Help i famau newydd sy'n 'goroesi yn hytrach na ffynnu'
- Cyhoeddwyd
Mae mamau newydd yn un o siroedd mwyaf gwledig Cymru wedi disgrifio sut y mae perthyn i grŵp arbennig ar eu cyfer wedi bod o fudd i'w hiechyd meddwl.
Nod grŵp Mums Matter, sy'n cael ei gynnal yng ngogledd a chanol Powys gan elusen Mind Cymru, yw cefnogi mamau sy'n dioddef oherwydd ffactorau fel unigrwydd am eu bod yn bell o'u ffrindiau a pherthnasau, neu flinder.
Mae'r rhaglen ymyrraeth, sy'n para am wyth wythnos, eisoes wedi help tua 400 o famau, ac mae bellach yn cael ei ehangu ar draws Cymru.
Gall unrhyw fam dros 18 oed gyfeirio'i hun i'r rhaglen neu gael ei chyfeirio gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Fe ddechreuodd fel cynllun peilot ym Mhowys yn 2017 ac mae wedi tyfu i naw cwrs y flwyddyn, ar gyfer 10 o fenywod fesul cwrs.
Tracy Lewis, 45, o gangen ranbarthol Mind ym Mhowys, wnaeth sefydlu'r prosiect wedi iddi gydnabod yr angen i helpu mamau sy'n dioddef o unigrwydd.
"Ro'n i'n teimlo mor ddiogel ac wedi fy nghroesawu yno, roedd yn lle i fynegi sut roeddwn yn teimlo mewn ffordd onest - yr unigrwydd, yr euogrwydd - a wnaeth neb fy marnu," dywedodd.
Mae'r cwrs yn helpu menywod i "adennill eu hyder a gwneud iddyn nhw deimlo wedi'u gwerthfawrogi", ychwanegodd.
'Newidiodd fy mywyd'
Un sydd wedi cael budd o'r prosiect yw Josephine Roberts, 28 o'r Drenewydd, a fu'n mynychu'r cwrs wedi genedigaeth ei merch Felicity yn 2021.
"O'n i jyst yn teimlo'n unig, teimlo ar goll, ddim yn siŵr beth o'n i'n neud," meddai.
"Yr unig beth o'n i moyn cael yn fy mywyd i, fel lifelong dream, oedd i fod yn fam, ac wedyn daeth y baban 'ma mewn i'm mywyd i a doedd dim byd yn teimlo yn iawn."
Roedd Josephine wedi bod mewn cyswllt â Mind yn gofyn am gyngor cyn iddi dderbyn galwad gan Tracy yn sôn am gynllun Mums Matter.
'Dych chi ddim ar ben eich hun'
"Es i ar y cwrs Mums Matter a 'naeth o newid bywyd fi yn gyfan gwbl," dywedodd Josephine.
"Mae 'na gymaint o bethau ma' angen i chi 'neud er mwyn 'neud yn siŵr bod eich iechyd meddwl chi yn iach.
"A do'n i heb sylweddoli bod yna gymaint o bethau yn fy mywyd i wedi slipio.
"Ni angen llawer o gwsg a pan ma' newborn efo ti dwyt ti ddim yn cael cwsg o gwbl, a ma' angen i chi fynd am gawod a glanhau eich hun.
"Ma' rhaid cymryd amser mas o'r diwrnod i chi eich hun."
Ychwanegodd: "Oedd o mor refreshing wrth 'neud y cwrs i wrando ar bawb arall a chlywed bod pawb yn mynd trwy'r un peth. 'Dych chi ddim ar ben eich hun.
"I allu bod yn hyderus i rannu beth oedd yn eich meddwl chi - oedd hwnna werth y byd.
"Yn enwedig yn byw yng nghanolbarth Cymru lle does dim llawer o adnoddau, bron dim am iechyd meddwl. Dwi'n teimlo yng nghefn gwlad bod ni'n cael ein hanghofio."
