymlaen - mi daethon nhw yna i gael gêm gyfartal.

"Doedd gennyn nhw ddim enwau cyfarwydd yn y tîm a gwlad ifanc oedd hi, ond roeddan nhw'n ofnadwy o drefnus."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Craig Bellamy yn brwydro am y bêl gyda Karen Dokhoyan yn y gêm ddi-sgôr yng Nghaerdydd, 1 Medi 2001

Tîm presennol Armenia

Seren Armenia dros y blynyddoedd diweddar oedd Henrikh Mkhitaryan sy'n chwarae dros Inter Milan, a gynt o Manchester United ac Arsenal. Mae Mkhitaryan wedi ymddeol o'r tîm rhyngwladol ers 2021, ond mae o'n dal i chwarae dros y Nerazzurri yn Serie A.

O'r tîm presennol mae un chwaraewr â hanes diddorol; Norberto Briasco, a gafodd ei eni yn Buenos Aires ac sy'n chwarae gyda Boca Juniors - mae ei nain a taid ar ochr ei fam yn dod o Armenia.

"Ma hwn yn ffaith fach ddiddorol" meddai Iwan, "rheolwr Armenia heddiw ydi Oleksandr Petrakov, a fo oedd rheolwr Wcráin pan 'nath Cymru guro nhw i gyrraedd Cwpan y Byd."

Disgrifiad o’r llun,

Norberto Briasco; ymosodwr Armenia sy'n chwarae dros Boca Juniors

"Mae 'na ambell i chwaraewr yn chwarae yn Rwsia gyda Lokomotiv Moscow a Krasandor, ond mae'r rhan fwyaf yn chwarae yn Armenia ei hun a dwi ddim yn siŵr be 'di cryfder y gynghrair yna.

"Dydyn nhw heb ennill mewn naw gêm, a 'di colli saith o'r rheiny. Mae Norwy wedi sgorio naw gôl yn eu herbyn nhw, Yr Eidal 'di sgorio naw, mae'r Alban 'di sgwennu pedair yn eu herbyn nhw, ac mae Wcráin wedi sgorio pump heibio nhw. Yn wahanol i'r tîm 'nes i wynebu, 'wyrach dydi'r cryfder amddiffynnol 'na ddim cweit yn y tîm yma - ildio 33 gôl yn eu 11 gêm diwethaf!"

Beth i'w ddisgwyl gan Gymru?

"Dwi'n sicr eisiau gweld mwy o goliau - 'da ni heb sgorio mwy na un gôl mewn gêm gartref yn ein wyth olaf. Mae o'n dipyn o broblem i Robert Page, pwy sy'n mynd i lenwi sgidiau Gareth Bale. Mae o 'di ymddeol, fo oedd ein prif sgoriwr ni, mae o wedi cario ni i ambell bencampwriaeth.

"Y peth pwysig nos Wener ydi bo' ni'n ennill y gêm. Mae pobl yn edrych ar Armenia a meddwl fydd hi'n hawdd, yndyn ma nhw'n wlad fach a 'da ni 71 lle yn uwch na nhw yn netholion FIFA, ac mae'n gêm naw gwaith allan o 10 da ni'n ei hennill.

"Ond mae rhaid i ni beidio meddwl yn ganiataol bod ni am ennill. Roeddan nhw'n anlwcus i golli 2-1 yn y gêm olaf gartref yn erbyn Twrci. Nhw oedd y trydydd dethol yn y grŵp, uwchben Twrci, wedi iddyn nhw gael ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd da iawn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kieffer Moore yn dathlu ei gôl yn y fuddugoliaeth yn erbyn Latvia, 28 Mawrth 2023

"Mae'n rhaid i Gymru anelu i orffen yn y ddau safle uchaf- ma rhaid curo gemau fel Latvia ac Armenia gartref. Mae'n record gartref ni mewn gemau rhagbrofol yn wych, da ni heb golli gêm ragbrofol pencampwriaethau Ewrop gartref ers colli i Lloegr ym mis Mawrth 2011.

"Mewn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd ac Euros yn Stadiwm Dinas Caerdydd 'da ni wedi colli un mewn 24 gêm, felly mae hynny'n awgrymu bod y stadiwm yn un anodd iawn i wledydd ddod a'n curo ni."

Yr ymosod

Mae David Brooks nôl yng ngharfan Cymru wedi cyfnod o salwch gyda hodgkin lymphoma. Mae'r asgellwr 25 oed i'w weld nôl yng nghynlluniau Robert Page ac mae'n siŵr bydd yn cael croeso gwresog gan y Wal Goch pan fydd nôl ar y cae tra'n gwisgo coch.

"'Nath o ddechrau'r ddwy ola' i Bournemouth yn uwchgynghrair Lloegr, felly ma'r hogyn yn ffit. Fydd o yn y garfan yn sicr, achos dwi ddim yn meddwl bo'r cryfder oedd ganddon ni yn y gorffenol yna rŵan."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Brooks gyda Bournemouth ers 2018

"'Nath Dan James ddechrau dwy o'r naw gêm ola'r tymor i Fulham. Nathan Broadhead wedi cal 29 gôl yn ei yrfa a ma'n 25 oed - dwi'n gwybod ddoth o mlaen a cael gôl allweddol yn erbyn Croatia.

"Mae Liam Cullen yn y garfan 'di cael wyth gôl yn y Bencampwriaeth, Kieffer Moore heb ddechrau i Bournemouth yn y 18 gêm d'wethaf. Mae Tom Bradshaw 'di cael ei dymor gorau ers 2015/16."

"Dwi 'di cael ambell gip ar Jordan James tra'n sylwebu - chwaraewr ifanc llawn egni, llawn rhedeg. Un o'r rhein sy'n licio mynd mlaen - yr un math o chwaraewr a be oedd Gary Speed yn ifanc, yn cyrraedd y cwrt cosbi mewn amser a sgorio ambell gôl. Dwi ddim yn disgwyl iddo fo ddechrau yn erbyn Armenia, ond 'wyrach daw ei gyfle fo yn erbyn Gibraltar ym mis Hydref. Mae gan Fulham feddwl mawr o Luke Harris felly mae o'n un i'r dyfodol hefyd yn sicr."

'Super' Paul Mullin

Heblaw am y wynebau cyfarwydd, mae Iwan yn credu y dylai un gŵr arall fod wedi derbyn galwad gan Page i ymuno â'r garfan.

"Mi fyswn i wedi cynnwys Paul Mullin. Os wyt ti'n mynd i'r chwarter awr olaf a bod hi dal yn ddi-sgôr, a tisho rhywun i greu argraff oddi ar y fainc a dwyn gôl... 'dio ddim bwys gen i pa lefel mae o'n chwarae, mae o 'di sgorio 47 gôl - dwy gôl yn llai na ein holl ymosodwyr eraill efo'i gilydd. Mae 47 gôl yn gyfanswm anhygoel."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Paul Mullin wedi sgorio 79 i Wrecsam mewn 97 gêm

"Mi fyswn i wrth fy modd efo pedair pwynt dros y ddwy gêm yma. Os fysa ganddon ni wyth pwynt o'r bedair gêm gyntaf, ac wedi chwarae y ddau dîm anodda' oddi cartref (Croatia a Twrci), mi fysa hynny'n ddechreuad gwych i'r ymgyrch."

Hefyd o ddiddordeb: