Dysgwr y Flwyddyn 2023: Cwrdd â Roland Davies

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Cyfweliad â Roland Davies

Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llŷn ac Eifionydd, un o'r gwobrau fydd cyhoeddi enw Dysgwr y Flwyddyn 2023.

Mae pedwar o bobl wedi cyrraedd y rownd derfynol, ac mae BBC Cymru Fyw yn cael cyfle i gwrdd â'r ymgeiswyr.

Fe gafodd Roland Davies ei eni a'i fagu yn Llidiartywaun, lle mae'n dal i fyw heddiw gyda'i wraig Fflur a thri o blant bach.

Yn bentref bach gwledig rhwng Llanidloes a'r Drenewydd, ardaloedd cymharol di-Gymraeg o'r canolbarth, doedd yr iaith ddim yn rhan o'i fywyd nes iddo ddechrau magu plant.

Maen dweud bod "cael hwyl" tra'n dysgu yn rhan bwysig o'r profiad.

Dywedodd: "Mae 'na lawer o ffyrdd i ddysgu Cymraeg rŵan, felly os dydy un ffordd ddim yn gweithio, mae digon o ffyrdd eraill i ti drio dysgu.

"Mae llawer o gyrsiau allan yna hefyd, pethau fel wythnos yn Nant Gwrtheyrn neu benwythnos yn Llangrannog. Mae'n bwysig cael hwyl, achos os ti ddim yn cael hwyl dydi o ddim yn mynd i weithio."

Talent am ganu ac actio

Mae Roland yn aelod o Gôr Dyffryn Dyfi, ac wedi cael un o'r prif rannau yn sioe ddiweddar Cwmni Theatr Maldwyn, sef y Mab Darogan.

"Y peth mwyaf defnyddiol i fi oedd ymuno â'r côr a gyda Theatr Maldwyn, oherwydd bod ti'n clywed yr acen a'r geiriau o dy gwmpas di. Ti'n dysgu'n well, dyna dwi'n ffeindio beth bynnag.

Disgrifiad o’r llun,

Roland a'i deulu

"Un o fy hoff eiriau Cymraeg ydy ffrwchnedd, a nes i ddysgu'r gair mewn dosbarth sbel yn ôl a dyma fi'n dechrau defnyddio'r gair yn rheolaidd cyn i fy ngwraig ddweud wrtha'i na, na, na - paid dweud ffrwchnedd - jyst dweud banana!

"Dwi ddim yn deall pam bod pobl ddim yn dweud ffrwchnedd.

"Dwi'n neud llawer o gamgymeriadau ond mae bachgen chwech oed gyda fi sydd fel plismon iaith yn y tŷ.

"Mae Mabon yn hoffi fy nghywiro bob tro dwi'n 'neud camgymeriad ond dwi ddim yn poeni llawer, jyst cario 'mlaen i siarad Cymraeg ac mi ddaw yn iawn yn y diwedd dwi'n siŵr."

Gobaith o godi hyder

Mae llwyddiant Roland i ddysgu'r iaith yn destun balchder i'w wraig Fflur, sy'n enedigol o Fachynlleth, er nad ydy hi'n cydnabod mai hi oedd yr ysbrydoliaeth iddo ddysgu.

"Pan gwrddon ni, doedd Roland methu siarad dim Cymraeg er ein bod ni'n byw 45 munud i ffwrdd o'n gilydd," meddai.

"Ond dwi'n meddwl iddo gael agoriad llygad bod pobl ym Mro Ddyfi yn byw bywyd bob dydd yn Gymraeg, a dwi'n meddwl mai dyna oedd yr ysbrydoliaeth mwy na fi fel person - bod hi'n bosib cael cymaint o gyfleoedd ychwanegol wrth siarad Cymraeg.

"Ni'n falch iawn yn amlwg, a dwi'n gobeithio daw hyn ag ychydig o hyder i Roland a bod cyrraedd y rhestr fer yn ei hun yn mynd i roi hwb iddo fo i ddangos ei fod wedi gwneud gwaith da yn dysgu cymaint hyd yn hyn."

Fe fydd cyfle i gwrdd gyda'r tri arall sydd ar y rhestr fer yn ystod yr wythnos.

Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn Mawr ar ddydd Mercher yr Eisteddfod.