Christina Rees wedi'i gwahardd rhag bod yn ymgeisydd Llafur
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn-lefarydd Llafur ar Gymru, Christina Rees, wedi'i hatal rhag sefyll i fod yn ymgeisydd y blaid ar gyfer etholaeth newydd Castell-nedd a Dwyrain Abertawe.
Mae BBC Cymru'n deall nad oedd Aelod Seneddol presennol Castell-nedd yn cael sefyll achos ei bod hi wedi ei gwahardd o'r blaid yn sgil honiadau o fwlio.
Mae'r penderfyniad yn golygu bod Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris, wedi ei dewis yn ddiwrthwynebiad i fod yr ymgeisydd Llafur ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf.
Dywedodd Ms Harris ei bod hi "wrth ei bodd" i gael ei dewis.
Mae Ms Rees wedi cael cais am ymateb.
Bydd nifer yr Aelodau Seneddol o Gymru'n gostwng o 40 i 32 pan ddaw'r etholiad cyffredinol nesaf yn dilyn adolygiad o'r map etholiadol.
Y bwriad ydy sicrhau bod gan bob etholaeth nifer debyg o etholwyr.
Mae'r newidiadau'n golygu bydd rhai Aelodau Seneddol presennol o'r un blaid yn gorfod mynd benben â'i gilydd i gael eu dewis i fod yn ymgeisydd.
Fis diwethaf daeth cadarnhad bod yr aelod Llafur dros Ferthyr Tudful a Rhymni, Gerald Jones, wedi ennill y ras yn erbyn ei gydweithiwr Beth Winter - yr aelod dros Gwm Cynon - i fod yr ymgeisydd Llafur ar gyfer etholaeth newydd Merthyr Tudful ac Aberdâr.
Roedd Castell-nedd a Dwyrain Abertawe yn etholaeth newydd arall ble roedd yna ddyfalu y gallai fod yna ornest debyg.
Ond am ei bod hi wedi ei gwahardd o hyd o'r Blaid Lafur - ar ôl colli'r chwip yn Hydref 2022 - gwnaeth y penderfyniad gan Lafur nad oedd Christina Rees yn gymwys i sefyll.
Mae Ms Rees wedi cynrychioli Castell-nedd yn San Steffan ers 2015, pan olynodd hi Peter Hain.
Yn ystod cyfnod Jeremy Corbyn fel arweinydd y blaid, roedd Ms Rees yn llefarydd ar Gymru rhwng 2017 a 2020.
Mae hi ar hyn o bryd yn eistedd fel aelod annibynnol, ac mae hi wedi dweud yn y gorffennol ei bod hi'n "cydweithredu" gyda'r ymchwiliad i'r honiadau yn ei herbyn.
'Wrth fy modd'
Mae Carolyn Harris wedi cynrychioli Dwyrain Abertawe ers 2015 a hi yw dirprwy arweinydd Llafur Cymru.
Roedd hi hefyd yn gyd-gadeirydd ar ymgyrch lwyddiannus Syr Keir Starmer i arwain Llafur.
Dywedodd Ms Harris ei bod "wrth fy modd" i gael ei dewis i fod yr ymgeisydd ar gyfer etholaeth Castell-nedd a Dwyrain Abertawe.
"Mae'r wlad angen llywodraeth Lafur a Keir Starmer yn Downing Street i weithio gydag ein Llywodraeth Lafur Cymru, ac rwy'n benderfynol o wneud popeth yn fy ngallu i wneud i hynny ddigwydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2022