Rapwyr yn 'dweud eu dweud' mewn cân ar ôl 'camgymeriad' S4C
- Cyhoeddwyd
Mae dau rapiwr o Gymru yn teimlo eu bod wedi "dweud eu dweud" ar ôl rhyddhau cân am faterion hil ac iaith yn ymwneud ag S4C a'r Eisteddfod.
Daw'r trac newydd ar ôl i'r sianel ymddiheuro am gamgymryd llun o Mace the Great am Sage Todz ar raglen Prynhawn Da.
Yn y fideo o'r gân newydd, o'r enw Welcome to Wales, mae rhai o'r geiriau'n cyfeirio at "amharch" a "siom" yn dilyn y camgymeriad ar S4C.
Cyn hynny fe ddaeth i'r amlwg na fyddai Sage Todz yn perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni oherwydd y defnydd o'r Saesneg yn ei ganeuon.
Mewn neges ar ei gyfrif Twitter fis diwethaf, dywedodd yr artist cerddoriaeth dril nad oedd yn gwrthwynebu penderfyniad penaethiaid y Brifwyl, ond nad oedd am newid ei ganeuon oherwydd y rheol iaith.
Yn y gân newydd, mae'n cyfeirio at y mater gan ddweud ei fod "yn parchu'r polisi" ond fod y "dewis yn anghyson" wrth gyfeirio at y ffaith ei fod wedi perfformio ar lwyfan yno'r llynedd.
"I respect the policy, bless/Ain't gotta perform ain't no stress/Last year I jumped on the stage and killed it/The choice is inconsistent at best," meddai mewn un rhan o'r gân.
Fe gafodd y mater gryn sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda rhai yn mynegi siom ac eraill yn cefnogi'r rheol iaith.
Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, yn ddiweddarach y bu'n "gyfnod anodd" i'r Brifwyl oherwydd negeseuon "annheg".
O ran y rheol iaith dywedodd "ei bod yn swnio fel rhywbeth negyddol, ond mae'n wythnos mewn blwyddyn lle mae rhywun yn gallu clywed y Gymraeg".
Mae Mace the Great hefyd yn cyfeirio at y digwyddiad ar Prynhawn Da yn ei eiriau yntau, gan ddweud: "I seen something on the TV with a picture of me that said it was Sage/But true say we all look the same/I done Texas, Boomtown, World Cup, Glasto/Still you don't know man's name/Disrespect - what a shame."
Wrth siarad am y gân newydd ddydd Mercher, dywedodd Mace, sydd o Gaerdydd, wrth y BBC: "Dwi ddim yn hapus am beth ddigwyddodd ond dwi'n hapus gyda'r canlyniad. Ry'n ni wedi gallu dweud ein dweud.
"Nid ni, yn amlwg, yw'r unig bobl yn y wlad sy'n teimlo bod angen siarad am hyn a bod yn rhaid i bethau newid.
"Dwi ddim yn hapus am beth wnaeth arwain at hyn, ond dwi'n hapus gyda'r gân a beth mae wedi dechrau yn y wlad."
Mewn datganiad dywedodd prif weithredwr S4C, Sian Doyle: "Rydym yn hollol gefnogol o Sage a Mace ac yn trafod sawl prosiect uchelgeisiol yn y dyfodol gyda nhw.
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y trac yn llwyddiannus gan ei fod yn tynnu sylw at nifer o faterion pwysig."
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cael cais am ymateb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2022