PMDD: 'Diffyg cydnabyddiaeth' o effaith cyflwr cyn mislif
- Cyhoeddwyd
Mae deiseb yn galw am ymchwilio mwy i gyflwr Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD) a'i wneud yn rhan orfodol o hyfforddiant meddygol.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n cydnabod bod yna ddiffyg cydnabyddiaeth o'r cyflwr ac yn dweud eu bod yn ceisio sicrhau bod hynny'n newid.
I rai sydd â'r cyflwr, mae wythnosau o bob mis yn gallu bod yn hunllef.
Un sydd wedi dioddef ers cael ei thrydydd plentyn ydy Ela Zaccaria, o Gaerdydd.
"Naethon nhw ddechrau ar ôl i mi gael y trydydd plentyn, so'r symptomau o'n i'n cael, o'dd o fatha bod fi wedi colli rhywun agos i fi, fatha bod rhywun 'di marw," meddai.
"Do'n i'm yn gallu stopio crio, o'n i'n teimlo'n unig, o'n i'n teimlo fel bod 'na iselder arna fi.
"I ddechra' do'n i'm yn deall be' o'dd yn mynd ymlaen achos dydw i erioed wedi diodde' efo iechyd meddwl.
"Pan o'n i'n mynd i weld y doctor o'dda nhw'n trio deud bod fi efo post natal depression. I fi do'dd o just ddim yn adio fyny achos un munud o'n i'n oce, munud nesa' do'n i ddim.
"Es i weld y GP ac oeddan nhw'n deud bod isio i fi fynd i weld seicolegydd ac oeddan nhw just yn lluchio petha' fel tabledi anti depressant arna' i.
"Os oes 'na ryw dro lle oedd isio rhoi diwedd i fywyd, fasa fo yn adeg hynny. Do'n i ddim am, ac o'n i'n gw'bod do'n i ddim am, ond fedra i ddallt sut ma' pobl isio rhoi diwedd i'w bywyd.
"Nath 'na ddim un GP ista lawr efo fi i siarad efo fi am y symptomau o'n i'n experiencio. O'dd o fatha bod ganddyn nhw ddim amser, odda' nhw rhy sydyn i daflu tabledi ata fi a gadael fi fod."
Beth yw PMDD?
Yn ystod y cylch mislif, mae lefelau'r hormonau estrogen a phrogesteron yn codi a gostwng.
Mae ymennydd rhai yn fwy sensitif i'r newid gan achosi symptomau fel iselder, gorbryder, poenau neu ddiffyg egni - a rheiny'n llawer gwaeth na symptomau PMS arferol.
12 mlynedd i gael diagnosis
Bu'n rhaid i Ela fynd yn breifat er mwyn cael diagnosis a'r driniaeth gywir, ac mae ei phrofiad ymhell o fod yn unigryw.
Ar gyfartaledd, mae'n gallu cymryd tua 12 mlynedd i gael diagnosis PMDD - ac mae'n debyg bod tua un ym mhob 20 o rai sy'n cael mislif (5%) yn dioddef.
Yn ôl ffigyrau'r Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Anhwylderau Cyn Mislif (IAPMD), mae 34% o unigolion sy'n debygol o gael diagnosis wedi ceisio rhoi terfyn ar eu bywyd ar ryw adeg.
Mae Ela yn poeni am rai eraill sy'n diodde', yn enwedig os ydyn nhw'n ifanc.
"Dwi'n hogan sy'n 35 oed, sydd erioed wedi cael [trafferthion] iechyd meddwl," meddai. "Ond mae 'na ferched yn cael o ers y diwrnod maen nhw'n dechrau eu mislif.
"Maen nhw'n gorfod cael profiad o 10, 11 neu 12 oed am rest o'u bywydau.
"Does dim rhaid, as long as bod y doctoriaid yn gallu identifio ac ymateb i'r merched yma'n fwy sydyn, fedran nhw safio bywydau pobl."
Un arall sydd wedi dioddef ydy'r gomediwraig o'r Felinheli, Katie Gill-Williams.
Er iddi fynd i weld ei meddyg teulu droeon, mae hi wedi methu cael atebion.
"Dwy wythnos cyn fy period dwi'n dechrau teimlo'n paranoid am bobl, pam bod nhw'n ffrindiau efo fi... just popeth yn really paranoid a strange, a trist hefyd fel dwi ddim yn medru gwneud dim byd," meddai.
"Sgen i ddim diagnsosis. Nes i siarad efo fy noctor dros y ffôn yn ystod lockdown a 'naeth o ddweud wrtha i am fynd ar contraceptive am dri mis.
"Nes i ddechrau a do'n i ddim yn teimlo'n well o gwbl.
"Mae'n cymryd llawer i wneud yr alwad a wedyn teimlo'n rili disheartened, just teimlo fel giving up achos mae menopos nesa' so just aros am hwn!"
Codi ymwybyddiaeth
Yn ôl y meddyg teulu, Dr Llinos Roberts, dydy hi ddim o reidrwydd yn hawdd adnabod PMDD gan fod y symptomau mor amrywiol ac yn debyg i gyflyrau eraill.
"Does 'na ddim prawf ar gyfer y cyflwr, mae'n fater o gael trafodaeth gyda'r unigolyn i weld sut mae'r symptomau'n effeithio arnyn nhw a gweld sut orau i drin a'u cefnogi nhw," esboniodd.
"Falle bod 'na le i feddwl am ddod gyda'r addysg i mewn i'r ysgolion er mwyn codi ymwybyddiaeth am y cyflyrau yma'n gyffredinol.
"Mae 'na hefyd le i wella'r addysg a'r hyfforddiant i feddygon yn gyffredinol am y cyflyrau yma, a lleihau'r stigma.
"Y gwir ydy, siŵr o fod bod nifer o bobl ddim yn dod i'n gweld ni achos bod nhw'n teimlo'n anghyfforddus yn trafod eu symptomau nhw."
Nawr mae deiseb yn galw am fwy o ymchwil a gwneud addysg am PMDD yn rhan orfodol o hyfforddiant meddygol. Un sy'n cefnogi'r alwad ydy'r Aelod Senedd, Sioned Williams.
"Dwi'n sicr bod 'na le i Gymru arwain y ffordd," meddai. "'Dan ni ddim yn gwybod digon am gyflyrau fel PMDD na nifer o gyflyrau sy'n effeithio ar fenywod yn arbennig.
"Mae angen mwy o ymchwil. Dwi'n meddwl gall y llywodraeth arwain y ffordd drwy gomisiynu ymchwil a sicrhau bod hyn yn flaenoriaeth, a'i fod yn rhan o'r ffordd 'dan ni'n hyfforddi meddygon."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod nad oes digon o gydnabyddiaeth o Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif a'r effaith ddifrifol mae'n gallu ei chael".
Ychwanegodd: "Rydym yn gweithio gyda Gweithrediaeth y Gwasanaeth Iechyd i weld sut y gallwn sicrhau bod mwy o wybodaeth a chanllawiau ar gael ar-lein am iechyd mislif, gan gynnwys PMDD."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2019