Defnyddiwch y Gymraeg yn San Steffan 'ar bob cyfle'

  • Cyhoeddwyd
San SteffanFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Aelodau Seneddol a siaradwyr Cymraeg sy'n rhoi tystiolaeth i bwyllgorau yn cael eu hannog i wneud mwy o ddefnydd o'r iaith yn San Steffan.

Mae hawl defnyddio'r Gymraeg mewn rhai pwyllgorau fel y Pwyllgor Materion Cymreig.

Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, fe ddylai pawb gymryd pob cyfle posib i ddefnyddio eu Cymraeg.

Dywedodd hefyd y dylai'r Senedd yn San Steffan ddilyn esiampl Senedd Cymru ac eraill yn Ewrop, sy'n amlieithog.

Yr wythnos ddiwethaf fe roddodd Efa Gruffyudd Jones dystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig am y tro cyntaf gan ddweud ei bod wedi "mwynhau'r profiad yn fawr" o allu cyfrannu drwy'r Gymraeg.

"Fy nghyngor i fydde os y'ch chi'n cael y cyfle i ddefnyddio'ch Cymraeg, wedyn gwnewch hynny," meddai.

"Yr hyn sydd eisiau i ni gofio yw nad yw cael senedd ddwyieithog neu gyfundrefnau democrataidd gyda sawl iaith yn cymryd rhan ynddi yn anghyffredin ar draws y byd.

"Mae bod yn ddwyieithog, a dweud y gwir, yn gyffredin iawn ar draws y byd, felly mae'n wych bod ein Senedd ni yng Nghaerdydd yn ofod cwbl ddwyieithog.

"Felly bydden i'n annog Senedd San Steffan beth yn fwy allai fe wneud i ymgorffori ieithoedd eraill."

Disgrifiad,

Clip o 2018 o'r Gymraeg yn cael ei defnyddio gan yr Uwch-bwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan am y tro cyntaf

Dwy iaith swyddogol sydd yn Senedd San Steffan - Saesneg - ac efallai'n syndod i rai, Ffrangeg Normanaidd.

Mae hawl defnyddio ambell air o Gymraeg ar lawr siambr Tŷ'r Cyffredin, ond nid oes hawl areithio'n helaeth yn yr iaith.

Yn 2021 fe gafodd Liz Saville Roberts AS Plaid Cymru ei hatgoffa gan Lefarydd Ty'r Cyffredin na allai siarad yn helaeth yn Gymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Virgina Crosbie AS Ceidwadol Môn yn dysgu Cymraeg a dywedodd fod angen gwneud mwy o ddefnydd o gyfieithu

Yn bennaf mae'r iaith i'w chlywed yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Materion Cymreig a'r Uwch-bwyllgor Cymreig.

Yn ôl un aelod sy'n dysgu Cymraeg mae angen amlygu'r hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y pwyllgorau hynny.

"Mae angen gwneud yn glir iawn, iawn fod cyfieithu ar gael i rheiny sydd ddim mor hyderus yn eu Cymraeg ac ein bod ni'n croesawu hynny," meddai Virginia Crosbie, AS Ceidwadol Ynys Môn.

"Pan ddaeth S4C [i roi tystiolaeth] fe wnaethon nhw siarad yn Gymraeg ac fe gafodd ei groesawu ac mae angen gwneud mwy o hynny."

Ddydd Mercher, fe ddaeth i'r amlwg bod cyfraniadau yn Gymraeg mewn cyfarfodydd pwyllgorau Senedd Cymru wedi gostwng i 8% yn 2022-23.

Roedd hynny'n destun "siom a phryder" yn ôl Comisiwn y Senedd.

'Pam ddim?'

Ers 1996 mae Senedd San Steffan wedi llacio'r rheolau ynghylch defnyddio'r Gymraeg.

Ond dim ond yn 2017 rhoddwyd hawl i'w defnyddio yn yr Uwch-bwyllgor Cymreig.

Disgrifiad o’r llun,

Dylai pawb fanteisio ar y cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg yn San Steffan yn ôl Hywel Williams AS

Neges Hywel Williams, AS Plaid Cymru dros Arfon, i'w gyd-aelodau yw y dylid defnyddio pob cyfle posib i ddefnyddio'r iaith.

"Fe ddylian nhw siarad Cymraeg, pan fedran nhw siarad Cymraeg," dywedodd.

"Pam ddim? Fel y bydda i yn gwneud pan mae Uwch-bwyllgor Cymreig er enghraifft.

"Mae gan y lle yma agwedd ryfeddol o groesawgar i un iaith frodorol yr ynysoedd yma ond nid y lleill."