Trafferthion croesi'r Fenai yn 'taro delwedd Ynys Môn'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Llinos Medi: "Yn weledol 'da ni'n edrych fel ein bod wedi torri'n cysylltiad yn gyfan gwbl"

Mae arweinydd Cyngor Môn yn poeni fod diffyg gwytnwch wrth groesi'r Fenai yn "taro delwedd yr ynys" ac yn gwneud i rai "gysidro os yw'n le addas i fyw".

Yn sgil penderfyniad i roi stop ar gynlluniau ar gyfer trydedd bont mae'r cyngor sir wedi galw ar Lywodraeth Cymru i lansio adolygiad brys o gysylltiadau presennol Ynys Môn gyda'r tir mawr.

Gan nodi sefyllfa unigryw Môn, sydd ond gyda dwy lôn bob ffordd i mewn ac allan o'r ynys, mae'r Cynghorydd Llinos Medi hefyd yn pryderu am ddelwedd Môn yn sgil cau Pont y Borth am sawl mis.

Mewn ymateb dywed Llywodraeth Cymru fod Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru yn ystyried cysylltiadau presennol yr ynys a bydd yn adrodd yn ôl cyn diwedd y flwyddyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pont Britannia yw'r croesiad prysuraf dros y Fenai

Gyda Phont y Borth wedi bod lawr i un lôn yr wythnos hon i alluogi gwaith paratoi i'w hatgyweirio ac ailagor yn llawn, mae Pont Britannia hefyd wedi gorfod cau i rai cerbydau yn ystod gwyntoedd cryfion neu'n dilyn damweiniau.

O ganlyniad, wnaeth cyfarfod llawn o'r cyngor sir ddydd Iau alw yn unfrydol am adolygiad brys i'r sefyllfa bresennol, dolen allanol.

Yn dilyn cyngor swyddogion ni thrafodwyd ymgais gan y Cynghorydd Aled Morris Jones i bwyso ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gynnig iawndal i fusnesau ym Mhorthaethwy a oedd wedi'u heffeithio gan gau Pont y Borth, yn ogystal â chynnig blwyddyn o barcio am ddim yn y dref i'w helpu i gael 'nôl ar eu traed.

Ond gan nodi fod ail borthladd brysuraf y DU wedi'i leoli yng Nghaergybi - gyda chais hefyd i sefydlu porthladd rhydd yno - mynegwyd pryderon hefyd am yr effaith ar ynyswyr a'u bywydau o ddydd i ddydd.

Gyda'r prif ysbyty ar gyrion Bangor a miloedd o bobl yn gweithio ar ochr arall y Fenai, nodwyd fod "dyfodol economaidd a llesiant trigolion yr ynys yn ddibynnol ar y cysylltiad".

Disgrifiad o’r llun,

Mae prif ysbyty Môn a Gwynedd ar y tir mawr ym Mangor

Mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw dywedodd arweinydd Cyngor Môn, oedd wedi rhoi'r cynnig gerbron y cyngor sir, fod delwedd yr ynys yn cael ei tharo.

"Fuon ni'n ffodus iawn na fuodd damwain na thywydd garw i gau Pont Britannia yn ystod y cyfnod [o gau Pont y Borth]," meddai'r Cynghorydd Llinos Medi.

"Ond lwc oedd hynny fwy na dim, a dydi hynny ddim yn ffordd deg iawn i bobl yr ynys o ran sicrhau eu diogelwch nhw."

'Edrych fel fod Ynys Môn ar gau'

Ond mynegwyd pryderon am yr effaith bosib ar yr economi hefyd.

"Yn amlwg mae gynnon ni gysylltiad hefo'n cwmnïau ni yma, ac yn weithredol does na'm un o'r cwmnïau rheiny wedi dod allan hefo pryderon," meddai'r Cynghorydd Medi.

"Ond 'da ni gyd yn gwybod os fysat yn chwilio am Ynys Môn yn ddiweddar drwy unrhyw search ar y we, un o'r pethau cyntaf fysa'n dod i fyny ydy fod y bont ar gau.

"Felly yn weledol 'da ni'n edrych fel ein bod wedi torri'n cysylltiad yn gyfan gwbl, a dydi hynny ddim yn ddelwedd i'r economi... dydi o ddim yn ddelwedd teg i ni gael felly mae o yn cael effaith.

"Mae o hefyd yn gwneud i unigolion gysidro os ydy Môn yn addas iddyn nhw fyw achos os wyt ti yn gweithio - boed yn y brifysgol neu'r ysbyty ym Mangor neu rhywle ar y tir mawr - mae cael unrhyw bryderon am gyrraedd dy fan gwaith yn her.

"Felly mae o wedi cael effaith ar ddelwedd Ynys Môn, ond 'dan ni byth isio bod mewn sefyllfa i edrych fel fod Ynys Môn ar gau eto."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae rhywun yn rhagweld fod angen y trydydd cysylltiad yna," meddai'r Cynghorydd Llinos Medi

Fe gadarnhawyd yr wythnos hon fod cwmni 2 Sisters i gau eu ffatri prosesu cig yn Llangefni ar ddiwedd y mis, gan arwain at golli dros 700 o swyddi.

Gyda phryderon economaidd yn fwy amlwg nag erioed yn lleol, dywedodd y Cynghorydd Medi: "Mae ymadawiad 2 Sisters yn dangos pa mor fregus ydy'r economi yma, a'r effaith go iawn ar bobl a'u teuluoedd.

"Os fysan nhw'n adolygu'r risgiau - gyda Phont Menai yn 200 oed bron ac wedi'i dylunio heb HGVs o Iwerddon mewn golwg - mae ein cysylltiadau yn hen.

"Mae rhywun yn rhagweld fod angen y trydydd cysylltiad yna... dwi ddim yn beiriannydd sy'n gallu dod i fyny hefo'r gwir ateb, ond mae angen i'r llywodraeth dderbyn fod bregusrwydd yma."

Ffynhonnell y llun, David Goddard

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi gofyn i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, dan arweiniad yr Arglwydd Burns, ystyried pa mor wydn yw'r mynediad i mewn ac allan o Ynys Môn yng ngoleuni'r problemau diweddar gyda Phont y Borth.

"Bydd yn adrodd yn ôl yn ddiweddarach eleni.

"Rydym hefyd yn gweithio gyda UK Highways A55 Ltd a'r cwmnïau peirianneg Spencer Group a COWI, i ddatblygu cynllun ar gyfer y gwaith adfer tymor hir sydd i'w gwblhau, wrth amharu cyn lleied â phosib, i ddod â'r bont eiconig yn ôl i gapasiti llawn, a fydd yn gwella'r gwytnwch yn gyffredinol.

"Ar hyn o bryd, rhagwelir y bydd y gwaith hwn yn dechrau ddiwedd yr haf."