Gwynedd: Caniatáu cynllun am 41 o dai fforddiadwy
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr wedi rhoi sêl bendith i ddatblygiad o 41 tŷ fforddiadwy mewn pentref yng Ngwynedd.
Bwriad Williams Homes (Bala) Ltd yw codi'r tai ger Trem Y Moelwyn ym Mhenrhyndeudraeth ac maen nhw'n dweud y bydd y cynllun yn "cwrdd ag anghenion tai fforddiadwy yr ardal".
Wedi i swyddogion cynllunio ddweud bod y safle yn un addas cafodd y cais ei gymeradwyo gan gynghorwyr brynhawn Llun.
Roedd hyn er i rai pryderon gael eu codi - gan gynnwys gofyn am sicrwydd mai i bobl leol fyddai'r tai yn cael eu darparu.
'Ymateb i'r anghenion'
Bydd y tai yn amrywio o un i chwe llofft, a'r bwriad yw eu bod yn dod o dan berchnogaeth cymdeithasau tai Grŵp Cynefin a Clwyd-Alun er mwyn eu rhentu a'u gwerthu unwaith byddant wedi'u hadeiladu.
Yn ôl adran dai Cyngor Gwynedd bydd y cynllun yn "cyfrannu'n uniongyrchol at ddarparu mwy o dai i gwrdd â'r galw uchel presennol sydd yn bodoli yn y sir".
Daw hyn wedi i adroddiad cabinet diweddar adrodd cynnydd "aruthrol" mewn digartrefedd dros y blynyddoedd diwethaf.
Yn ogystal fe nodwyd fod 3,000 o bobl ar y rhestr aros am dai cymdeithasol, ac yn 2020 roedd 65% o drigolion Gwynedd yn methu fforddio prynu cartref yn y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, sy'n dal y portffolio tai, fod dros 40% o stoc dai'r sir oedd ar y farchnad yn 2019 wedi mynd i brynwyr ail gartrefi, a bod tua 15% o'r stoc tai yn cael ei "ddefnyddio fel tyllau bollt neu eiddo buddsoddi, yn hytrach na chartrefi".
Gyda hyn mewn golwg, dywedodd swyddogion cynllunio Gwynedd yn eu hadroddiad fod y cynlluniau ym Mhenrhyndeudraeth yn dderbyniol iddynt.
"Credir byddai'r ffaith fod 100% o'r unedau yn rhai fforddiadwy yn ymateb i'r anghenion sydd eisoes wedi'u hadnabod ac ystyrir y byddant yn cyfrannu'n helaeth at anghenion tai fforddiadwy'r anheddle," medd yr adroddiad.
Ond tra'n cydnabod fod rhai pryderon, ychwanegon nhw: "Ni adnabuwyd unrhyw effaith sylweddol niweidiol sydd yn groes i bolisïau cynllunio lleol a chyngor cenedlaethol perthnasol."
'Lleihau pryderon'
Serch hynny dywedodd cadeirydd Cyngor Tref Penrhyndeudraeth fod rhai pryderon wedi'u codi yn lleol.
Yn ôl adroddiad Cyngor Gwynedd nodwyd fod y rhain yn cynnwys yr angen am sicrwydd na fydd y tir yn gorlifo yn ystod glaw trwm, a bod "yn rhaid i bobl leol sydd ar y rhestr dai gael siawns i breswylio yn y tai".
Yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus, roedd rhai hefyd yn gofyn am sicrwydd fod y feddygfa a'r ysgol "yn ddigon addas i gymryd mwy o bobl".
Dywedodd y Cynghorydd Meryl Roberts, sy'n cynrychioli Penrhyndeudraeth ar Gyngor Gwynedd yn ogystal â chadeirio Cyngor Tref Penrhyndeudraeth, fod cynghorwyr wedi cael diweddariad gan y datblygwyr dros yr wythnos ddiwethaf.
Yn dilyn cyfarfod nos Iau o Gyngor Tref Penrhyndeudraeth, fe ddywedodd fod y diweddariad "wedi lleihau ein pryderon".
Ond ychwanegodd: "Rydym eisiau gwneud yn siŵr mai pobl sydd yn byw, a sydd gyda chysylltiad â Phenrhyn ac sydd ar y rhestr aros sy'n cael y cynnig cyntaf."
Mae'r datblygwyr wedi cael cais i wneud sylw.
Ond fel rhan o'r cais cynllunio dywedon nhw fod y bwriad yn "debygol o fod yn fuddiol", gan y byddai'n darparu "anheddau sy'n addas i'w defnyddio gan ystod eang o drigolion lleol, wedi'i dargedu'n glir at ddiwallu'r angen sylweddol nas diwallwyd yn y bro".
Ychwanegon nhw: "Bydd hyn yn galluogi pobl leol i sefydlu cartrefi tymor hir yn eu cymuned.
"Byddai hyn yn cynorthwyo mynd i'r afael â fforddiadwyedd tai yn y gymuned, ac felly yn rhan bwysig o gadw siaradwyr Cymraeg yn y gymuned hon... yn arbennig yr ifanc sydd wrth gwrs yn hanfodol i ddyfodol yr iaith, a'r mwyaf tebygol o fod angen cymorth i gael mynediad i dai."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2023