Eryri: Rheilffordd stêm hiraf y DU yn dathlu canmlwyddiant

  • Cyhoeddwyd
Y trenFfynhonnell y llun, Rheilffordd Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rheilffordd yn rhedeg o Borthmadog i Gaernarfon

Mae rheilffordd stêm hiraf Cymru a'r Deyrnas Unedig yn dathlu ei chanmlwyddiant y penwythnos hwn.

Mae Rheilffordd Eryri yn cysylltu Porthmadog a Chaernarfon ac fe gafodd ei chwblhau ym 1923.

Cafodd ei hadeiladu'n wreiddiol i adfywio'r ardal yn ystod cyfnod o galedi ariannol yr 1920au.

Ond fe gafodd ei chau 15 mlynedd yn ddiweddarach, cyn i'r gwaith adeiladu ac adnewyddu gael ei gwblhau erbyn 2011.

Y penwythnos hwn fe fydd cyfres o drenau arbennig yn rhedeg ar y rheilffordd er mwyn olrhain yr hanes, gydag injans a cherbydau o'r cyfnod yn cael eu defnyddio.

Mae'r rheilffordd bellach yn eiddo i gwmni Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri.

Ffynhonnell y llun, WHR Ltd Collection
Disgrifiad o’r llun,

Locomotif a cherbyd ar Reilffordd Eryri ar Bont Croesor ym 1934

Dywedodd Paul Lewin, rheolwr cyffredinol y cwmni, fod y rheilffordd ar ei newydd wedd bellach wedi bod yn cael ei weithredu'n hirach na'r rheilffordd wreiddiol.

"Mae'n parhau i fynd o nerth i nerth," dywedodd.

"Mae'r rheilffordd wastad wedi cael lle arbennig yng nghalonnau pobl - efallai oherwydd y golygfeydd godidog mae'n rhedeg drwyddyn nhw, efallai oherwydd ymdrechion y staff i'w gynnal.

"Tra nad oedd yn llwyddiannus iawn yn yr 1920au ac 1930au, mae'n dda gwybod bod y rheilffordd sydd wedi'i adnewyddu'n gwneud cyfraniad positif i'r economi leol a'r diwydiant ymwelwyr yn y rhan yma o Wynedd."

Ffynhonnell y llun, WHR Limited collection
Disgrifiad o’r llun,

Dau o locomotifau Rheilffordd Eryri

Dywedodd Graham Farr, cadeirydd y rheilffordd bod angen "teulu mawr o staff a gwirfoddolwyr" i'w gweithredu.

"O'r prif gwmni, i grwpiau cefnogi gwirfoddol a'n amgueddfa ym Mhorthmadog.

"Mae'n dda gweld rhain i gyd yn cydweithio i sicrhau fod dathliadau'r penwythnos yn digwydd.

"Y nod y penwythnos hwn yn ceisio ail-greu sut fyddai'r hen reilffordd yn teimlo tra'n gweithredu."

Eglurodd fod y staff ar y pryd yn ceisio denu twristiaid trwy baentio'r trenau a'r cerbydau yn lliwiau llachar.

Roedd menywod mewn gwisg Gymreig yn cyfarch teithwyr ym Meddgelert.

"Roedd un lleol ym Meddgelert yn cofio sut y byddai criw'r trên yn dod â physgod a sglodion o Borthmadog, a'u cadw'n boeth!"

Pynciau cysylltiedig