Tom Jones: 'Allwch chi ddim stopio ni rhag canu Delilah'
- Cyhoeddwyd
Mae Tom Jones wedi dweud fod neb yn gallu "stopio ni rhag canu Delilah", wrth iddo awgrymu'n gyhoeddus am y tro cyntaf ei fod yn anghytuno gyda phenderfyniad diweddar i beidio ei chwarae yn ystod gemau rygbi Cymru.
Yn gynharach eleni cafodd corau sy'n perfformio yng ngemau rhyngwladol Cymru yn Stadiwm Principality eu gwahardd rhag canu'r gân glasur.
Dywedodd llefarydd ar ran y stadiwm ar y pryd eu bod yn "ymwybodol fod y gân yn broblemus ac yn achosi gofid i rai cefnogwyr oherwydd ei chynnwys".
Ond mewn cyngerdd yng Nghaerdydd nos Wener, fe ddywedodd Tom Jones wrth y dorf oedd yno'n ei wylio y bydd yn "parhau i'w chanu".
'Pwy oedd ddim eisiau i ni ganu?'
Mae geiriau cân 'Delilah' wedi dod yn fwy dadleuol yn y blynyddoedd diwethaf, gyda rhai pobl yn feirniadol o'r ffaith bod y geiriau yn disgrifio dyn cenfigennus yn llofruddio ei bartner.
Yn y gorffennol mae lleisiau blaenllaw fel y canwr Dafydd Iwan a'r gwleidydd Chris Bryant wedi cwestiynu a yw'n briodol iddi gael ei chanu bellach mewn gemau rygbi rhyngwladol.
Dyw'r gân heb gael ei chwarae ar uchelseinyddion Stadiwm y Principality ers 2015, ond eleni fe wnaeth y stadiwm gadarnhau na fydd bellach yn cael ei pherfformio gan gorau chwaith.
Yn gefnlen i benderfyniad y stadiwm ar y pryd oedd honiadau o rywiaeth a chasineb at fenywod gafodd eu gwneud yn erbyn Undeb Rygbi Cymru (URC) ar raglen BBC Wales Investigates.
Ond mewn sylwadau nos Wener ar y llwyfan oedd yn ymddangos fel petaen nhw'n cyfeirio at y mater, awgrymodd Tom Jones nad oedd yn cytuno â'r penderfyniad.
"Allwch chi ddychmygu... pwy oedd y dyn oedd ddim eisiau i ni ganu Delilah?" meddai.
"Allwch chi ddim stopio ni rhag canu Delilah. Fe wnaeth e stopio'r côr rhag canu ond wnaeth e ddim stopio'r dorf rhag ei chanu.
"A byddwn ni'n parhau i'w chanu hefyd!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2016