Podlediad Meibion Glyndŵr: 'Rhyfedd pa mor gyfoes yw'r stori heddiw'

  • Cyhoeddwyd
gwreichion

Mae podlediad newydd gan BBC Cymru yn ail-edrych ar un o gyfnodau mwyaf ddiddorol hanes diweddar Cymru.

Mae Gwreichion yn gyfres o bodlediadau Cymraeg fydd yn ymchwilio i ymgyrch bomio tân Meibion Glyndŵr, gan archwilio ei heffaith ddofn ar y gymdeithas Gymraeg.

Yn 1979 dechreuodd ymgyrch o danau bwriadol yng Nghymru a barhaodd dros ddegawd, gyda tua 228 o ymosodiadau bomiau tân ar dai haf a busnesau.

Roedd y targedau yn cynnwys gwleidyddion o Senedd y Deyrnas Gyfunol, gyda'r mudiad cudd, Meibion Glyndŵr, yn cael ei gysylltu â'r ymosodiadau.

Disgrifiad o’r llun,

Cyflwynydd a chynhyrchydd y podlediad, Ioan Wyn Evans

'Cwestiynau sy'n dal heb eu hateb'

Ioan Wyn Evans yw cyflwynydd y podlediad, ac mae'n esbonio o lle daeth y syniad, a pham mai nawr oedd yr amser iawn i gynhyrchu podlediad:

"Fel rhywun oedd yn blentyn ysgol yn 1979 - pan ddechreuodd yr ymgyrch - mae 'na wastad ryw ddirgelwch wedi bod ynghlwm â'r ymgyrch losgi, a'n dal i fod rwy'n credu. Yr elfen yna bod yna nifer fawr o gwestiynau sy'n dal heb eu hateb - a falle fydd fyth yn cael eu hateb. A gydag unrhyw ddirgelwch, mae 'na chwilfrydedd naturiol i geisio cael gwybod mwy.

"O ran pam nawr - wel, mae'n ddegawdau wedi i'r ymgyrch ddechrau (44 mlynedd i eleni), ac ro'n i'n teimlo bod angen cofnodi rhai o'r straeon unigol hynny sy' ynghlwm gyda'r ymgyrch - mae ambell i stori falle gan bobl dy'n ni ddim wedi eu clywed o'r blaen.

"A hefyd, wrth gwrs, mae'n rhyfedd pa mor gyfoes yw'r stori heddiw, gyda thai haf, prisiau tai mewn cymunedau gwledig ac anallu pobol leol i brynu tai yn yr ardaloedd hynny yn dal yn bwnc pwysig yng Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,

Dros gyfnod o 12 mlynedd yn dechrau yn 1979, honnir bod Meibion Glyndŵr yn gyfrifol am 228 digwyddiad yng Nghymru

'Atgofion byw'

Yn y podlediad mae Ioan Wyn Evans yn trafod y tirwedd gwleidyddol a chymdeithasol yn ystod y cyfnod cythryblus. Mae'r gyfres yn cynnwys pobl a welodd y digwyddiadau yn uniongyrchol, gan gynnwys diffoddwyr tân, newyddiadurwyr, ac unigolion a dargedwyd yn bersonol. Mae Ioan hefyd wedi cyfweld â haneswyr a gwleidyddion.

Meddai Ioan: "Beth sy'n syndod ac yn ddifyr iawn yw pa mor fyw mae atgofion pobl o'r cyfnod a'r manylion maen nhw'n ei gofio. Roedd yr ymchwil hefyd yn ddiddorol - er enghraifft, roedd gallu dod o hyd i un o'r diffoddwyr wnaeth ymateb i'r tanau yn Sir Benfro ar noson gynta'r ymgyrch yn hynod gyffrous. Ro'n i'n teimlo'n freintiedig iawn i glywed ei sylwadau fel llygad-dyst, gan nad oedd e erioed wedi siarad am y peth o'r blaen.

"Mae 'na brofiadau gan lygad-dystion i ambell ddigwyddiad, gan gynnwys cyfweliad gan fab i lygad-dyst yn achos enwog 'Ciosg Talysarn' (sydd, yn anffodus, wedi marw ers iddo fe recordio'r cyfweliad hefyd)."

Disgrifiad o’r llun,

Tony Pearce, cyn-ddiffoddwr tân oedd yn rhan o'r criw wnaeth ymateb i'r tanau cyntaf yn Llanrhian, Sir Benfro, ar noson gyntaf yr ymgyrch losgi ar 13 Rhagfyr, 1979. Yn y llun yma mae Tony nôl ar safle'r tân cyntaf yn Bickney Cottage - y tro cyntaf iddo fod nôl yno ers 1979

Mae Ioan yn trafod y gwahanol ffynonellau a ddefnyddiodd er mwyn gwneud y podlediad: "Erthyglau papur newydd o'r cyfnod, wrth gwrs, a rhai adroddiadau newyddion sy' wedi eu cadw.

"Ambell lyfr sy' wedi eu hysgrifennu dros y blynyddoedd wedyn - er does 'na ddim cymaint o'r rheiny ag y byddai rhywun yn ei feddwl. Ac, er nad oes 'na lawer o wybodaeth o ran archifau swyddogol y Llywodraeth, mae 'na wybodaeth hefyd o ffeiliau y Swyddfa Gymreig yn ystod y cyfnod - ffeiliau ges i fynediad iddyn nhw drwy'r Archifau Cenedlaethol yn Llundain."

Pwy oedd tu ôl i'r ymgyrch?

Mae Ioan hefyd yn dweud fod y podlediad yn trafod syniadau newydd ynglŷn â phwy oedd tu ôl i'r tanau.

"Mae 'na bytiau bach newydd o wybodaeth, sy'n deillio o atgofion rhai o'r unigolion. A hefyd damcaniaethau gwahanol ynglŷn â phwy allai fod y tu ôl i'r ymgyrch o'r cychwyn cyntaf. Ac mae rhai o'r damcaniaethau hynny yn ddiddorol iawn."

Heddiw, mae'r nifer o dai haf sydd yng Nghymru yn bwnc mor sensitif ag erioed, ac mae Ioan yn dweud bod hyn yn cael ei drafod yn ei bodlediad.

"Mae un hanesydd sy'n cymryd rhan yn y gyfres yn dweud bod 'na wersi i'w dysgu o hanes yn gyson - ac mae hynny fwy na thebyg yn wir gyda'r stori yma hefyd. Er fod hon yn stori sy'n mynd nôl bron i bum degawd erbyn hyn, mae 'na elfennau cyfoes iawn ynghlwm gyda'r cyd-destun, a materion sy'n haeddu cael eu trafod heddiw."

Mae penodau un a dau o Gwreichion ar gael i'w lawrlwytho o ddydd Iau 20 Gorffennaf ymlaen ar BBC Sounds, gyda phenodau wythnosol i ddilyn bob dydd Iau.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig