Cyngor Môn: 'Cefnogaeth unfrydol i drydedd bont'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Robin Williams: 'Fedran ni ddim cario 'mlaen i ddibynnu ar ddau gysylltiad'

Mae "cysylltedd gwael a diffyg dibynadwyedd" y ddwy bont sy'n cysylltu Môn a'r tir mawr yn cael "effaith negyddol ar ddenu buddsoddiad a chael busnesau i leoli ei hunain ym Môn".

Dyna gasgliad adroddiad wedi ei gomisiynu gan Gyngor Môn sy'n galw ar weinidogion i wthio 'mlaen gyda thrydedd bont yn sgil pryderon am y cysylltiadau presennol gyda'r tir mawr.

Fis Mawrth fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod pob prosiect mawr i adeiladu ffyrdd wedi eu canslo.

Ond er fod gobaith o'r newydd yn sgil denu statws porthladd rydd i rannau o'r ynys, mae cynghorwyr yn rhybuddio fod "cefnu" ar drydedd bont yn "bygwth llesteirio cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i wrthdroi dirywiad Ynys Môn".

Fore Mawrth fe gefnogwyd yr adroddiad yn unfrydol gan bwyllgor gwaith yr awdurdod.

Pont BritanniaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pont Britannia yw'r brysuraf o'r ddwy bont, ond yr unig ran o'r A55 na sy'n ffordd ddeuol

Wrth ganslo'r holl gynlluniau ffordd, gan gynnwys trydedd bont dros y Fenai, dywedodd gweinidogion llywodraeth Cymru y byddai'n rhaid i bob cynllun o'i fath yn y dyfodol gyrraedd gofynion llym ar allyriadau carbon.

Yn ogystal byddai angen profi na fyddai cynlluniau o'r fath yn cynyddu nifer y cerbydau ar y ffyrdd.

Ond er nid, o reidrwydd, yn ddiwedd llwyr ar y posibilrwydd o drydedd bont, roedd yn ddiwedd ar gynllun blaenorol oedd yn addo gobaith o groesiad newydd erbyn 2030.

Wrth ymateb i adroddiad y cyngor dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn blaenoriaethu "gweld y seilwaith a'r pontydd presennol yn gweithio'n well".

Wedi cyhoeddi adroddiad interim ym Mehefin, dolen allanol, mae Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru wedi cynnig sawl dewis i wella'r cysylltiadau presennol, ond does yr un yn cynnwys pont newydd.

Mae'r rhain yn cynnwys tair yn hytrach na dwy lôn dros Bont Britannia, gwell trafnidiaeth cyhoeddus rhwng Ynys Môn a Gwynedd ac ad-drefnu'r cyffyrdd presennol ger Pont Britannia.

'Dydy gwneud dim ddim yn opsiwn'

Gyda disgwyl gwaith sylweddol ar Bont y Borth dros y ddwy flynedd nesaf, gan gynnwys ei rhannol gau i draffig, roedd yn rhaid cau'r strwythur yn gyfan gwbl rhwng Hydref 2022 a Chwefror eleni i alluogi gwaith angenrheidiol brys.

Ond mae problemau wedi bod ar y bont brysuraf o'r ddwy hefyd, yn fwyaf diweddar ym mis Mai pan roedd rhaid cau Pont Britannia am fore cyfan yn dilyn gwrthdrawiad angheuol.

Yn ôl adroddiad newydd sydd wedi ei gomisiynu gan y cyngor roedd 52,000 o gerbydau yn croesi'r Fenai yn ddyddiol cyn y pandemig.

Pont y Borth
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Pont y Borth yn dathlu ei phen-blwydd yn 200 oed yn 2026

Ond gyda'r ynys wedi dioddef colli sawl cyflogwr o bwys dros y blynyddoedd diwethaf, dywed yr adroddiad fod y diffyg gwytnwch yn creu tagfeydd ac yn effeithio ar allu'r ynys i adfer y sefyllfa economaidd.

"Yn waeth na hynny," meddai, "mae'n rhwystro gallu'r ynys i ddenu'r busnesau a'r gweithgaredd economaidd y mae eu hangen" drwy arwain at "ddibyniaeth ar swyddi oddi ar yr ynys".

Gan nodi fod penderfyniad Llywodraeth Cymru yn "dwysáu'r heriau a wynebir gan economi'r ynys", mae pryderon hefyd am allu cerbydau brys i gyrraedd yr ynys gan fod y brif ysbyty ger Bangor.

Ychwanegir ei fod yn "fater ehangach na dim ond yr angen i wneud arbedion o ran amseroedd teithio" ac "nad yw gwneud dim yn opsiwn".

Byddai'r heriau o ganlyniad yn cynnwys mwy o dagfeydd traffig, arallgyfeirio mwy o fasnach i ffwrdd o Borthladd Caergybi ac amharu ar atyniad yr ardal i dwristiaid.

