Aberth 10 awr cefnogwyr i wylio gêm Cymru yn Nhwrci

  • Cyhoeddwyd
Cefnogwyr ym maes awyr SamsunFfynhonnell y llun, Dawn Williams
Disgrifiad o’r llun,

Naw cefnogwr o Gymru a fu'n gorfod teithio mewn tacsi o Istanbul er mwyn cyrraedd Samsun ar gyfer y gêm

Mae rhai cefnogwyr Cymru wedi goroesi siwrnai faith ac annisgwyl er mwyn cael cefnogi'r tîm cenedlaethol yn Nhwrci nos Lun.

Er roedd sawl aelod o'r Wal Goch yn gobeithio am drip i Istanbul pan ddaeth yr enwau allan o'r het, dinas Samsun yng ngogledd y wlad oedd dewis Cymdeithas Bêl-droed Twrci.

Ond bron i'r dewis hwnnw brofi i fod yn gam rhy bell i rai cefnogwyr yn sgil oedi sylweddol gyda'u hediad o'r DU.

Yn sgil yr oedi o bum awr yn eu hediad o Gatwick i Istanbul, roedd rhai cefnogwyr wedi methu eu cyswllt hollbwysig i Samsun.

Ond yn benderfynol o fod yn frics yn y Wal Goch, mae rhai wedi gorfod gwneud trefniadau amgen ar fyr rybudd ar gyfer y daith 450 milltir i Samsun.

Yn eu mysg oedd Dawn ac Arwel Williams o Eglwysbach, Dyffryn Conwy, sydd bellach wedi cyrraedd y ddinas yn dilyn siwrnai 10 awr mewn tacsi o Istanbul.

Dywedodd Dawn wrth Cymru Fyw brynhawn Llun: "'Da ni newydd ddeffro rŵan ar ôl cysgu am chydig o oriau.

"Fe gafon ni delay o bum awr a hanner o Gatwick, felly'r methu'r connecting flight i Samsun."

Oherwydd hynny, gyda rhai cefnogwyr arall ar yr un hediad yn yr un sefyllfa, bu'n rhaid iddynt archebu tacsi ar gyfer naw ohonynt am €100 yr un.

"Fe gymrodd hi 10 awr i gyrraedd", meddai.

Ffynhonnell y llun, Dawn Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Arwel a Dawn Williams yn teithio'n gyson i wylio Cymru oddi cartref

"Wnaethon ni adael Istanbul am 22:30 a chyrraedd y gwesty yn Samsun am 08:30 mewn pryd i gael brecwast."

Er eu trafferthion, dywedodd eu bod nhw wedi cael llawer o hwyl ar y daith.

"Oeddan ni'n nabod dau o'r criw, un o Landudno ac un o Gyffordd Llandudno ond cyfarfod y lleill wnaethon ni yn Gatwick.

"Roedd un bachgen 18 oed ar ei drip cyntaf oddi ffwrdd yn gwylio Cymru, gobeithio fod hyn heb ei roi o off gormod!"

"Mae bob trip Cymru'n grêt ond gobeithio gawn ni ganlyniad heno, fydd o'n teimlo lot mwy werth o wedyn!"

Fe fydd y cefnogwyr yn gobeithio am well perfformiad gan Gymru ar ddiwedd eu taith, yn dilyn canlyniad siomedig yn erbyn Armenia nos Wener.