Carchar am oes i ddyn am lofruddio ei gymar bregus

  • Cyhoeddwyd
Carl SilcoxFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i Carl Silcox dreulio o leiaf 25 o flynyddoedd dan glo

Fe allai cynnwys yr erthygl yma beri gofid i rai.

Mae dyn o Sir Caerffili a lofruddiodd ei gymar bregus, gan achosi anafiadau mewnol difrifol, wedi cael dedfryd o garchar am oes yn Llys Y Goron Casnewydd.

Bydd yn rhaid i Carl Silcox, 45, dreulio o leiaf 25 o flynyddoedd o dan glo am ladd Adell Cowan ar 18 Hydref 2020.

Fe gysylltodd â'r gwasanaethau brys yn yr oriau mân gan honni ei fod "newydd ddeffro ac mae fy mhartner wedi marw" yn y gwely yn ei fflat yn Aberbargod.

Dywedodd wrth yr heddlu yn wreiddiol bod criw o lanciau wedi ymosod arni wedi iddi geisio cael ffôn yr oedden nhw wedi'i ddwyn oddi ar Silcox, a'i bod wedi dychwelyd i'w chartref yn Mornington Meadows a mynd i'r gwely.

Ond fe newidiodd ei stori i'r ymchwiliad sawl tro wedi hynny.

Roedd Silcox wedi gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth a dynladdiad ond fe'i cafwyd yn euog gan y rheithgor wedi iddo ddweud celwydd ei bod yn gweithio fel putain.

Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys fod Adell Cowan yn fregus yn feddyliol a chorfforol oherwydd problemau gydag alcohol

Roedd gan Ms Cowan anafiadau i'r wyneb, pen a'r gwddf, ac roedd 13 o'i hasennau wedi torri, a phan gyrhaeddodd y gwasanaethau brys canfuwyd ei bod wedi marw ers oriau.

Fe wnaeth archwiliadau meddygol ddatgelu anafiadau mewnol difrifol i'w rectwm, dueg (spleen) a'r cyhyrau abdomenol - anafiadau, yn ôl yr erlyniad, oedd o ganlyniad i niwed gyda pholyn brwsh.

Fe ddangosodd prawf post-mortem nad oedd "unrhyw eglurhad naturiol" am ei marwolaeth.

Dywedodd Deena Beynon o Wasanaeth Erlyn Y Goron bod Ms Cowan "wedi dioddef anafiadau helaeth na allai Silcox gynnig eglurhad yn eu cylch, er bod ei gwaed ar ei ddillad", sef gwaed oedd wedi ei drosglwyddo "yn yr awyr".

Ychwanegodd eu bod yn cymryd achosion o drais yn y cartref "wirioneddol o ddifrif", gan gydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau Ms Cowan.

'Bwystfilaidd a dideimlad'

Wrth ddedfrydu dywedodd y barnwr Tracy Lloyd Clarke: "Am resymau na sy'n hysbys fe wnaethoch chi ymosod yn ddifrifol ar Miss Cowan gyda choes brwsh.

"Mae'n rhaid eich bod yn gwybod eich bod wedi ei niweidio'n ddifrifol ond wnaethoch chi ddim galw'r gwasanaethau brys.

"Roedd yr hyn a wnaethoch yn fwystfilaidd a dideimlad ac rydych achosi poen ofnadwy i'r rhai oedd yn adnabod Adell Cowan."

Dywedodd y barnwr hefyd bod Ms Cowan yn "fregus iawn" gan ei bod yn alcoholig ond ei bod hi'n amlwg yn cael ei charu gan ei theulu a'i ffrindiau.

Gorchmynnodd y barnwr y dylai Sicox dreulio isafswm o 25 mlynedd o dan glo cyn y gallai gael ei ryddhau o dan drwydded arbennig.

Pynciau cysylltiedig