Carcharu cyn-lobïwr am greu delweddau anweddus o blant

  • Cyhoeddwyd
Daran HillFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae cyn-lobïwr gwleidyddol wnaeth ddosbarthu delweddau anweddus o ferched mor ifanc â thair oed wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd a phedwar mis o garchar.

Cafodd Daran Hill, 52, ei arestio yn ei gartref yng Nghaerdydd gan swyddogion o'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ym mis Awst 2021.

Fe ddaethon nhw o hyd i wyth o'r delweddau mwyaf difrifol Categori A, pedwar Categori B a 50 o ddelweddau Categori C ar ei ffôn a'i gyfrifiadur.

Roedd hefyd wedi rhannu llawer o'r delweddau gyda defnyddwyr eraill y gwasanaeth anfon negeseuon ar-lein Kik.

'Fe wnes i gamgymeriad'

Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod Hill wedi dweud wrth yr heddlu pan gafodd ei arestio: "Rwy'n gwybod pam eich bod chi yma. Fe wnes i gamgymeriad.

"Dim ond cwpl o weithiau wnes i. Dwi ddim yn gwybod pam fy mod i wedi. Wnes i ddim hyd yn oed ei fwynhau."

Dywedodd wrth yr heddlu hefyd: "Fedra'i ddim credu eich bod chi yma am nifer mor fach," wrth gyfeirio ar nifer y lluniau oedd ar ei ffôn.

Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys fod Daran Hill "mewn lle tywyll iawn" adeg y troseddu ond doedd hynny ddim yn lleihau ei euogrwydd, yn ôl y barnwr

Clywodd y llys bod nifer o fideos a delweddau wedi'u darganfod gan gynnwys nifer o ddelweddau Categori A, y categori mwyaf difrifol o gam-drin.

Roedd y merched ifanc yn y fideos i gyd rhwng saith a 12 oed. Merch tair oed oedd y plentyn ieuengaf yn y delweddau.

Fe wnaeth Hill rannu'r fideos gydag unigolion ar y gwasanaeth anfon negeseuon ac mewn sgyrsiau grŵp.

Eisteddodd Hill yn y doc gyda'i ben yn ei ddwylo wrth i'r erlynydd Owen Williams amlinellu ei droseddau.

'Cywilydd, euogrwydd a gofid dwys'

Clywodd Llys y Goron Casnewydd ei fod wedi defnyddio ei gyfeiriad e-bost gwaith blaenorol i gofrestru ar wasanaeth negeseuon Kik.

Rhannodd un fideo Categori A gyda 96 o ddefnyddwyr Kik eraill, ac fe anfonodd fideo Categori A arall at 55 o ddefnyddwyr Kik eraill.

Anfonodd ddau fideo Categori B at un o'i gysylltiadau WhatsApp a rhoi cyngor am sut i chwilio am ddelweddau anweddus o blant ar-lein.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Daran Hill yn rheolwr gyfarwyddwr ar gwmni lobïo gwleidyddol, a newidiodd ei enw wedi i'r troseddau ddod i'r fei

Clywodd y llys ei fod mewn "lle tywyll iawn" oherwydd "digwyddiadau trasig yn ei fywyd personol" gan gynnwys marwolaeth ei fam a "ffrind agos" arall.

Dywedodd ei fod yn unig yn ystod y pandemig ac fe ddechreuodd yfed mwy.

Clywodd y llys ei fod yn teimlo "cywilydd, euogrwydd a gofid dwys" am yr hyn yr oedd wedi'i wneud.

Dywedodd y barnwr, Cofiadur Caerdydd, Tracey Lloyd-Clarke "nad yw'ch problemau iechyd meddwl yn lleihau'ch beiusrwydd".

Amlinellodd sawl ffactor fel oedran y plant a bod Hill wedi cynorthwyo eraill i ddod o hyd i ddelweddau o'r fath wedi "ychwanegu at y dioddefaint yr oedd y plant hyn eisoes wedi ei brofi a hynny er ei foddhad rhywiol ei hun".

Bydd Hill yn treulio hanner ei ddedfryd yn y carchar a'r gweddill ar drwydded.

Bydd hefyd yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol a fydd mewn grym am 15 mlynedd.

Roedd yn gyfarwyddwr cwmni lobïo Positif Politics tan 2021. Mae'r cwmni wedi newid ei enw erbyn hyn, ac nid oes gan Hill unrhyw gysylltiad â nhw.