Cost ymosodiadau cŵn ar dda byw wedi codi 50% ers y pandemig

  • Cyhoeddwyd
Ci yn rhedeg ar ol defaidFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl arolwg mae 64% o berchnogion yn cyfaddef bod eu cŵn yn ymlid anifeiliaid eraill

Mae'r gost i ffermwyr oherwydd ymosodiadau cŵn ar dda byw wedi cynyddu 50% ers cyn y pandemig.

Dywed cwmni yswiriant NFU Mutual bod ymosodiadau cŵn wedi costio £1.8m i ffermwyr yn 2022, o'i gymharu â £1.2m yn 2019.

Yng Nghymru, mae'r cwmni'n amcangyfrif bod anifeiliaid fferm gwerth £440,000 wedi cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol gan gŵn yn 2022.

Gyda'r tymor ŵyna yn ei anterth mewn sawl ardal, mae'r cwmni'n rhybuddio perchnogion i gadw eu cŵn ar dennyn wrth ymweld â chefn gwlad dros wyliau'r Pasg.

Ymddwyn yn gyfrifol

Dywedodd Owen Suckley, rheolwr NFU Mutual Cymru, fod yn rhaid i ymwelwyr gofio bod lleoliadau prydferth cefn gwlad hefyd yn allweddol i ffermwyr o ran eu bywoliaeth.

"Rydym yng nghanol y tymor ŵyna yng Nghymru felly mae'n angenrheidiol bod perchnogion cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol trwy gadw eu ci ar dennyn yn ymyl da byw, ac yn enwedig ger defaid ac ŵyn bregus," meddai.

"Yn ystod y pandemig Covid-19 daeth nifer o bobl yn berchnogion cŵn am y tro cyntaf, ond yn drasig mae hyn wedi cael ei ddilyn gan gynnydd mawr yng nghost ymosodiadau ar dda byw.

"Mae'n anodd i bobl ddychmygu y gall eu ci teuluol hoffus, redeg ar ôl, anafu neu ladd anifail arall - ond mae pob un ci yn gallu gwneud hyn, waeth beth yw eu brîd neu faint.

"Os yw ymosodiad yn digwydd, mae'n bwysig fod pobl yn derbyn cyfrifoldeb a hysbysu'r heddlu neu ffermwr lleol, fel nad yw anifeiliaid sydd wedi'u hanafu yn dioddef yn ormodol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybudd i berchnogion gadw eu cŵn ar dennyn pan fyddent ger defaid ac ŵyn a allai fod yn fregus

Daw'r rhybuddion yn sgil arolwg gan NFU Mutual o dros 1,100 perchennog ci lle'r oedd:

  • 64% yn cyfaddef bod eu cŵn yn ymlid anifeiliaid eraill;

  • 46% yn credu na fyddai eu ci yn gallu anafu neu ladd da byw;

  • 64% yn cyfaddef eu bod yn gadael eu cŵn oddi ar dennyn yn y wlad;

  • 39% yn cyfaddef nad oedd eu ci yn ufuddhau pan oedd y perchennog yn galw arno i ddod 'nôl.

Disgrifiad o’r llun,

"Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin," meddai Rob Taylor

Dywedodd Rob Taylor o Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu y gellid rhwystro ymosodiadau cŵn ar ddefaid, trwy ddefnyddio "dipyn o synnwyr cyffredin".

"Fe fydd yr heddlu yn parhau i gymryd agwedd gadarn tuag at droseddau fel hyn, ond rydym hefyd yn gofyn i'r cyhoedd wneud y peth iawn a rhoi ci ar dennyn wrth ymyl da byw, a sicrhau na fedr eich anifail anwes ddianc os yw'n cael ei adael ar ei ben ei hun."

Anwybyddu arwyddion

Mae'n broblem sy'n bodoli erioed, meddai Dan Jones, sy'n ffermio ar y Gogarth yn Llandudno, ond mae'n broblem sy'n "cynyddu", er gwaethaf arwyddion yn cynghori ymwelwyr i gadw eu cŵn ar dennyn.

"Dwi 'di bod yn colli dafad bob mis... y cŵn yn mynd ar ôl nhw a lladd nhw," dywedodd ar raglen Dros Frecwast.

"Ymwelwyr [sy'n] dod â'u cŵn am dro i gefn gwlad a'r cŵn ddim 'di arfer yng nghefn gwlad sydd yn creu'r broblem fwya'.

"'Dan ni efo arwyddion yn bob man ar y Gogarth lle 'ma' pobl yn parcio a lle ma'n nhw'n dod i gerdded fwya'... ond dydy lot o bobl ddim yn sylwi.

"Ma' 'na gymaint o arwyddion efo petha' er'ill, wedyn mae'n anodd iddyn nhw ddeall."

Pynciau cysylltiedig