Cefnogaeth pennaeth CBDC o hyd i Page fel rheolwr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Rob Page gyda Noel MooneyFfynhonnell y llun, FAW/John Smith
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Robert yn rheolwr ar Gymru yn 2020 gyda Noel Mooney'n cael ei benodi'n brif weithredwr CBDC y flwyddyn ganlynol

Mae Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney wedi datgan ei gefnogaeth i'r rheolwr Robert Page yn dilyn canlyniadau siomedig i'r tîm cenedlaethol yn ddiweddar.

Cafodd Page ei feirniadu yn dilyn rhediad o un fuddugoliaeth mewn 12 gêm, gan gynnwys colli i Armenia a Thwrci yn rowndiau rhagbrofol Euro 2024 ym mis Mehefin.

Ond pan holwyd Mr Mooney a oedd y Gymdeithas yn dal i gefnogi Page, atebodd: "Ydym."

Bydd Cymru'n croesawu De Corea mewn gêm gyfeillgar ar 7 Medi cyn teithio i Latfia bedwar diwrnod yn ddiweddarach am eu gêm rhagbrofol nesaf.

"Rob fydd y rheolwr yn erbyn Latfia a De Corea," meddai Mr Mooney ar BBC Radio Wales, "ac mae gennym gytundeb hir-dymor gydag e [tan 2026]".

'Dal i adolygu popeth'

Ychwanegodd: "Yr hyn ddweda i yw fod gennym syniad go dda o lle'r y'n ni'n mynd... mae'n gyfnod o newid mawr.

"Ond fe fyddwn ni'n cadw'r mater dan adolygiad parhaus fel y bydden ni wastad yn neud wrth gwrs.

"Mae unrhyw sefydliad yn gorfod dal i adolygu pethau. Ydy'r bobl iawn gyda ni ym mhob swydd? Rhaid i ni barhau i edrych ar berfformiadau.

"Os wnawn ni'n dda iawn yn y gemau ym mis Medi byddai hynny'n wych oherwydd ry'n ni angen buddugoliaeth.

Ffynhonnell y llun, OZAN KOSE
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rob Page gytundeb newydd pedair blynedd gyda Chymru cyn Cwpan y Byd yn Qatar

"A fyddwn ni'n cyrraedd yr Euros? Cafodd hynny ei niweidio yn y canlyniadau diwethaf. does dim pwynt gwadu hynny.

"Ond gadewch i ni weld sut aiff y gemau nesaf a chadw popeth o dan adolygiad."

'Ddim yn dderbyniol'

Mae Page wedi bod wrth y llyw ers Tachwedd 2020 gan gymryd yr awenau dros dro oddi wrth Ryan Giggs i ddechrau.

Ar ôl arwain Cymru i Euro 2020 a Chwpan y Byd y llynedd, arwyddodd Page gytundeb newydd pedair blynedd cyn y gystadleuaeth yn Qatar.

Ond dyw Mooney ddim yn credu fod y penderfyniad i gynnig cytundeb hir i Page yn annoeth.

"Fe aeth e â ni i Gwpan y Byd... fe aeth e â ni i'r Euros," meddai.

"Allwn ni ddim anghofio'r camau mawr sydd wedi eu cymryd, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau gyda hynny.

"Pan fyddwn ni'n teimlo nad ydyn ni'n mynd ar y trywydd cywir, yna dyna pryd fydd amser am newid.

"Dyw cymryd cam yn ôl ddim yn dderbyniol i Gymdeithas Bêl-droed Cymru - dyw e ddim yn dderbyniol i unrhyw un."