Athletwyr Môn i chwifio'r Ddraig Goch yn Guernsey

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Tudur Williams a Teleri Sion Lewis Jones yn edrych ymlaen at fynd i Gemau'r Ynysoedd am y tro cyntaf

Mae 120 o athletwyr o Fôn yn teithio i Guernsey dros y penwythnos i gystadlu yn y "Gemau Olympaidd i ynysoedd".

Yr ynys yng nghanol y Môr Udd fydd yn cynnal Gemau'r Ynysoedd eleni wrth i 24 o dimau gymryd rhan mewn 14 o gampau ac maen nhw'n cael eu cynnal am y tro cyntaf ers y pandemig.

Gyda'r gemau yn dod i Fôn yn 2027, mae'r Monwysion hefyd gydag un llygad ar y paratoadau yn Guernsey cyn y seremoni agoriadol nos Sadwrn.

Mae disgwyl i tua 3,000 o athletwyr gymryd rhan eleni - mae'r gemau yn cael eu cynnal bob dwy flynedd.

'Un teulu bach'

"Mae'r 24 ynys yn cynnwys Bermuda, y Cayman Islands a sawl un arall," medd cydlynydd y timau athletau, Barry Edwards, wrth Cymru Fyw.

Disgrifiad o’r llun,

Barry Edwards: "Y brif nod ydy mynd allan i'r gemau fel un tîm"

"Maen nhw'n ei alw The Friendly Games, ac o'r un gemau cyntaf dwi 'di bod iddyn nhw dros y blynyddoedd 'da ni wedi gwneud ffrindiau da iawn.

"Gibraltar er enghraifft - mae Liam yn un o'u hyfforddwyr a 'da ni'n mynd atyn nhw bob haf a gaeaf ar gyfer warm weather training camp, a 'da ni wedi gwneud ffrindiau am byth.

"'Da ni'n paratoi fel un tîm Ynys Môn, er bod ni'n dîm athletau a tîm pêl-droed ac y blaen, y brif nod ydy mynd allan i'r gemau fel un tîm.

"Beth sy'n braf ydy pan 'da ni ddim yn cystadlu ar y trac athletau, fod ni'n cefnogi yn y pêl-droed, y triathlon, y beicio, y nofio a bob un chwaraeon allwn ni.

Ffynhonnell y llun, YMIGA
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y golffiwr Gareth Owen (chwith) yn cario'r Ddraig Goch i'r stadiwm yn ystod y seremoni agoriadol tra bydd y nofiwr 15 oed Hywyn Jones (dde), yn cario dŵr lleol i fynd i'r gemau, fel sy'n draddodiad gan bob tîm sy'n cymryd rhan

"'Da ni'n un teulu bach yn cystadlu ar lefel enfawr.

"Maen nhw'n cyfeirio at Gemau'r Ynysoedd fel y trydydd digwyddiad aml chwaraeon mwyaf tu ôl i Gemau'r Olympaidd a Gemau'r Gymanwlad - mae o reit i fyny yna."

Yng ngemau 2019 yn Gibraltar fe enillodd Môn ddwy fedal aur, un arian a thair efydd.

Ond gyda thîm mwy yn teithio y tro hwn, mae 'na obeithion bydd medalau unwaith eto yn dod 'nôl dros y Fenai.

Ffynhonnell y llun, YMIGA
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Bowlio Lawnt Môn fydd ymysg y cyntaf i gystadlu fore Sul

"Oherwydd Covid gafodd gemau 2021 eu gohirio felly 'da ni wedi cael pedair blynedd ers Gibraltar i baratoi. Mae 30 o athletwyr ar y trac yn ddwbl y garfan arferol, meddai Barry Edwards.

"Be 'sgynnon ni ydy pobl brofiadol iawn fel Cari Hughes, Iolo Hughes, Ffion Roberts - wnaeth ennill medal yn y gemau diwetha' - Patrick Harris, Zach Price sy'n rhedeg 10.5 eiliad yn y 100 medr, y tîm hanner marathon dynion a'r timau rasys cyfnewid.

"Mae'r gobeithion yn reit uchel ond y prif nod ydy fod pawb yn mwynhau, trio'u gorau a chael y PBs (personal bests) yna."

Gyda llawer o edrych ymlaen at y seremoni agoriadol nos Sadwrn, bydd yr holl dîm yn gwisgo crysau arbennig sy'n cynnwys enwau pob pentref ar yr ynys.

Disgrifiad o’r llun,

Yr athletwraig Non Redvers Jones o Borthaethwy gyda'r crys fydd yn cael ei wisgo yn y seremoni agoriadol nos Sadwrn

Yn ogystal, wedi'u hysbrydoli gan beth sydd wedi dod yn rhan o wisg cefnogwyr pêl-droed Cymru, byddant hefyd yn gwisgo hetiau bwced arbennig.

'Fydd o'n brofiad i gael mynd'

Bydd Tudur Williams, o'r Fali, yn cystadlu yn y ras 400m.

Yn cymryd rhan yn y gemau am y tro cyntaf eleni, dywedodd wrth Cymru Fyw fod llawer o gynnwrf yn y garfan.

"O'n i yn rhedeg pan o'n i'n rili ifanc ond wnes benderfynu, ar ôl siarad hefo Barry fy hyfforddwr, i ddod yn ôl.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Tudur Williams yn rhedeg yn y ras 400m

"Fydd o'n brofiad i gael mynd a joio bod yna, y profiad a chael gwylio'r sports eraill, ond hefyd i weithio'n galed a rhedeg fy hun hefyd.

"Fydd o'n neis ella i gael run out da y tro yma a dod â phlant ifanc drwodd hefyd a chario 'mlaen adra yn 2027."

Un arall sy'n hedfan allan i Guernsey ydy Teleri Sion Lewis Jones, 18, a fydd yn cystadlu yn y 100m a rasys cyfnewid.

"Dwi ddim yn gwybod be' i ddisgwyl ond dwi'n rili excited i fynd," meddai wrth Cymru Fyw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Teleri Sion Lewis Jones hefyd yn cystadlu am y tro cyntaf

"Jyst cael hwyl rili, cymryd o i gyd i fewn a profiad newydd.

"Yr opening ceremony, dwi 'rioed wedi bod yn dim byd fel'na o'r blaen.

"Dwi wedi bod yn cystadlu drwy Gymru ond mae hyn yn brofiad newydd eto.

"Mae'n amazing cael y cyfle i gynrychioli'ch ynys hefyd. Mae'n gyfle arbennig fod Ynys Môn yn cael cystadlu yn ei enw ei hun."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ffion Roberts o Lanfairpwll yn cystadlu yn ei hail Gemau'r Ynysoedd

Roedd Ffion Roberts yn rhan o'r garfan a deithiodd i Gibraltar bedair blynedd yn ôl.

Yn rhedeg yn y 400m, 200m a rasys cyfnewid, dywedodd: "Dwi'n edrych ymlaen at yr opening ceremony. Mae o'n brofiad bythgofiadwy a dwi'n rili bach i gael cynrychioli Ynys Môn.

"Dwi hefyd yn edrych 'mlaen i weld pobl eraill yn cymryd rhan. 'Da ni gyd yn rivals ar y trac ond 'da ni gyd yna i gael hwyl a chystadlu."

Un cam ymhellach

Tra nad oedd pêl-droed yn rhan swyddogol o'r gemau yn 2019 oherwydd nad oes digon o gaeau addas yn Gibraltar, fe lwyfannwyd y cystadlaethau rheiny ar Ynys Môn yr haf hwnnw.

O flaen torf o filoedd yng Nghaergybi, llwyddodd dynion Môn i gipio'r fedal aur ar ôl trechu Guernsey o 2-1 yn y ffeinal.

Ffynhonnell y llun, Emma Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Bydd tîm pêl-droed merched Môn yn gobeithio mynd un yn well yn Guernsey

Medal arian sicrhaodd y merched ar ôl colli o 2-1 yn erbyn Ynys Manaw.

Yn gobeithio mynd un cam ymhellach y tro hwn, dywedodd aelod o garfan pêl-droed merched Môn eu bod yn edrych ymlaen at gystadlu fel ynys unwaith eto.

Roedd Emma Louise Roberts, sy'n 23 ac yn chwarae i Amlwch, yn rhan o'r garfan honno bedair blynedd yn ôl.

"Mae'r tîm yn eitha' gwahanol ond mae pawb wedi bod yn gweithio'n galed, gyda rhai wynebau newydd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Emma Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Fydd Emma Roberts, 23, yn cystadlu yn y gemau am yr ail dro

Ond gyda chost yn ffactor, fel yr athletwyr eraill mae'r merched pêl-droed wedi gorfod canfod ffyrdd o hel yr arian sydd ei angen er mwyn gwneud y daith i Guernsey.

"Sa'n grêt os fysan ni'n gallu mynd un step ymhellach y tro yma," ychwanegodd Emma.

"Dwi'n meddwl oherwydd fod y gemau yn Guernsey mae rhai yn methu teithio oherwydd faint mae'n gostio.

"Ond 'da ni'n gobeithio cael rhywbeth allan o'r gemau eto a 'da ni wedi bod yn gweithio'n rili galed.

"Fel timau eraill 'da ni wedi bod yn trio cael sponsors gan gwmnïau lleol. Dwi 'di gyrru llythyr allan i gwmnïau yn Amlwch i helpu a wedi bod yn gwneud disco i drio codi pres - pethau fel'na."

Bydd Gemau'r Ynysoedd 2023 yn dechrau ddydd Sul ac yn rhedeg tan ddydd Gwener.

Pynciau cysylltiedig