'Gwytnwch yn sigledig ofnadwy'

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, dirprwy arweinydd y cyngor sy'n cynrychioli cymuned Porthaethwy a Llanfairpwll, fod angen diweddaru seilwaith sy'n brysur heneiddio.

"Pwrpas yr adroddiad yw cyflwyno mwy o dystiolaeth i Gomisiwn Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru," meddai wrth Cymru Fyw.

Ciw ar Bont Britannia
Disgrifiad o’r llun,

Mae tagfeydd yn olygfa ddyddiol yn ystod oriau brig wrth i draffig geisio gadael ac yna dychwelyd i'r ynys ar ddechrau a diwedd y diwrnod gwaith

"Fel da ni wedi'i weld yn y misoedd dwytha' 'ma, mae'r gwytnwch yna yn sigledig ofnadwy ac unwaith mae rhywbeth yn digwydd sy'n golygu fod Pont Britannia yn gorfod cau, mae'n creu trafferthion ofnadwy ar ddwy ochr y bont.

"Fedran ni ddim cario mlaen i ddibynnu ar ddau gysylltiad, un fydd wedi bod yn gorad ers 200 mlynedd ymhen tair blynedd ac un arall fydd wedi bod yn gorad am 175 o flynyddoedd ymhen dwy neu dair blynedd.

"Da ni'n sôn am hen, hen bontydd yma a 'da ni wedi gweld y trafferthion hefo Pont y Borth pan fu'n rhaid cau y bont honno nôl ym mis Hydref."

Aeth ymlaen i ddweud: "Porthladd Caergybi ydi'r ail prysuraf yn y DU yn barod, hefo statws porthladd rhydd da ni'n gobeithio fod hynny am greu mwy a mwy o symud nwyddau allan o Gaergybi.

Porthladd CaergybiFfynhonnell y llun, Stena Line
Disgrifiad o’r llun,

Mae statws porthladd rhydd yn caniatáu i gwmnïau fewnforio nwyddau ac yna'u hallforio tu hwnt i'r rheolau trethi a thollau arferol

"Os da chi isho cario stwff o'r tir mawr i Gaergybi mae'n rhaid mynd â nhw dros Bont Britannia ar hyn o bryd, ac fel mae amser yn mynd yn ei flaen mae'r traffig yna yn mynd i gynyddu.

"Ar hyn o bryd, dydan ni ddim yn medru cario digon o draffig ar adegau prysur. Felly yn amlwg mae angen cryfhau'r gwytnwch yna a gwneud y seilwaith sydd ei angen er mwyn ein galluogi ni i symud traffig nôl a 'mlaen yn rhwydd."

'Mwy dibynnol ar y tir mawr'

Gyda 37% o boblogaeth gweithio Môn yn cymudo i'r tir mawr, mae tua 2,500 o swyddi wedi eu colli ar yr ynys ers 2004 yn sgil colli cyflogwyr fel Octel, Peboc, Alwminiwm Môn, Welsh Country Foods, Rehau, 2Sisters a chau gorsaf Wylfa.

O ganlyniad, medd y cyngor, mae pobl Môn bellach yn "hyd yn oed fwy dibynnol ar y tir mawr am swyddi".

"Mae problemau o ran mynediad yn golygu bod busnesau uchel eu gwerth yn symud oddi ar yr ynys, neu fod busnesau newydd, a fyddai wedi lleoli eu hunain ym Môn, yn dewis peidio â gwneud hynny, sy'n effeithio ar gynhyrchiant ac yn golygu mai dim ond swyddi sy'n talu llai sydd ar ôl ar yr ynys.

Mae prosiectau'r Rhaglen Ynys Ynni'n dod yn anoddach i'w cyflawni neu'n creu rhagor o effeithiau negyddol o ran yr economi," medd yr adroddiad.

Y FenaiFfynhonnell y llun, David Goddard

Bwriad y cyngor yw cyflwyno'r dystiolaeth sydd wedi ei chasglu i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru (CTGC), a fydd yn adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru.

Yn dilyn y cyfarfod dywedodd arweinydd y cyngor, Llinos Medi, ei fod yn "fwy na chynllun ffordd".

"Yn naturiol, roeddem yn hynod siomedig gyda chanlyniad diweddar Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru gan ei fod wedi methu â chydnabod amgylchiadau unigryw'r ynys a'r problemau y mae'r croesfannau presennol yn eu hachosi.

"Roeddem yn teimlo ei bod hi'n hanfodol ein bod ni'n comisiynu'n hymateb ein hunain ac rwy'n falch iawn bod aelodau'r pwyllgor gwaith bellach wedi cefnogi'r adroddiad."

Mewn ymateb i'r adroddiad fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cylch gorchwyl Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru wedi'i ymestyn i ystyried opsiynau ar gyfer sut y gellir gwneud y cysylltiadau i ac o Ynys Môn yn fwy gwydn.

"Er nad yw wedi gwneud ei argymhellion terfynol eto, yn ei adroddiad interim, mae'n nodi ei fwriad o wneud y seilwaith a'r pontydd presennol i weithio'n well."