Ateb y Galw: Llŷr Titus

  • Cyhoeddwyd
Llŷr TitusFfynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Llŷr Titus

Un sy'n wreiddiol o fro'r Eisteddfod sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma sef y llenor a'r dramodydd, Llŷr Titus, o Fryn Mawr ger Sarn, enillydd Llyfr y Flwyddyn 2023.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cael neidr bren yn bresant, rhyw degan oedd hi ar linyn y gallwn i ei llusgo hi ar fy ôl, mi oeddwn i'n ifanc iawn. Dwi'n cofio hefyd ein bod ni yn rhywle hefo coed yn llawn falau a rheiny'n goch, goch pan ges i hi.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llŷn de, lle arall? Taswn i ddim yn blwyfol yna Sir Benfro falla, neu'r Oerddwr.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Dwi'n gobeithio nad ydw i wedi ei chael hi eto! Ond mi ges i noson dda iawn mewn bar arcade yn Salem, Massachusetts, unwaith.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Triw, styfnig, blêr.

Ffynhonnell y llun, PALASPRINT
Disgrifiad o’r llun,

Angharad Price yn holi Llŷr am ei nofel ddiweddaraf, Anfadwaith, yn siop lyfrau Palas Print

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Dwi'n trio chwerthin ar y rhan fwyaf o bethau, hyd yn oed os nad oedden nhw'n ddigri iawn ar y pryd. Yn ddiweddar mi wnes i dreulio awr ar stâd ddiwydiannol yn ceisio dysgu sut oedd gyrru bws trydan otomatig a methu'n drychinebus, ddim yn hwyl ar y pryd ond yn stori dda iawn erbyn hyn!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Gweler uchod, mi wnaeth na griw o bobl dros y ffordd roi'r gorau i weithio i ngwylio fi ac fe ddaeth na rywun draw o'r syrjeri doctor gyfagos i holi 'os oedd pob dim yn iawn.' 'Reit amlwg bo nhw ddim' oedd yr ateb, dwi'n meddwl.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Ar ôl ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn ychydig wythnosau yn ôl, dagrau hapus oeddan nhw ac mi oedd yna lot o feddyliau ac emosiynau'n berwi yndda'i ar y pryd. Mi oeddwn i hefyd yn meddwl am y bobl hynny sydd ddim o gwmpas erbyn hyn fydda'n falch ohona'i.

Disgrifiad o’r llun,

Llŷr gyda thlws Llyfr y Flwyddyn am ei nofel Pridd

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Cnoi'n ewinedd a gorweithio ond dwi'n rhy brysur i stopio'r un o'r ddau yn anffodus.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?

Dwi wedi gwylio Bladerunner 2049 saith gwaith felly mae'n debyg mod i'n hoff iawn o'r ffilm honno. O ran rhai agweddau mae hi'n rhagori ar yr un wreiddiol ond mae honno'n dda iawn hefyd. Mae trac sain y ddwy yn grêt hefyd. Yr albwm dwi'n gwrando arni fwya ydi IV gan Cowbois Rhos Botwnnog.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Fy nhaid ar ochr fy nhad dwi'n meddwl. Wnes i rioed gyfarfod o ond yn ôl pob tebyg 'da ni'n reit debyg ac mae pobl wedi bod yn ein cymharu ni ers dwi'n ddim o beth. Mi fydda hi'n dda siarad efo'r cysgod sydd wedi bod wrth fy ymyl i cyhyd ac mi oedd o hefyd yn hoff o'i beint yn ôl pob sôn!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n fawr o nofiwr.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Picio acw a gwneud rhywbeth o gwmpas y lle 'cw, sgwennu, a byta'n dda.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Llun o griw gwreiddiol Y Stamp yn y lansiad cyntaf un. Mi oeddan ni'n ifanc iawn ar y pryd ac yn barod iawn i herio'r drefn ac er ein bod ni'n hŷn ma'r ysbryd Stampus 'na dal o gwmpas dwi'n meddwl.

Ffynhonnell y llun, Y Stamp
Disgrifiad o’r llun,

Criw gwreiddiol y Stamp: Elan Grug Muse, Miriam Elin Jones, Iestyn Tyne a Llŷr Titus

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Dwi'n licio rhwymo llyfrau, ond dwi'm yn dda iawn. Mae yna nifer o rwymwyr llyfrau talentog iawn yn fyw heddiw a sawl un hanesyddol hefyd. Mi fyddai cael diwrnod yng nghorff un o'r rheiny a chael bwrw iddi i rwymo llyfr yn brofiad gwerth chweil. Fel arall David Lynch tasa fo ond i brofi'r byd drwy'i ymennydd eithriadol o.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig