Llwyddiant yng Nghyngres Europa yn hwb i Hwlffordd

  • Cyhoeddwyd
Zac Jones yn dathlu gyda gweddill tim HwlfforddFfynhonnell y llun, FAW/John Smith
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y golwr ifanc, Zac Jones, yn allweddol i fuddugoliaeth Hwlffordd wythnos diwethaf

Bydd Clwb Pêl-droed Hwlffordd yn parhau â'u hymgyrch yng Nghyngres Europa gyda'i gêm nesaf yn erbyn B36 Tórshavn o Ynysoedd Ffaro nos Iau.

Wythnos diwethaf trechodd y tîm o Sir Benfro KF Shkëndija o Ogledd Macedonia ar giciau o'r smotyn, gyda'r golwr ifanc Zac Jones yn serennu, gan ennill eu lle yn ail rownd ragbrofol y gyngres.

Mae gan y tîm hanes o berfformio'n dda ar giciau o'r smotyn wedi iddyn nhw drechu Met Caerdydd a'r Drenewydd yn y modd yna er mwyn ennill eu lle yn Ewrop.

Mewn sgwrs gyda Cymru Fyw dywedodd Mared Pemberton, un o gyfarwyddwyr y clwb, bod eu llwyddiant wedi denu llawer o gefnogaeth newydd ac enwogrwydd i'r tîm.

"Ma' pawb yn cymryd e gyd mewn, ma'r tîm 'ma yn creu hanes," dywedodd.

"Ma' fe di dod â sut gymaint o gydnabyddiaeth i ni fel clwb o ran y wasg, y cyfryngau cymdeithasol, sydd yn beth dda, a hefyd dwi'n credu ni 'di denu lot o gefnogwyr newydd, rhai falle oedd ddim yn ymwybodol o'r clwb o'r blaen ond sydd nawr yn dilyn ein stori.

"Roedd 'na erthygl am Hwlffordd gan The Athletic wythnos diwethaf, a ma' nhw di bod yn dilyn ein hymgyrch, felly mae'n bendant wedi codi ymwybyddiaeth o'r clwb a hefyd o gynghrair cenedlaethol Cymru."

Ffynhonnell y llun, FAW/John Smith
Disgrifiad o’r llun,

Lee Jenkins sgoriodd y gôl funud olaf er mwyn union pethau wythnos diwethaf

Mae llawer o fechgyn lleol o Sir Benfro yn rhan o'r tîm, ac mae Ms Pemberton yn credu bod hyn yn destun balchder.

"Ma' llawer o'r tîm yn fechgyn lleol, ac wedi dod trwy'r academi, a ma' nhw nawr yn chware ar lwyfan Ewrop," meddai.

"Ma' rhai ohonyn nhw dal yn y coleg hyd yn oed felly mae'n gyfle gwych i'r bechgyn ifanc 'ma."

'Edrych 'mlan yn ofnadwy'

Hyd yma mae'r tîm wedi ennill €550,000 yn sgil eu llwyddiant yn y gystadleuaeth.

Dywedodd Ms Pemberton: "Bydd arian yn dod i'r clwb wrth i ni fynd trwy'r rowndiau a ni wedi cael cefnogaeth ariannol hyd yn hyn ond mae'n gostus i whare'r gemau 'fyd, i hedfan mas a phopeth fel 'ny.

"Ond wrth gwrs bydd e'n fuddsoddiad i'r clwb er mwyn cadw ymlaen i allu chware'r gemau rhyngwladol 'ma."

Mae'r clwb a'u cefnogwyr yn amlwg yn bositif wrth fynd i mewn i'w gêm nesaf.

"Dwi'n edrych 'mlan yn ofnadwy i ddydd Iau," ychwanegodd Ms Pemberton.

"Dwi'n siŵr byddwn ni'n gwneud ein gorau, ac yn chwarae'n gystadleuol fel bod ni dal ynddi, fel wythnos diwethaf, pan fyddwn ni'n chware gatre' yng Nghaerdydd."

Bydd Hwlffordd yn wynebu B36 Tórshavn am 19:00 nos Iau.

Mae'r Seintiau Newydd hefyd yn parhau i fod yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa, ac fe fyddan nhw'n wynebu Swift Hesperange yn yr ail gymal ar 1 Awst wedi sgôr cyfartal 1-1 yn y cymal cyntaf nos Fawrth.

Pynciau cysylltiedig