Rhys Richards: Doeddwn i methu symud ochr dde fy nghorff

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ar ôl cael strôc, mae’r actor Rhys Richards yn gwella wrth dderbyn therapi yn Ysbyty Eryri

Mae staff y gwasanaeth iechyd yn haeddu cael eu "gwerthfawrogi mwy nag y maen nhw", yn ôl actor fu'n derbyn triniaeth yn ddiweddar ar ôl cael strôc.

Ar ôl cael ei daro'n wael bron i dri mis yn ôl, mae Rhys Richards bellach yn ddiolchgar iawn i staff y gwasanaeth iechyd am eu cymorth.

Ond dydy'r actor, a ymddangosodd yn y gyfres C'mon Midffîld ar S4C, ddim yn teimlo bod gweithwyr y GIG yn cael y diolch maen nhw'n ei haeddu o hyd, gan gwestiynu pam fod problemau o hyd dros gyflog rhai aelodau o staff.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "staff anhygoel y GIG yng Nghymru yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i ddegau ar filoedd o bobl".

Ychwanegon nhw fod y gyllideb hyfforddi ar gyfer staff newydd y GIG "yn cael ei gynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn".

'Teimlo'n reit isel'

Roedd Rhys yn ei gar pan ddechreuodd deimlo'n sâl dros 11 wythnos yn ôl.

Penderfynodd fynd i'r feddygfa, ble cafodd wybod ei fod yn cael strôc.

Ond mae'n dweud iddo deimlo waethaf y diwrnod wedyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffisiotherapydd Rhodri Jones yn rhoi cymorth i Rhys Richards gryfhau wedi'r strôc

"Y diwrnod ar ôl cael y strôc oedd yn really anodd," meddai.

"Pan ddeffrais i, doeddwn i methu symud ochr dde fy nghorff.

"Dim symudiad o'r goes neu'r fraich a dim modd siarad. O'n i'n teimlo'n reit isel, a ddim yn gwybod beth oedd o'm mlaen i."

Ond yn ôl yr actor - a enillodd wobr BAFTA Cymru am yr actor gorau am ei bortread o'r mecanic di-hyder a drodd yn focsiwr yn y ffilm Cylch Gwaed - mae cymorth y staff wedi ei wthio i wella.

"'Sa rhywun wedi fy ngadael i mewn gwely yn Ysbyty Gwynedd, fyswn i wedi mynd yn fwy mewnblyg a fyswn i ddim isio neud dim byd.

"Ond ti'n gwybod ti ddim yn cael yr amser gan y staff i feddwl am hynny. Mae'n rhaid i ti symud ymlaen.

Disgrifiad o’r llun,

Dydy'r actor, a chwaraeodd gymeriad Harri yn C'mon Midffild, ddim yn teimlo bod gweithwyr y GIG yn cael y diolch maen nhw'n ei haeddu

"Ac yn sicr fyswn i ddim yma rŵan gyda symudiad fy nghoesau 'nôl, a'r fraich yn gwella hebddyn nhw. Maen nhw wedi bod yn anhygoel gyda'u cefnogaeth.

"Mae'n rhaid i mi ddweud, dwi ddim yn meddwl bod staff yn cael eu gwerthfawrogi fel dylan nhw.

"'Dan ni'n clywed yn gyson problemau am gyflogau ac felly, dwi methu deall pam. O'r glanhawr i'r person uchaf yn y swydd, maen nhw'n grêt ac yn haeddu cael eu gwerthfawrogi."

'Dwi'n gweld newid mawr'

Ers symud yn ôl i'w gartref mae Rhys wedi parhau i dderbyn cymorth.

Mae Rhodri Jones yn ffisiotherapydd ac yn un o'r tîm sy'n gweithio gyda Rhys.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r niferoedd sy'n dioddef strôc yn mynd i fyny," medd Rhodri Jones

"Dwi'n gweld newid mawr o pan weles i o yn y dyddiau cynnar yn Ysbyty Gwynedd, i rŵan wrth iddo ddod yn ôl i ngweld i pob wythnos. Mae wedi gwella cymaint.

"I fod yn hollol onest dyna yw fy hoff beth i am y swydd, ti'n cael y fraint o fod gyda rhywun ar y daith yna o wella.

"Mae'r niferoedd sy'n dioddef strôc yn mynd i fyny, sy'n gallu rhoi'r uned strôc yn Ysbyty Gwynedd dan dipyn o bwysau.

"Mae'n gallu bod yn rhwystredig achos 'dach chi'n gwybod bod mwy o therapi yn mynd i arwain at fwy o wella, ond mae'n anodd wedyn pan 'dach chi'n trio gweld cymaint o bobl ag sy'n bosib."

'Gweld gwellhad yn rhoi hwb'

Ond mae angen cymorth ar yr adran i allu parhau i gefnogi cleifion fel Rhys yn y dyfodol, yn ôl therapydd ymgynghorol gofal strôc y bwrdd iechyd, Karl Jackson.

"'Dan ni'n gwybod os 'dan ni isio rhoi mwy o ofal yn y gymuned, os 'dan ni isio i bobl ddysgu sut i fyw ar ôl dioddef strôc, 'dan ni angen mwy o adnoddau, staff, arian a ffynonellau i gefnogi cleifion strôc yn yr ysbyty ac allan yn y gymuned," meddai.

"Bydd hynny'n bwysicach eto wrth i'r niferoedd sy'n cael strôc gynyddu yma yng Nghymru yn y dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Karl Jackson mae angen cymorth ar yr adran i allu parhau i gefnogi cleifion fel Rhys yn y dyfodol

Mae 'na daith hir o flaen Rhys wrth iddo barhau i wella yn dilyn y strôc.

Ond gyda help staff y gwasanaeth iechyd, mae'n camu mlaen yn obeithiol.

"Mae wedi bod yn anodd i gyrraedd ble ydw i rŵan," ychwanegodd.

"Ond gyda help y staff mewn ffordd mae wedi bod yn broses pleserus. Mae gweld pethau'n gwella yn rhoi hwb i rywun.

"A'r nod rŵan yw i gadw i fynd a gwella eto, a pwy a wŷr, falle meddwl am actio unwaith eto."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bob dydd mae staff anhygoel y GIG yng Nghymru yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i ddegau ar filoedd o bobl.

"Rydyn ni wedi cyllido codiad cyflog haeddiannol ar gyfer Staff Agenda ar gyfer Newid y GIG a sicrhawyd drwy gytundeb ar y cyd ag undebau llafur iechyd ac rydyn ni'n cynyddu ein cyllideb hyfforddi ar gyfer staff newydd y GIG flwyddyn ar ôl blwyddyn.

"Rydyn ni hefyd yn buddsoddi mewn arloesi, gwelyau cymunedol ychwanegol a gwasanaethau newydd fel 111 a chanolfannau gofal sylfaenol brys i sicrhau bod y GIG yng Nghymru yn gallu ateb y galw cynyddol."