Meibion Glyndŵr: Dyn yn cyfaddef llosgi tai haf
- Cyhoeddwyd
Mae'r unig berson i gael ei ganfod yn euog mewn cysylltiad ag ymgyrch fomio Meibion Glyndŵr wedi siarad mewn manylder am y tro cyntaf am ei ran yn llosgi tai haf.
Mae Sion Aubrey Roberts, o Ynys Môn, wedi disgrifio'r hyn yr oedd yn gwneud gyda Meibion Glyndŵr - y grŵp oedd yn gyfrifol am losgi 200 o dai gwyliau pobl o Loegr yn yr 80au.
Yn ystod yr ymgyrch 12 mlynedd cafodd San Steffan a dinasoedd ar draws Lloegr hefyd eu targedu gan y grŵp.
Ni chafodd unrhyw un eu canfod yn euog o fod yn aelod o Meibion Glyndŵr yn ystod y cyfnod, ac roedd honiadau fod swyddogion wedi ceisio cael tystiolaeth ffug bod yr aelod seneddol Dafydd Elis Thomas ynghlwm â'r ymgyrch.
Yn y rhaglen mae Roberts yn rhannu fod ganddo boster o'r aelod IRA, Bobby Sands, a fu farw ar ôl ymprydio, ar ei wal tra'n blentyn, gan ychwanegu taw "torri mewn i dŷ a'i losgi fo" oedd ei orchymyn cyntaf wrth ymuno â Meibion Glyndŵr.
Er bod Roberts wedi cael ei garcharu am 12 mlynedd yn 1993, ag yntau'n 20 oed, am fod â deunydd ffrwydrol yn ei feddiant ac am anfon dyfeisiau ffrwydrol yn y post, doedd yr heddlu ddim yn gallu profi ei fod yn rhan o'r cynllwyn yn ehangach.
Ond yn rhaglen ddogfen newydd BBC Cymru, Firebombers, mae Roberts yn cyfaddef ei fod yn rhan o'r ymgyrch.
"Meibion Glyndŵr oedd fy arwyr i yn tyfu fyny. O'n ni methu fforddio prynu tai yn ein hardal ein hunain. O'dd o'n amhosib," meddai.
"Wrth i nhw brynu gymaint ohonyn nhw, o'dd pris tŷ lleol yn mynd i fyny fel bo' pobl methu fforddio nhw.
"O'n ni gyd yn cytuno'n llwyr ar un peth - roedd yr angen 'na i weithredu a bod eisiau taro."
'O'n ni'n gysgodion'
Yn ôl Roberts, roedd yr heddlu yn gwylio "pob dim", wrth i'r ymgyrch ddenu mwy a mwy o sylw yn yr 1980au.
Ond gyda'r grŵp yn defnyddio amseryddion (timers) ar ddyfeisiadau, roedd modd osgoi'r heddlu.
"O'n ni off y lôn erbyn tua naw y nos - o'n ni ddim wrthi'n hwyr y nos," meddai Roberts.
"O'n i ddim eisiau bod yn suspicious 'lly. O'dd 'na oriau cyn i nhw fynd off."
Dywedodd fod y grŵp yn "diflannu" cyn i'r tai losgi, gan ychwanegu: "O'n ni'n gysgodion."
Yn ôl y cyn-newyddiadurwr y BBC, Alun Lenny, dyma oedd yr heddlu yn ceisio dilyn wedi'r ddau ymosodiad cyntaf yn Sir Benfro ar 13 Rhagfyr 1979 tan y 90au cynnar.
Dywedodd Mr Lenny y byddai datgelu'r pwy oedd yn rhan o Meibion Glyndŵr yn un o'r "scoops newyddiadurol mwyaf", ond fod cael unrhyw fath o wybodaeth yn "amhosib".
Leonard Rees, dyn busnes oedd yn llogi bythynnod gwyliau yn Sir Benfro, oedd dioddefwr cyntaf yr ymosodiadau.
"Roedd yr holl eiddo'n wenfflam, yn ulw yn rhyfeddol o gyflym," meddai.
"Roedd y to wedi disgyn, yn ogystal â'r lloriau mewnol."
'Neb wedi'i weld hyd yn oed'
Cafodd dau dŷ arall eu targedu ar 13 Rhagfyr 1979, yn ogystal â thri pellach ym Mlaenau Ffestiniog y diwrnod canlynol.
O fewn chwe wythnos, roedd 17 o ail gartrefi yn y gogledd ac yn y gorllewin wedi eu dinistrio, gyda'r heddlu yn rhybuddio bod y tai oedd yn eiddo i bobl o Loegr mewn perygl.
"Roedd o'n ddinistr llwyr," meddai Kelvin Griffiths, oedd yn heddwas Heddlu Gogledd Cymru.
"Oherwydd eu bod mor anghysbell, roedd y tai hyn yn llosgi'n ddiarwybod," meddai.
"Dim ond pan oedd rhywun yn gyrru heibio ac yn meddwl 'mae'r tŷ wedi'i losgi'n llwyr'. Doedd neb wedi'i weld hyd yn oed."
Oherwydd pa mor anghysbell oedd lleoliadau'r tai, fe'i disgrifiodd fel "hunllef" i blismona, gan ychwanegu: "Roedd y siawns o gael eu dal yn sero, ac roedden nhw'n gwybod hynny."
Roedd y sector dwristiaeth wedi tyfu'n gyflym wedi'r rhyfel, gyda nifer o ymwelwyr o ardaloedd cyfoethog yn Lloegr yn prynu tai gwyliau mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith gan amlaf.
Erbyn 1978 roedd y twf wedi datblygu'n broblem, yn ôl yr ymgyrchydd Adrian Stone, gyda nifer o bentrefi'n wag ar gyfer cyfnodau hir o'r flwyddyn.
"Yn sydyn doedd 'na ddim swyddfa bost, roedd tafarndai'n cau, yn sydyn iawn roedd tai yr oedd teidiau a neiniau pobl efallai wedi byw ynddyn nhw yn cael eu gwerthu i bobl oedd yn ymddwyn gyda llawer o ansensitifrwydd diwylliannol," meddai.
Yn ôl ffigyrau Swyddfa Cymru, roedd nifer yr ail gartrefi wedi cyrraedd 20,000 yn y degawd wedi hynny, gyda 50,000 o bobl ar y rhestr aros ar gyfer tŷ cyngor.
Roedd nifer yr ymosodiadau wedi cynyddu, gydag 20 ymosodiad mewn cyfnod o dair wythnos ym mis Chwefror 1980.
Erbyn hynny, roedd Margaret Thatcher mewn grym.
Cafodd swyddfeydd y Ceidwadwyr ym Mhorthmadog a Shotton, Sir y Fflint, eu targedu gyda bomiau - yn aflwyddiannus - yn ogystal â chartref Ysgrifennydd Cymru Nicholas Edwards yn Y Fenni, Sir Fynwy.
Fe gafodd dros 50 o bobl eu harestio, gyda'r nifer helaeth yn cael eu rhyddhau'n ddigyhuddiad, wrth i'r heddlu geisio canfod pwy oedd yn gyfrifol.
'Roedden nhw eisiau Dafydd Elis Thomas'
Aeth Adrian Stone i'r llys gydag eraill oedd yn wynebu honiadau o fod yn rhan o Fyddin Gweithiwr y Weriniaeth Gymreig.
"Roedden nhw eisiau Dafydd Elis Thomas, oedd yn Aelod Seneddol ar y pryd," meddai.
"Roedden nhw eisiau i fi ddweud, yn anwir, taw Dafydd El oedd pennaeth yr ymgyrch ail gartrefi."
Tra cafwyd dau ddyn yn euog o fod â thanwyr (detonators) yn eu meddiant, doedd dim tystiolaeth fod neb yn rhan o'r ymgyrch ehangach.
Wrth ymateb i honiad Mr Stone, fe ddywedodd Heddlu De Cymru: "Roedd ymchwiliadau bryd hynny yn hollol wahanol.
"Mae ymchwiliadau heddiw yn cael eu cefnogi gan dechnoleg, tystiolaeth fforensig, rheolau datgelu a mesurau diogelu."
Erbyn canol yr 80au, roedd dros 100 o dai wedi eu llosgi. Ymhlith y bobl oedd wedi eu heffeithio oedd Ben Davies a'i deulu.
"Yn amlwg doedd gennym ni ddim llawer o gydymdeimlad â'r bobl oedd yn gwneud hyn," meddai.
"Roedden ni'n meddwl ei fod yn annheg iawn, braidd yn llwfr, llosgi eiddo pobl tra nad oedden nhw yno."
'Effaith Thatcher o'dd hyn'
Roedd Sion Aubrey Roberts wedi ymuno â'r grŵp yn 1984.
"Yn 1979, o'dd Cymru wedi pleidleisio o bedwar i un yn erbyn Senedd i Gymru ac o'dd Thatcher, wrth gwrs, yn dechrau cymryd drosodd," meddai.
"Effaith Thatcher o'dd hyn, maen siŵr, yr 80au, i greu pobl fatha fi.
"Nes i ddechrau gyda Cymdeithas yr Iaith, ond o'n i'n gwybod bod paentio road signs a felly byth yn mynd i fod yn ddigon i mi.
"O'n i eisiau gwneud rhywbeth lot mwy na hynny."
Yn y rhaglen mae Roberts yn disgrifio cael ei fagu mewn teulu Gwyddelig yng Ngwalchmai, Ynys Môn, gan ddweud fod y teulu'n cymryd rhan mewn gorymdeithiau protest.
"Hyd yn oed pan o'n i'n 10 oed, oedd lluniau o'r hunger strikers ar fy wal yn y bedroom, lly'."
"Ma' Bobby Sands yn sôn am yr undauntable thought - the thought that says you're right. Bo' chi'n gwybod bo' chi'n iawn yn be' 'da chi'n 'neud.
"Dyna pam does 'na'm ofn."
