Gwasanaeth fasgwlar y gogledd: 'Cynnydd boddhaol'
- Cyhoeddwyd
Mae archwilwyr yn dweud bod "cynnydd boddhaol" wedi digwydd i sicrhau diogelwch cleifion gwasanaethau fasgwlaidd bwrdd iechyd mwyaf Cymru.
Cafodd y gwasanaethau sy'n trin cylchrediad y gwaed yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu hasesu y llynedd fel rhai oedd "angen gwelliant sylweddol".
Ond mewn adroddiad ddydd Iau, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn newid yr asesiad hwnnw gan ddweud bod y bwrdd wedi gwneud "cynnydd boddhaol", er bod angen "rhagor o waith".
Mae'r bwrdd iechyd yn dweud bod y "gwaith caled yn dechrau nawr".
Digwyddodd adolygiad AGIC oherwydd pryderon am "ddiogelwch cleifion" gafodd eu codi mewn adroddiad gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon yn Lloegr y llynedd.
Roedd hynny'n dilyn newid dadleuol i wasanaethau fasgwlaidd y gogledd yn 2019, pan gafodd canolfan arbenigol ei chreu yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.
Gweithredu'n 'ddi-oed' ar argymhellion
Yn eu hadroddiad ddydd Iau, mae AGIC yn dweud ei bod hi'n "amlwg" bod y bwrdd iechyd wedi "gwneud cynnydd boddhaol" yn erbyn pob un o'r naw argymhelliad a gafodd eu gwneud gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon yn Lloegr.
Yn ôl AGIC dechreuodd y gwaith o fynd i'r afael â'r materion "yn ddi-oed, yn enwedig o ran y pum argymhelliad brys ynglŷn â risgiau i ddiogelwch cleifion".
Roedd un o argymhellion y coleg brenhinol yn cynnwys adolygu gofal rhai cleifion penodol oherwydd nad oedd hi'n glir beth oedd y canlyniadau wedi bod i'r cleifion hynny.
Fe sefydlodd y bwrdd iechyd banel adolygu a ddaeth o hyd i wybodaeth newydd gan benderfynu y dylai achos pedwar claf fu farw gael eu cyfeirio at y Crwner.
Fis Mai 2023, fe agorodd Uwch-grwner Gogledd Cymru gwestau i bedwar person a fu farw ar ôl bod mewn cysylltiad â gwasanaethau fasgwlaidd.
Roedd y newid yn sgil adroddiad y coleg brenhinol hefyd yn cynnwys cydweithio agosach gydag arbenigwyr fasgwlaidd yn Lerpwl.
Mae adroddiad AGIC yn dweud nawr bod angen "rhagor o waith o hyd i gryfhau rhai agweddau" o'r gofal yn y gogledd, yn cynnwys cadw cofnodion clinigol, a ffeilio amserol a chronolegol.
Mae'n gwneud 11 o argymhellion, yn cynnwys:
Ystyried anghysondebau yn y gofal i gleifion diabetig;
Diffyg ardaloedd clinigol yn Ysbyty Gwynedd i adolygu cleifion cyn ac ar ôl llawdriniaeth; a
Gwella'r broses o sicrhau dealltwriaeth a chydsyniad cleifion, a llofnodi dogfennau.
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at "rai pryderon ynglŷn â'r diwylliant gwaith" rhwng timau gwahanol "a all effeithio ar ofal cleifion", gyda rhai staff yn disgrifio "prosesau cyfathrebu gwael rhwng staff y tîm amlddisgyblaethol".
"Mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd ystyried y diwylliant gwaith rhwng timau sy'n ymwneud â gwahanol lwybrau gofal, er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael gofal amserol a bod cydberthnasau gwaith yn weithredol," medd yr adroddiad.
'Gwyddom fod mwy i'w wneud'
Mewn ymateb, dywedodd Dr Nick Lyons, Cyfarwyddwr Meddygol gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydw i am roi sicrwydd i'n cleifion bod y Bwrdd Iechyd yn cydnabod nad yw ein gwasanaeth fasgwlaidd bob amser wedi cyrraedd y safonau yr ydym yn anelu atynt ac mewn rhai achosion, rydym wedi gadael cleifion i lawr.
"Fodd bynnag, mae adroddiad heddiw yn dangos ymrwymiad a gwaith caled pawb sydd ynghlwm wrth wella'r gwasanaeth i bobl Gogledd Cymru.
"Hoffem ddiolch i staff, y cleifion a'r rhanddeiliaid am eu hymdrechion.
"Bod yn wasanaeth lle nad oes angen gwella sylweddol yw'r safon leiaf bosibl y dylai pawb ei disgwyl.
"Nodaf gydnabyddiaeth AGIC o'r cynnydd positif a wnaed o ran pob un o'r naw argymhelliad a geir yn adroddiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2022 - a sut mae canlyniadau a phrofiadau pobl wedi gwella cryn dipyn.
"Gwyddom fod mwy i'w wneud a byddwn yn parhau i gydweithio ar gam nesaf y gwaith gwella.
"Rydym yn derbyn yr argymhellion pellach y mae'n eu gosod i ni weld gwella cyson a chraidd. Gwyddom fod y gwaith caled yn dechrau nawr.
"Mae'r cyhoeddiad ond yn fodd o'n hysgogi yn ein hymdrech i barhau i wella ac ymdrechu i ddarparu'r gwasanaeth o'r radd flaenaf y mae'r holl gleifion fasgwlaidd yn ei haeddu."
'Rhaid datrys problemau eraill'
Dywedodd yr AS Ceidwadol dros Orllewin Clwyd, Darren Millar: "Mae'n newyddion i'w groesawu fod cynnydd yn cael ei wneud o'r diwedd wrth wella diogelwch y gwasanaethau hanfodol yma yng ngogledd Cymru.
"Mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd nawr sicrhau ei fod yn parhau i ganolbwyntio ar fynd i'r afael â'r problemau sy'n weddill yn ein gwasanaethau fasgwlar, tra'n parhau i fynd i'r afael â phroblemau perfformiad eraill fel amseroedd aros annerbyniol, perfformiad gwael adrannau brys a thîm gweithredol camweithredol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2023
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2022