Lladrad fferm: Teimlad 'annifyr, afiach' i deulu Cwm Cynllwyd
- Cyhoeddwyd
"Mae'n gwneud i ti deimlo fel ti'n amau pawb a bob cerbyd sy'n pasio."
"Bob car sy'n pasio ar y ffordd, mae [y plant] yn holi 'pwy di hwnna?'"
I Cari Sioux, mae lladrad o'i fferm yng Nghwm Cynllwyd ger Llanuwchllyn wedi cael effaith ehangach na cholli offer.
I'w thri o blant, mae'n dweud bod y lladrad wedi cael effaith "greulon" arnyn nhw, yn ogystal â'r gost ychwanegol i'r busnes.
Daw wrth i ffigyrau un cwmni yswiriant awgrymu bod costau troseddau gwledig yn £2.3m yng Nghymru yn 2022.
Mae ffigyrau NFU Mutual yn gynnydd o 73% ar ffigyrau 2021, ond yn ostyngiad bychan o'r cyfnod cyn y pandemig, sef £2.6m yn 2019.
'Teimlad annifyr, afiach'
Dywedodd Cari bod gwybod bod rhywun wedi bod ar y fferm wedi effeithio arni'n fawr.
"Yn anffodus iawn, daeth rhywun i'r fferm tua 10 y nos a dwyn y quad mawr a quad y plant.
"Roedden nhw yn amlwg wedi bod ar y fferm o'r blaen."
"Roedd giatiau'r buarth wedi cau y noson honno, ac erbyn i ni godi bore wedyn, roedd gatiau'r buarth dal wedi cau.
"Doedd o ddim yn amlwg bod nhw wedi bod yma tan i ni ddarganfod bod y quads wedi mynd.
"Mae'n deimlad annifyr, afiach rywsut.
"Mae rhywun wedi bod heb ganiatâd ar dy fuarth di. Mae'n gwneud i ti deimlo fel ti'n amau pawb a bob cerbyd sy'n pasio."
"Gan fod ni'n magu tri o blant yma, mae'n annifyr iddyn nhw, a ti wastad gorfod egluro 'mae'n ok. 'Da ni'n nabod pwy ydi hwnnw,'
"Bob car sy'n pasio ar y ffordd, maen nhw'n holi 'pwy di hwnna?'
"Mae wedi effeithio nhw yn fwy 'na ni fel oedolion. Ac mae'n effaith reit greulon rywsut ac mae hynny wedi creu cost ychwanegol i ni."
Mae'r teulu wedi mynd i ymdrechion i geisio atal lladrad arall drwy gydweithio gyda'r heddlu, prynu system camerâu cylch cyfyng a marcio offer.
"'Da ni 'di rhoi DNA ar drelars a cerbydau ATV. Tase'r rheina yn mynd a bod nhw yn cael eu darganfod yn rhywle, bydd rheina yn cael eu traceo nôl at ein ffarm ni gyda'r DNA profiling yna sydd yn uniongyrchol i fferm ni."
Dwyn anifeiliaid ar gynnydd
Mae NFU Mutual yn dweud mai beiciau cwad a cherbydau pob tir (ATV) ydy prif dargedau lladron gwledig, ond hefyd bod cynnydd mewn dwyn da byw.
Roedd hyn yn cynnwys sawl enghraifft o dros 50 o ddefaid yn cael eu dwyn o ffermydd.
Fe gollodd Rhodri Jones, sydd hefyd yn ffermio yn ardal Llanuwchllyn, ei gi defaid, Spot, tua 18 mis yn ôl.
Roedd hyn, meddai, yn gyfnod pan gafodd nifer o gŵn defaid eraill eu dwyn o'r ardal gyfagos.
"Es i nôl y ci i wneud 'chydig bach o waith a darganfod fod y ci ar goll," meddai.
"Doeddwn ddim yn bryderus iawn ar y pryd, gan feddwl ei fod wedi mynd ar grwydr bach, ond fel oedd amser yn pasio a'r un cymydog wedi ei weld o, dallt o bosib fod ni ddim am weld y ci eto.
"Erbyn trafod ymhellach mi ddois i ddeall fod mwy o gŵn wedi mynd ar goll."
Ychwanegodd: "Oedd y plant wrth eu boddau hefo'r ci, mae cymryd lle ci sydd wedi arfer ar fferm yn sialens yn ariannol ac o ran amser a ffendio ci i siwtio wrth gwrs.
"Dydy o ddim yn syndod i glywed fod troseddu ar gynnydd, mae'r ardal yma wedi ei thargedu dro ar ôl tro, a mae rhywun yn teimlo'n rhwystredig.
"Allwn ddim cario 'mlaen fel hyn... mae angen i'r rhai sy'n cael eu dal eu dwyn i gyfri'.
"Mae'n rhaid i chi wastad symud ymlaen a dygymod â'r sefyllfa ond mae rhywun yn teimlo fod ni dan warchae, a fedar o ddigwydd eto ar lefel mor eang."
Gangiau troseddol trefnus
Mae'r gangiau sy'n targedu ffermydd yn "hynod o drefnus", meddai Owen Suckley, Rheolwr Cymru NFU Mutual.
"Rydym bellach yn gweld gweithgarwch troseddol a'i drefnwyd yn rhyngwladol," meddai.
"Mae'r gangiau hyn yn targedu peiriannau fferm gwerth uchel a chitiau GPS oherwydd gellir eu gwerthu ledled y byd.
"Mae llawer o eitemau'n cael eu dwyn 'i'w harchebu' gan ladron gan ddefnyddio technoleg ar-lein i nodi ble mae peiriannau fferm yn cael eu storio a chanfod y ffordd orau o'i dwyn.
"Byddant hefyd yn treulio oriau yn gwylio symudiad teuluoedd fferm i weithio allan yr amser gorau i ymosod."
Dydy gweld cynnydd mewn troseddau ers y pandemig ddim yn syndod, meddai Rob Taylor, Cydlynydd Troseddau Heddluoedd Gwledig a Bywyd Gwyllt Cymru.
"Fodd bynnag, dros y 12 mis diwethaf rydym wedi gwneud cynnydd mawr wrth gynhyrchu strategaeth wledig newydd sbon a darparu'r hyfforddiant a'r wybodaeth ddiweddaraf i'n swyddogion heddlu gwledig sydd eu hangen arnynt i fod yn fwy effeithiol yma yng Nghymru.
"Mae angen i ni fod yn wyliadwrus a pharhau ar y llwybr yr ydym arno, gyda'r prif nod o wasanaethu ein cymunedau gwledig a darparu'r gwasanaeth gorau posib."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd4 Awst 2020