Drakeford a Gething i wynebu ymchwiliad Covid y DU

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Mark Drakeford yn cael ei holi am baratoadau Cymru ar gyfer y pandemig

Bydd y prif weinidog a'r cyn-weinidog iechyd yn cael eu holi am ba mor dda oedd Cymru wedi paratoi ar gyfer Covid-19, wrth iddyn nhw wynebu ymchwiliad cyhoeddus ddydd Mawrth.

Bydd Mark Drakeford a Vaughan Gething, a fu'n weinidog iechyd am bum mlynedd tan Mai 2021, yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad cyhoeddus y DU yn Llundain.

Bydd arbenigwr ar bandemigau o Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cael ei holi.

Mae'r cam yma o'r ymchwiliad yn canolbwyntio'n benodol ar gynllunio ar gyfer y pandemig.

Y nod ydy cwestiynu penderfyniadau a gafodd eu gwneud ar bob lefel o'r llywodraeth yn ymwneud â chynllunio, gan edrych ar ba wersi all gael eu dysgu.

Roedd prif swyddog meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, a chyn-bennaeth y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, Dr Andrew Goodall yn wynebu'r ymchwiliad ddydd Llun.

Dywedodd Syr Frank ar "lefel swyddogol bod llawer o waith wedi'i wneud o ran paratoi", ond nad oedd fawr o drafodaeth wedi bod ar ddelio gyda chlefydau heintus ar wahân i'r ffliw.

"O edrych yn ôl a gweld be' ddigwyddodd fe allen fod wedi, a dylen fod wedi, rhoi mwy o sylw i gwestiynau 'beth petai... beth petai'r firws yn wahanol?'," dywedodd wrth yr ymchwiliad.

"Ar y pryd, rwy'n credu ei fod yn deg dweud bod mesurau wedi cael eu hystyried ond wedi cael eu diystyru yn rhy gynnar."

Dywedodd hefyd bod y gwaith o baratoi at y pandemig yng Nghymru wedi'i oedi oherwydd y gwaith paratoi at Brexit heb gytundeb.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Gething oedd gweinidog iechyd Cymru yn ystod y pandemig

Dywedodd Dr Goodall na weithredwyd pob un o argymhellion y grwpiau a oedd yn canolbwyntio ar bandemig ffliw, oherwydd y bydden nhw wedi cymryd yn rhy hir.

"Cawson nhw dasg ond ni wnaethon nhw ei orffen?" gofynnodd y Farwnes Hallett, cadeirydd yr ymholiad.

"Ie, ni wnaethon nhw orffen y dasg," atebodd Dr Goodall.

Ar ddechrau'r pandemig dywedodd Syr Frank fod ei swyddfa yn "boddi mewn môr o wybodaeth".

Cyfaddefodd nad oedd gan ei swyddfa digon o adnoddau a bod pethau wedi symud "yn gyflym iawn" a "doedden ni ddim hyd yn oed yn medru delio gydag e-byst".

Ni fydd yr ymchwiliad yn edrych ar sut wnaeth Cymru ymateb i'r pandemig tan i sesiynau cael eu cynnal yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf, gyda disgwyl i'r gwrandawiadau bara hyd at haf 2026.

Beth yw'r ystadegau?

Disgrifiad o’r llun,

Graff yn dangos ystadegau am farwolaethau'n ystod y pandemig hyd at fis Mawrth 2021

  • Yn ystod ton gyntaf y pandemig yn Ebrill 2020 roedd 70 o farwolaethau dyddiol â Covid fel y prif achos;

  • Roedd dros 2,200 o farwolaethau o ganlyniad i Covid yng Nghymru yn nhri mis cyntaf y pandemig (15 Mawrth i 15 Mehefin 2020);

  • Roedd marwolaethau'n ymwneud â Covid mewn cartrefi gofal ar eu huchaf yn wythnos 24 Ebrill, gyda 125 marwolaeth;

  • Mae cyfradd marwolaethau Covid yn ystod y pandemig yn debyg iawn yng Nghymru a Lloegr, ond mae'r gyfradd hynny'n uwch na'r Alban a Gogledd Iwerddon.

Galw am ymchwiliad i Gymru

Mae'r ddwy brif wrthblaid yng Nghymru wedi ailadrodd galwadau am ymchwiliad annibynnol yn benodol i Gymru.

Dyma'r alwad hefyd gan grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, ei fod yn gobeithio y bydd Mr Drakeford a Mr Gething yn ateb cwestiynau ymchwiliad y DU yn llawn, ond mai ymchwiliad Cymreig yn unig allai ddarparu "craffu priodol" o benderfyniadau Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig.

"Mae Llafur wedi chwalu GIG Cymru am 25 mlynedd ac wedi bod yn gyfrifol am ein parodrwydd ar gyfer pandemig, ac mae'n amser i deuluoedd sy'n galaru dderbyn yr atebion maen nhw'n eu haeddu," meddai.

Dywedodd llefarydd iechyd newydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor, na fyddai'r ymholiad yn craffu'n ddigonol i benderfyniadau a gafodd eu gwneud yng Nghymru, ac y byddai cwestiynau'n parhau heb eu hateb.

"Gall llywodraeth Lafur Cymru dal newid eu meddwl a rhoi i'r teuluoedd sy'n galaru yr hyn maen nhw'n ei haeddu - ymchwiliad Covid Cymreig llawn, fel ein bod yn gallu dysgu sut i baratoi ar gyfer y pandemig nesaf," dywedodd.

'Effaith enfawr ar fywydau'

Un o'r rheiny fydd yn cadw llygad ar y datblygiadau yw Gareth Evans o Gwmbrân, sydd wedi dioddef o effeithiau Covid hir ers cael yr afiechyd yn ystod ton gyntaf y pandemig ym mis Ebrill 2020.

Dyw dal ddim "wedi adfer 100%", meddai, gan ddweud bod yr effaith ar ei fywyd "yn enfawr".

"Ar y pryd do'n i ddim yn gallu gweithio, ddim yn gallu gwneud ymarfer corff," meddai wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

"Hyd yn oed pethau syml fel golchi llestri neu mynd i'r gawod - roedd rhaid i fi orwedd lawr wedyn. Roedd e'n ofnadwy."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Evans yn dal i fyw gyda symptomau Covid hir

Daeth Mr Evans o hyd i grwpiau cymorth ar-lein gyda phobl eraill oedd yn mynd drwy sefyllfa debyg, ond mae'n teimlo nad oes digon o gymorth ar y GIG i'r rheiny sy'n dioddef o Covid hir.

"Hoffwn i weld clinig arbenigol yma yng Nghymru, fel yn Lloegr," meddai.

"Byddai'n help mawr i bobl, dwi'n meddwl, i gael yr holl brofion i helpu pobl gyda'u peace of mind."

Mae Mr Evans yn awyddus i weld a fydd yr ymchwiliad Covid felly'n tynnu sylw at unrhyw wersi sydd angen eu dysgu ar gyfer y dyfodol.

"Yn fy marn i roedd rhaid paratoi ar gyfer sefyllfaoedd fel hyn - roedd yr effaith ar ein bywydau yn enfawr," meddai.

"Dwi'n gobeithio bod pethau'n well yn y dyfodol yn bendant."