Poeni am ddiffyg lle parcio mewn ysbyty ger Pwllheli

  • Cyhoeddwyd
Bryn Beryl
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna bryderon y bydd y traffig yn waeth yn ystod ymweliad yr Eisteddfod â'r ardal

Mae galwadau ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gynyddu'r llefydd parcio sydd ar gael yn Ysbyty Bryn Beryl ger Pwllheli.

Ar hyn o bryd mae pobl yn parcio ceir ar ddwy ochr y ffordd brysur ger yr ysbyty ac "mae'n beryg bywyd croesi'r ffordd", medd cynghorwyr lleol.

Daw'r pryderon wrth i uned ddeintyddol newydd gael ei hadeiladu ar y safle, sy'n golygu bod yna lai o lefydd parcio yno.

Mae'r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro am y problemau parcio ac yn dweud eu bod yn edrych ar fesurau i wella pethau yn y tymor byr ac yn y tymor hir.

Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl côn wedi cael eu rhoi ar ochr y ffordd erbyn hyn i atal pobl rhag parcio

Ffordd yr A499 ydy'r brif ffordd i Ben Llŷn o gyfeiriad Caernarfon, ac mae yna lif traffig trwm yn gyson ar hyd y ffordd ger Ysbyty Bryn Beryl wrth i filoedd o bobl heidio i ddod ar eu gwyliau i Ben Llŷn.

Mae disgwyl cynnydd pellach yn y traffig dros gyfnod yr Eisteddfod Genedlaethol ddechrau Awst.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Anwen Davies ymhlith y cynghorwyr lleol sy'n poeni

Y Cynghorydd Anwen Davies sy'n cynrychioli Boduan ar Gyngor Gwynedd, ac mae'n dweud bod diffyg llefydd parcio yn Ysbyty Bryn Beryl a phobl yn parcio ar ochr y ffordd yn creu trafferthion.

"Mae'n beryg bywyd yma 'wan… dwn'im sut aflwydd mae'r NHS yn gadael hyn i fynd ymlaen," meddai.

"Mae'n biti mawr gen i drostyn nhw… mae rhywun yn teimlo bod rhywbeth yn saff o ddigwydd yma cyn ma' nhw'n mynd i wneud rhywbeth."

'Mwy o bobl yn ymweld?'

Un arall sy'n poeni'n fawr am y sefyllfa ydy'r Cynghorydd Richard Roberts, sy'n cynrychioli Abererch ar Gyngor Gwynedd - y ward sy'n cynnwys Ysbyty Bryn Beryl.

Disgrifiad o’r llun,

Mae un cynghorydd yn dweud y dylid cael palmant at yr ysbyty

"Dwi'n credu mai Bryn Beryl ydy'r unig ysbyty yng Ngwynedd sydd heb lwybr troed... palmant felly o'r dref gyfagos i'r ysbyty.

"Tasa 'na balmant mi fase mwy o bobl yn ymweld, a'r staff eu hunain o bosib yn defnyddio hwnnw i gerdded i'r gwaith."

Yn ôl y Cynghorydd Mike Parry, Maer Pwllheli, mater o amser ydy hi nes y bydd damwain ddifrifol ger yr ysbyty.

"Yn hwyr neu'n hwyrach mae 'na ddamwain yn mynd i ddigwydd yn does? Mae'n sobor o beth," meddai'n bryderus.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y bwrdd iechyd eu bod yn ystyried beth ellid ei wneud tra bod yr uned ddeintyddol yn cael ei hadeiladu

Mewn datganiad fe wnaeth llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ymddiheuro i'r rhai sy'n cael problemau parcio yn Ysbyty Bryn Beryl ar hyn o bryd.

"Oherwydd y gwaith sy'n cael ei wneud ar yr uned ddeintyddol newydd yno, a llacio ar y cyfyngiadau Covid, mae 'na gynnydd wedi bod yn y niferoedd o gerbydau sy'n cyrraedd yr ysbyty," medd llefarydd.

Ychwanegodd eu bod yn edrych ar fesurau i wella'r problemau yno gan gynnwys rhoi conau ar ochr y ffordd i rwystro pobl rhag parcio ar y gwair, a'u bod hefyd yn edrych ar opsiynau i gynyddu'r niferoedd o lefydd parcio unwaith bydd y gwaith ar yr uned ddeintyddol wedi'i orffen ddiwedd Awst.