Ers bod ar y cwrs mae Josephine wedi croesawu merch fach arall i'r byd ac mae'n teimlo bod y gwersi dysgodd yn Mums Matter wedi bod yn amhrisiadwy.
'Ro'n i'n hynod o unig'
Symudodd Wilna Evans, 31, o Dde Affrica pan oedd hi'n ifanc, ond pan ddychwelodd ei theulu i'r wlad yn 2015 penderfynodd aros yng Nghymru a chreu bywyd gyda Geraint, sydd nawr yn ŵr iddi.
"Mae bod yn wraig fferm yn gallu bod yn unig ar y gorau, heb sôn am pan fo eich teulu cyfan yn mynd ar awyren yn ôl i Dde Affrica," meddai. "Ro'n i'n teimlo bod neb gen i.
"Mae fy ngŵr yn gofalu am 2,000 o ddefaid a 100 o wartheg. Mae'n waith saith diwrnod yr wythnos, felly pan gefais fy merch gyntaf yn 2019, ni chefais unrhyw help o gwbl."
Mae'n dweud y bu'n rhaid i'w gŵr ddychwelyd i'w waith ddiwrnod wedi iddi gael genedigaeth Cesaraidd a "doedd gen i ddim rhwydwaith cymorth".
Ychwanegodd: "Rydych chi'n cario ymlaen bob dydd - gwneud yr hyn sy'n rhaid i chi ei wneud i ddod trwy'r dydd - dim ond goroesi nid ffynnu. Ro'n i'n hynod o unig.
"Roedd gen i lawer o ddicter a rhwystredigaeth. Do'n i ddim yn gwybod pam ro'n i'n mynd yn grac gyda phopeth."
Dywedodd bod bywyd wedi dechrau teimlo'n ailadroddus.
A hithau'n teimlo'n "ddiwerth" a bod neb yn ei gwerthfawrogi, fe ddechreuodd gwestiynu "ai dyma yw'r hyn rydw i eisiau mewn bywyd?"
Mae'r cwrs wedi helpu Wilna i gael cydbwysedd rhwng bod yn fam a chadw gafael ar ei hunaniaeth, ac mae nawr yn cael rhywfaint o amser i'w hun gan weithio yn siop fferm y gymuned.
Un o bob pedair mam
Dywedodd Simon Jones, pennaeth polisi ac Ymgyrchoedd Mind Cymru: "Rydym yn gwybod y bydd cymaint ag un o bob pedair mam yn profi heriau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd, a dyna pam mae prosiectau fel Mums Matter mor bwysig.
"Mae'n gadarnhaol bod adroddiad diweddar gan y Gynghrair Iechyd Meddwl Mamau ar wasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol wedi tynnu sylw at y cynnydd sylweddol a wnaed ledled Cymru - gyda phob un o'r saith bwrdd iechyd yn cynyddu eu cyllidebau ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol.
"Yn amlwg mae gwaith da ar y gweill, ond mae problemau o hyd ynghylch tanwariant yn y gyllideb a safonau heb eu cyrraedd, ac mae mwy o waith i fyrddau iechyd i'w wneud i sicrhau bod pob menyw yng Nghymru yn cael yr un lefel o fynediad at ofal hygyrch o ansawdd uchel."
'Mums Matter yn enghraifft wych'
Dywedodd Lynne Neagle, y dirprwy weinidog iechyd meddwl a lles: "Gall cael babi fod yn gyfnod heriol yn feddyliol ac yn gorfforol.
"Mae prosiect Mums Matter yn enghraifft wych o sut mae ymyrraeth gynnar a chefnogaeth yn helpu mamau newydd sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl ac rydw i wedi gweld fy hun y gwahaniaeth enfawr y mae Mums Matter wedi'i wneud i'r teuluoedd y maen nhw wedi'u cefnogi."
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Os oes gyda chi bryderon neu gwynion am wasanaethau iechyd ym Mhowys, siaradwch â'r person sy'n darparu eich gofal yn y lle cyntaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2023
- Cyhoeddwyd12 Mai 2023
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2018