Gwynedd: Galw am wella diogelwch ffordd wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod o'r Senedd wedi ysgrifennu at Gyngor Gwynedd yn gofyn iddyn nhw gynnal archwiliad "cyn gynted â phosibl" i ran o ffordd ble bu farw dyn ifanc mewn gwrthdrawiad angheuol.
Cafodd Joshua Roberts, 19 o Gaernarfon, ei ladd mewn gwrthdrawiad ar yr A4085, neu Ffordd Waunfawr, ger Caeathro ar 2 Mehefin.
Mae dyn 32 oed bellach wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yrru'n ddiofal yn dilyn y digwyddiad, a hynny wedi i'r heddlu ddweud na fyddan nhw'n cymryd camau pellach yn erbyn dyn 19 oed gafodd ei arestio'n wreiddiol.
Mae mam Mr Roberts, Melanie Tookey, eisoes wedi galw am newidiadau i'r ffordd i'w gwneud hi'n fwy diogel.
Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn cydymdeimlo gyda theulu Mr Roberts, a'u bod yn cydweithio gyda'r heddlu i weld pa gamau ellir eu cymryd.
Pryder am ddamwain arall
Mewn llythyr at swyddogion Cyngor Gwynedd ddydd Gwener, dywedodd AS Arfon Sian Gwenllian fod y ffordd ble digwyddodd y ddamwain yn un "beryglus" a bod angen gwneud rhywbeth yn ei gylch.
"Mae'n debyg eich bod yn ymwybodol i ddamwain angheuol arall ddigwydd yn agos iawn at y lleoliad hwn yn y gorffennol," meddai mewn llythyr a gyhoeddodd hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Mae'r damweiniau, yn ogystal ag ymddangosiad y rhan yma o'r lôn, yn awgrymu'n gryf bod y safle yn beryglus, a rydym yn dra phryderus y bydd damwain ddifrifol arall yn digwydd yno'n hwyr neu'n hwyrach.
"Gofynnwn i chi felly gynnal archwiliad o'r rhan yma o'r ffordd er mwyn asesu ei diogelwch a gwneud unrhyw welliannau sydd eu hangen cyn gynted â phosibl."
Mae Cyngor Gwynedd yn cael ei redeg gan Blaid Cymru, sef yr un blaid y mae Sian Gwenllian yn ei chynrychioli yn Senedd Cymru.
Mewn ymateb i'r llythyr, dywedodd llefarydd ar Cyngor Gwynedd: "Rydym yn cydymdeimlo'n fawr gyda theulu a ffrindiau Josh Roberts ar yr amser trist ac anodd yma.
"Fel yn achos pob damwain angheuol, byddwn yn cydweithio'n agos gyda'r heddlu ac yn ystyried os oes unrhyw gamau y dylid eu cymryd yn seiliedig ar gasgliadau'r ymchwiliad."
Mewn ymateb i ddatganiad Sian Gwenllian dywedodd Ms Tookey wrth BBC Cymru: "Dwi mor falch bod Sian Gwenllian a gwleidyddion eraill Plaid Cymru wedi penderfynu cefnogi ein hymgyrch.
"Rwy'n ddiolchgar iawn am ba mor gyflym maen nhw wedi gweithredu, a dwi'n gobeithio y daw newid positif o'r ymgyrch yma.
"Ni ddylai neb arall orfod mynd trwy'r hyn dwi a fy nheulu wedi bod drwyddo dros y pythefnos diwethaf."
'Negeseuon wedi'n helpu ni'
Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod y dyn 32 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mae eu hymchwiliad yn parhau, ac maen nhw wedi apelio eto am unrhyw fideo cerbyd gan rywun oedd yn teithio ar hyd y ffordd rhwng 22:30 a 23:30 ar noson y gwrthdrawiad.
Mae cwest bellach wedi ei agor a'i ohirio i farwolaeth Mr Roberts, wrth i'r heddlu barhau gyda'u hymchwiliad.
Nos Iau ddiwethaf roedd dros 600 o bobl yn bresennol mewn gêm bêl-droed rhwng Bontnewydd a Chaernarfon, dau o gyn-glybiau Josh Roberts.
Fe wnaeth ei fam, Melanie Tookey, ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth tra hefyd yn galw am newidiadau i ffordd yr A4085.
"Mae 'di bod yn anodd meddwl da' ni byth yn mynd i'w weld o eto," meddai Ms Tookey.
"Ond 'dan ni di cael gymaint o negeseuon a tributes a donations, ac mae hynny jyst wedi dod a ni drwy'r cyfnod hyll ac anodd 'ma."
"Heb y petha' ar social media mi fysa fo wedi bod lot mwy anodd."
'Wastad â gwên ar ei wyneb'
Yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, roedd Josh Lloyd Roberts hefyd yn bêl-droediwr dawnus.
Mae tudalen casglu arian gafodd ei sefydlu er cof amdano bellach wedi casglu dros £20,000.
Mewn datganiad yn dilyn ei farwolaeth roedd teulu Joshua Lloyd Roberts wedi'i ddisgrifio fel "cefnogwr pêl droed brwdfrydig" oedd wastad â "gwên ar ei wyneb".
"Roedd yn ffyddlon i'w deulu a buasai'n rhoi ei amser i unrhyw un. Roedd yn frawd mawr gwych i Roni, yn frawd bach ffantastig i Abi, a llys-frawd i Jâc," meddai ei deulu.
"Roedd yn gefnogwr pêl-droed brwdfrydig ac roedd yn mwynhau cefnogi tîm Everton (COYB) a'i dîm lleol, Caernarfon.
"Roedd yn aelod gwerthfawr o dîm pêl-droed Bontnewydd ac hefyd Cymdeithas GymGym Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
"Hoffai ei deulu ddiolch i bawb sydd wedi cysylltu â nhw ar yr adeg anodd yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2023