Targedu gwerthwyr tai
Erbyn canol yr 80au, roedd Roberts wedi ymuno â'r grŵp gan ddweud: "Mewn unrhyw ymgyrch, 'da chi'n gorfod newid.
"Unwaith fod cant neu ddau wedi mynd i fyny, dyw o ddim yn newyddion, na'di?"
Fis Chwefror 1988, diffoddwyd tri bom mewn siop gwerthwyr tai yng Nghaer, gydag 20 arall mewn lleoliadau eraill gan gynnwys Warrington, Bryste a Sir Caer.
Dywedodd Julian Beresford Adams - perchennog busnes oedd wedi ei dargedu yng Nghaer - fod 85% o'r tai yr oedd yn gwerthu yn Abersoch yn ail gartrefi.
"Ar ddiwedd y dydd mae pobl yn cael eu geni mewn un ardal a dyw llawer o bobl ddim, yn y pendraw, yn parhau yno oherwydd na allan nhw fforddio bod yno. Dyna fywyd," meddai.
"Dyw hynny ddim byd i wneud ag ail gartrefi."
Cafodd dwsinau o fusnesau eu targedu yn Abersoch rhwng 1988 a 1990.
Gyda neb yn cael eu cyhuddo o fod yn rhan o Meibion Glyndŵr, roedd y canwr Bryn Fôn wedi ysgrifennu cân Meibion y Fflam.
"Ar ôl 10 mlynedd o ymchwilio, yr unig beth oedd ganddon nhw i ddangos oedd plimsoll a cagoule o'dd pawb yn wisgo," meddai.
"O'dd pawb yn siarad amdanyn nhw [yr heddlu], pawb yn chwerthin ar eu pennau nhw hyd a lled y wlad.
"O'n i'n meddwl 'wnâi drio crisialu y teimlad yma'. O'n i just yn meddwl bod yr holl beth yn ffars, 'lly."
Yn dilyn hyn, honnwyd bod dyfais wedi'i chanfod mewn wal gerrig yn ei gartref, a chafodd ei arestio, ynghyd â'i bartner, a'i holi am dros 50 awr cyn cael ei ryddhau'n ddigyhuddiad.
Roedd yr holl beth yn "drewi", meddai. Does neb wedi darganfod pwy oedd wedi rhoi'r ddyfais yno.
'Mwy o gyhoeddusrwydd' yn Llundain
"O'dd un ddyfais yn Llundain gwerth hanner cant yng ngogledd Cymru," meddai Sion Aubrey Roberts.
"Oeddech chi'n cael mwy o gyhoeddusrwydd - mwy o publicity."
Yn haf 1990 cafodd pecynnau eu hanfon i San Steffan yn targedu tri Cheidwadwr, gan gynnwys Ysgrifennydd Cymru David Hunt.
Dywedodd cyn-Aelod Seneddol Penfro Nicholas Bennett - un arall a dargedwyd y byddai'r ddyfais "wedi chwythu fy mhen i ffwrdd" pe bai wedi ei agor, gan ychwanegu: "Terfysgaeth yw hi, yn bur ac yn syml."
Yn 1991 fe ddatblygodd y stori wrth i Roberts, David Gareth Davies a Dewi Prysor Williams gael eu harestio ar ôl cael eu ffilmio mewn gorymdaith brotest mewn iwnifform.
Ym mis Ionawr 1993, roedd achos llys yn erbyn y tri yn Llys y Goron Caernarfon dros 40 diwrnod.
Dywedodd yr erlyniad fod Roberts wedi cael ei weld mewn dillad fforensig ac yn rhoi dyfeisiau at ei gilydd, ond roedd yr amddiffyniad yn cwestiynu cywirdeb y gwyliadwriaeth ac yn dweud fod anghysondebau yn adroddiadau MI5.
Cafwyd y tri yn ddieuog o gynllwyn, ond Roberts yn euog o anfon pedair dyfais tân yn y post, a bod â sylweddau ffrwydrol yn ei feddiant. Cafodd ei ddedfrydu i 12 mlynedd.
"Maen rhaid i chi fod yn barod fynd i'r carchar cyn dechrau," meddai.
'Diflannu i'r llyfrau hanes'
Does dim ymosodiad wedi bod ar dŷ, na dyfais wedi ei hanfon yn enw Meibion Glyndŵr yn y 30 mlynedd ers i Sion Aubrey Roberts gael ei garcharu.
Roedd Roberts yn wyth oed pan ddechreuodd yr ymosodiadau, felly nid ef oedd yr arweinydd, ond cafodd ei ddisgrifio fel "milwr" gan rai newyddiadurwyr.
"Efallai na fyddwn ni fyth yn gwybod pwy yw'r un ohonyn nhw oni bai ein bod ni'n cael cyffes gwely angau gan rywun," meddai Alun Lenny.
"Mae Meibion Glyndŵr, yn debyg i Owain Glyndŵr, nawr wedi diflannu i'r llyfrau hanes."
Bydd cyfres ddogfen Firebombers ar BBC One Wales am 21:00 nos Iau, 20 a 27 Gorffennaf, a bydd y ddwy raglen ar gael ar iPlayer nos Iau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2017